Fy Trivallis i

Mae’r dudalen hon yn esbonio beth yw buddion cymunedol, pa gymorth sydd ar gael a sut gall eich grŵp wneud cais.

Beth yw buddion cymunedol?

Cyfraniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol y mae ein contractwyr yn eu gwneud i gymunedau lleol y tu hwnt i’w prif waith gyda Trivallis yw buddion cymunedol. Mae’r cymorth wedi’i gynllunio i helpu sefydliadau ar lawr gwlad yn ardaloedd Trivallis.

Mae dwy ran i gynlluniau buddion cymunedol.

  1. Contractau rheolaidd: Mae contractwyr sy’n darparu ein gwasanaethau bob dydd yn cynnig buddion cymunedol yn seiliedig ar werth eu contract. Mae modd gwario’r rhain yn unrhyw le, a gall grwpiau ar lawr gwlad wneud cais am gyllid neu fathau eraill o gymorth trwy ein ffurflen ar-lein.
  1. Datblygiadau tai newydd: Mae contractwyr sy’n adeiladu ein hystadau newydd yn darparu buddion cymunedol gwerth 0.25% o werth y contract. Mae’n rhaid gwario’r arian hwn yn yr ardal leol, gyda thrigolion yn helpu i benderfynu sut mae’n cael ei ddefnyddio. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau yn eich ardal.

Enghreifftiau o gymorth o gontractau rheolaidd:

  • Rhoddion o ddeunyddiau, offer, staff ac adnoddau i helpu gyda phrosiectau neu ddigwyddiadau bach
  • Cymorth gydag addysg, gyrfaoedd a datblygu sgiliau (e.e. sgiliau digidol, cymorth cyflogaeth, ffug gyfweliadau)
  • Gwelliannau amgylcheddol, megis plannu coed neu gasglu sbwriel
  • Hyfforddiant, mentora neu feithrin gallu ar gyfer sefydliadau cymunedol

 

 

Noder:

Dim ond ychydig o brosiectau adnewyddu mawr neu brosiectau adeiladu cost uchel rydyn ni'n eu cefnogi, gan eu bod nhw'n fwy cymhleth. Mae angen cynllunio a chydlynu gofalus, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod pob contractwr yn gweithio'n ddiogel, yn effeithlon ac mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'r prosiect ehangach. Mae croeso mawr i chi wneud cais am gymorth o'r fath, ond cofiwch mai dim ond dau neu dri o'r prosiectau hyn rydyn ni'n eu cefnogi bob blwyddyn.

Pam mae gennym ni broses ymgeisio

Mae’r galw am fuddion cymunedol wedi cynyddu’n aruthrol, felly hoffem sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig mewn modd teg a chyson.

Mae cael proses ymgeisio ffurfiol yn ein helpu i:

  • Sicrhau tegwch a thryloywder
  • Deall anghenion pob grŵp
  • Paru ceisiadau â chymorth contractwr priodol
  • Rheoli’r galw ac osgoi ceisiadau anffurfiol neu answyddogol

Gwneud cais am gymorth o gontractau rheolaidd

1. Cam 1: Llenwi’r ffurflen ar-lein

Dywedwch wrthym am eich grŵp, y cymorth sydd ei angen arnoch a phryd rydych chi ei angen.

2. Cam 2: Adolygu ac asesu

Bydd eich cael yn cael ei adolygu gan ein Panel Buddion Cymunedol sy’n cynnwys tenantiaid a staff. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom.

3. Cam 3: Paru eich cais

Os yw’ch cais yn addas, byddwn yn ei baru â chontractwr Trivallis sydd â’r sgiliau a’r gallu i helpu.

4. Cam 4: Y camau nesaf

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad eich cais ac, os caiff ei gymeradwyo, yn cytuno ar gynllun gyda chi a’r contractwr.

Sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau

Wrth adolygu ceisiadau, gallwn ystyried:

  • Manteision i’r gymuned leol
  • Y cydbwysedd rhwng costau a nifer y buddiolwyr
  • A oes modd cyflawni’r cais o fewn yr adnoddau sydd ar gael

Mae ein panel yn cwrdd 3-4 gwaith y flwyddyn i benderfynu pa brosiectau i’w cefnogi. Os ydych chi angen penderfyniad yn gyflym, cysylltwch â ni i wirio pryd mae’r panel yn cwrdd nesaf.

Ein nod bob amser yw dosbarthu cymorth yn deg a chyrraedd cymaint o grwpiau â phosibl.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Sefydliadau llawr gwlad sy’n gweithredu yn ardaloedd Trivallis. Os nad ydych chi'n siŵr a yw eich grŵp yn gymwys, mae croeso i chi wneud cais. Rydyn ni yma i helpu.

Angen help?

Os oes gennych chi gwestiynau cyn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu â’n Partner Buddion Cymunedol, Lisa Roberts, yn lisa.roberts@trivallis.co.uk.

Gwnewch hi heddiw!

Gwneud cais am fuddion cymunedol

Trivallis Housing Landlord Wales Seven people stand outdoors behind a wooden bench engraved with