Fy Trivallis i

Am haf o T-Fest

7 October 2026

Eleni, aeth T-Fest ar daith, ond fe wnaethon ni bethau ychydig yn wahanol. Yn hytrach na Trivallis yn penderfynu sut y dylai pob digwyddiad edrych, fe wnaethon ni roi'r arian a'r gefnogaeth i grwpiau cymunedol lleol i greu rhywbeth a oedd yn gweithio i'w hardal nhw.

Am haf gafon ni.

Eleni, aeth T-Fest ar daith, ond fe wnaethon ni bethau ychydig yn wahanol. Yn hytrach na Trivallis yn penderfynu sut y dylai pob digwyddiad edrych, fe wnaethon ni roi’r arian a’r gefnogaeth i grwpiau cymunedol lleol i greu rhywbeth a oedd yn gweithio i’w hardal nhw.

Ac fe aethoch chi amdani go iawn.

O wyliau a diwrnodau o hwyl i’r teulu i gerddoriaeth, gemau, bwyd a gweithgareddau, daeth cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf at ei gilydd i ddathlu’r bobl a’r lleoedd sy’n eu gwneud yn arbennig.

Fe welson ni gymdogion yn cymdeithasu, teuluoedd yn creu atgofion, plant yn mwynhau gwneud gweithgareddau a grwpiau lleol yn dangos faint y gallan nhw ei gyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd.

I ni, un o’r pethau gorau oedd bod yno.

Cafodd ein timau dreulio amser gyda thrigolion i ffwrdd o’r sgyrsiau arferol am gartrefi a gwasanaethau. Fe wnaethon ni sgwrsio, chwarae gemau, tynnu lluniau, helpu ac, mewn rhai achosion, neidio ar y castell gwynt!

Fe wnaethon ni hefyd ddechrau adeiladu rhywbeth gyda’n gilydd.

Casglodd ein draig Gymreig negeseuon ac atgofion gan bobl ym mhob digwyddiad am yr hyn maen nhw’n ei garu am ble maen nhw’n byw a’u gobeithio ar gyfer eu cymuned. Daeth pob cen newydd a ychwanegwyd at y ddraig yn rhan o’i stori.

Ac roedd y neges gan drigolion yn glir: mae cymuned yn bwysig.

Nid yw pethau bob amser yn mynd yn union fel y bwriadwyd, a bu’n rhaid canslo un o’n digwyddiadau. Ond mae hynny’n rhan o weithio gyda chymunedau go iawn.

Diolch i bawb a ddaeth draw, gwirfoddoli, trefnu digwyddiad, ychwanegu cen ar y ddraig, chwarae gêm, rhannu gwên neu stopio am sgwrs.

Chi wnaeth T-Fest yn ddigwyddiad mor arbennig.

Ac mae’r haf hwn wedi dangos rhywbeth pwysig iawn i ni: pan fydd gan bobl leol y lle, y gefnogaeth a’r hyder i arwain, gall pethau anhygoel ddigwydd.