Fy Trivallis i

Dweud eich dweud ar newidiadau i renti a thaliadau gwasanaethau

26 October 2026

Hoffem gael eich barn ar ddau newid posibl o fis Ebrill 2027 ymlaen: Cynnydd mewn rhent o hyd at 4% ynghyd (â £1 yr wythnos ar gyfer rhai eiddo), a taliadau gwasanaeth newydd ar gyfer rhai gwasanaethau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn eich rhent ar hyn o bryd

Gofalu am eich cartref yw ein blaenoriaeth. Rydyn ni am barhau i ddarparu gwaith trwsio o safon, buddsoddi yn ein cartrefi a darparu’r gwasanaethau rydych chi’n dibynnu arnyn nhw.

Fodd bynnag, mae’r gost o wneud hyn yn parhau i godi. Mae prisiau uwch ar gyfer atgyweiriadau, deunyddiau, yswiriant a gwasanaethau hanfodol eraill yn golygu bod angen i ni ddod o hyd i incwm ychwanegol i helpu i dalu’r costau hyn.

Dyna pam rydyn ni’n ystyried rhai newidiadau o fis Ebrill 2027, gan gynnwys cynnydd mewn rhent a chyflwyno rhai taliadau gwasanaeth.

Pa newidiadau rydyn ni’n eu cynnig?

Rydyn ni’n ystyried:

  • Cynnydd mewn rhent o hyd at 4% (ynghyd â £1 yr wythnos ar gyfer rhai eiddo).
  • Cyflwyno ffioedd gwasanaeth ar gyfer rhai gwasanaethau sydd heb eu cynnwys yn eich rhent ar hyn o bryd

Does dim unrhyw benderfyniad wedi’i wneud eto. Rydyn ni eisiau clywed beth rydych chi’n ei feddwl cyn penderfynu ar unrhyw beth.

Cynnydd arfaethedig mewn rhent

Rydyn ni’n ystyried cynyddu rhenti o hyd at 4% (ynghyd â £1 yr wythnos ar gyfer rhai eiddo) o fis Ebrill 2027.

Er enghraifft:

  • Os yw’ch rhent ar hyn o bryd yn £100 yr wythnos, byddai’n cynyddu i £104 yr wythnos

Byddai’r incwm ychwanegol yn ein helpu ni i wneud y canlynol:

  • Gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw
  • Gwella cartrefi presennol
  • Buddsoddi mewn cymdogaethau lleol
  • Parhau i ddarparu gwasanaethau sy’n cefnogi tenantiaid

Dyma’r swm y mae Llywodraeth Cymru yn caniatáu inni gynyddu rhenti.

Taliadau gwasanaeth arfaethedig

Ar hyn o bryd, mae Trivallis yn talu am rai gwasanaethau ar ran yr holl denantiaid, hyd yn oed os mai dim ond rhai tenantiaid sy’n elwa arnyn nhw.

Rydyn ni’n ystyried cyflwyno taliadau gwasanaeth i dalu rhai o’r costau hyn.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Goleuadau awyr agored cymunedol a chostau cynnal a chadw diogelwch rhag tân mewn ardaloedd cymunedol
  • Yswiriant adeiladau
  • Cydwasanaethau eraill a ddarperir i denantiaid

Pam rydyn ni’n cynnig y newid hwn?

Mae yna ddau brif reswm:

1. Mae’n decach

Mae rhai tenantiaid eisoes yn talu ffioedd gwasanaeth, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tai gwarchod a rhai fflatiau.

Mae tenantiaid eraill yn derbyn gwasanaethau ond ddim yn cyfrannu tuag at y gost ar hyn o bryd.

Rydyn ni eisiau system lle mae pobl yn talu am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn yn unig.

2. Mae’n diogelu buddsoddiad mewn cartrefi

Pan fydd Trivallis yn talu am wasanaethau o’r incwm rhent, mae llai o arian ar gael ar gyfer atgyweiriadau, cynnal a chadw a gwelliannau.

Mae codi tâl ar wahân am wasanaethau yn helpu i sicrhau bod modd gwario mwy o arian rhent ar gynnal cartrefi.

Faint allai’r taliadau gwasanaeth ei gostio?

Rydyn ni’n disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o denantiaid a gaiff eu heffeithio gan y newidiadau hyn yn talu tua £1.30 yr wythnos.

Byddai unrhyw daliadau gwasanaeth yn ymddangos yn glir ar eich datganiad rhent.

Gwybodaeth bwysig

  • Dim ond am wasanaethau sydd o fudd uniongyrchol i chi y byddwn ni’n codi tâl amdanyn nhw.
  • Gellir talu llawer o daliadau gwasanaeth drwy Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar gyfer tenantiaid cymwys.
  • Gallwn roi cyngor a chefnogaeth os nad ydych yn siŵr sut gallai’r newidiadau hyn effeithio arnoch chi.

Dweud eich dweud

Hoffem i gymaint o denantiaid â phosib rannu eu barn.

Gallwch wneud hynny trwy:

  • Cwblhewch ein harolwg ar-lein – cymerwch ran yma (Saesneg yn unig)
  • Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 111 5050 a siaradwch ag aelod o’r staff
  • Ymunwch â’n grŵp ffocws ar-lein am 5.30pm ddydd Mercher 4 Tachwedd – cofrestrwch yma
  • Dewch i un o’n sesiynau galw heibio
    • Canolfan Pen Dinas, dydd Llun 2 Tachwedd, 3.30pm
    • Cae Fardre, dydd Mawrth 3 Tachwedd, 3.30pm
    • Heol y Mynydd, dydd Mawrth 3 Tachwedd, 3.30pm
    • Ty Pennant, Pontypridd, dydd Iau 5 Tachwedd, 12.00-3.00pm

Pam mae’ch barn chi’n bwysig

Does dim unrhyw benderfyniad terfynol wedi’i wneud eto.

Hoffem ddeall:

  • Ydy’r cynigion hyn yn teimlo’n deg
  • Sut gallan nhw effeithio arnoch chi
  • Unrhyw bryderon sydd gennych chi
  • Unrhyw syniadau yr hoffech i ni eu hystyried

Rhannwch eich barn erbyn dydd Iau 5 Tachwedd am hanner nos. Drwy gymryd rhan, gallech fod yn un o ddeg o bobl a fydd yn ennill taleb Love2Shop gwerth £25, os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio’r penderfyniad terfynol.