Caredig
Yn Trivallis, mae bod yn garedig yn ganolog i bopeth rydym ni’n ei wneud. Trwy fod yn garedig yn ein rhyngweithiadau o ddydd i ddydd, credwn ein bod yn creu amgylchedd cefnogol a thosturiol i’n tenantiaid, i gydweithwyr ac i’r gymuned.
Caredigrwydd a pharch:
Dangos caredigrwydd a gofal i denantiaid, cydweithwyr a’r gymuned.
Trin pawb gyda pharch, gan fod yn foesgar.
Empathi a dealltwriaeth:
Gwrando gydag empathi a deall anghenion a sefyllfaoedd unigol.
Ystyried effaith ein gweithredoedd ar bobl eraill.
Cyfathrebu effeithiol:
Annog cyfathrebu agored, gonest, cadarnhaol, nad yw’n barnu.
Defnyddio iaith ystyriol a chefnogol, bod yn gwrtais bob amser.
Cefnogi a chydnabod:
Cynnig cefnogaeth i bobl mewn angen, boed yn denantiaid neu’n gydweithwyr, a chydnabod eu llwyddiannau.
Mynd y filltir ychwanegol:
Mynd y tu hwnt i’r arfer i helpu tenantiaid a chydweithwyr.
Bod yn barod i wneud ymdrech ychwanegol i fodloni anghenion pobl eraill.