Fy Trivallis i

Rhowch wybod am broblem am y tro cyntaf

Siaradwch â’n tîm 24/7

Datrys yn anffurfiol

Os nad ydych chi’n hapus â’r ffordd y deliwyd â’r broblem, gallwch wneud cwyn ffurfiol i ni mewn un o’r ffyrdd canlynol:

  • Gwnewch gwyn ar Fy Trivallis i
  • Cysylltwch â’n tîm ar 03000 030 888. Dywedwch wrthym eich bod chi’n cwyno.
  • Anfonwch e-bost at Customerservices@trivallis.co.uk
  • Ysgrifennwch atom yn: Cwynion a Phryderon, Trivallis, Tŷ Pennant, Mill Street, Pontypridd, CF37 2SW.

Byddwn ni’n cysylltu â chi o fewn deuddydd i gael mwy o wybodaeth am eich cwyn. Ein nod fydd datrys y broblem o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ymchwiliad ffurfiol

Os ydych chi’n anhapus o hyd â’n gwasanaeth neu’n diffyg gweithredu effeithiol, gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei symud i’n Cam Ymchwiliad Ffurfiol. Bydd uwch aelod staff yn ymchwilio i’ch cwyn. Ein nod fydd ymateb i Ymchwiliadau Mewnol Ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith.

Ydych chi’n anhapus â’r canlyniad?

Os nad ydym ni wedi datrys y broblem o hyd, gallwch gysylltu â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth leol am gyngor. Neu cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon drwy:

Ffôn: 0300 790 0203

E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru

Gwefan: www.ombwdsmon.cymru

Ysgrifennwch at: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed CF35 5LJ

Fel arfer, mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi wneud eich cwyn i ni yn gyntaf i roi cyfle i ni gywiro’r mater.

Cyfryngau Cymdeithasol

Rydym ni’n deall – os nad ydych chi’n hapus gyda ni, gallech ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni’n ceisio ymateb gyda help a chymorth i bob neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ond y ffordd gyflymaf o ddatrys y broblem yw ymestyn allan i’n Canolfan Gyswllt ar 03000 030 888. Dyma’r ffordd swyddogol o ddatrys pethau ac rydym ni’n barod i’ch helpu chi.

Gwneud hawliad cyfreithiol

Mae llawer o gwmnïau rheoli hawliadau yn bodoli sy’n cynnig cael iawndal i denantiaid sy’n cael problemau â diffyg atgyweirio. Yn aml, maen nhw’n cysylltu â thenantiaid yn uniongyrchol drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Credwn fod llawer o gwmnïau rheoli hawliadau yn ymddwyn yn anonest trwy:

  • Dargedu tenantiaid agored i niwed: Mae rhai cwmnïau’n canolbwyntio ar denantiaid sy’n wynebu amser anodd, fel trafferthion ariannol neu anawsterau eraill, ac nad ydynt yn ymwybodol o’u hawliau.
  • Gwneud addewidion ffug: Mae cwmnïau hawliadau cyfreithiol yn addo arian i denantiaid am broblemau fel gwaith trwsio tai neu amodau byw gwael. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y byddant yn ennill a gallai tenantiaid orfod talu llawer o dreuliau cyfreithiol os byddant yn colli’r achos.
  • Cynyddu costau cyfreithiol: Gall gweithio gyda’r cwmnïau hyn ychwanegu mwy o dreuliau i denantiaid, gan waethygu eu trafferthion ariannol. Nid yw llawer o denantiaid yn gallu fforddio’r costau hyn, gan wneud eu sefyllfa’n waeth byth.

Byddwch yn ofalus os bydd cwmnïau rheoli hawliadau’n cysylltu â chi. Mae’n bwysig siarad â ffynonellau dibynadwy am gyngor, fel y cyngor lleol, Shelter Cymru neu Gyngor ar Bopeth.