Fy Trivallis i

Llwydcoed yn Penderfynu

13 November 2026

Sut fyddech chi'n gwario £4,457 i wneud Llwydcoed yn lle gwell?

Fel rhan o’r datblygiad i ddod â chartrefi newydd i hen safle Ysgol Llwydcoed, mae ein contractwyr, Prestige Homes, wedi darparu cronfa o arian i’w buddsoddi yn y gymuned lleol.

A does neb yn adnabod y gymuned yn well na’i thrigolion. Dyna pam mai chi sy’n cael penderfynu sut mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio!

P’un a oes gennych chi syniad gwych neu ddim ond eisiau cefnogi’r prosiectau sy’n eich ysbrydoli, mae dwy ffordd i chi gymryd rhan:

  1. Cyflwynwch eich syniad – rhannwch brosiect a allai wneud gwahaniaeth go iawn.
  2. Pleidleisiwch dros eich ffefrynnau – helpwch i ddewis y mentrau sydd bwysicaf i chi.

Oes gennych chi syniad? Gadewch i ni droi’r syniad yn realiti!

Oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod syniad gwych? Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n hawdd i chi roi cynnig arni.

Sut i gyflwyno’ch syniad:

Cwblhewch y ffurflen hon

Dim ond ychydig funudau y bydd hi’n ei gymryd i chi wneud cais syml. Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen cefnogaeth arnoch chi, bydd ein tîm yn barod i helpu pob cam o’r ffordd.

Cwblhewch eich cyflwyniad erbyn dydd 22 o Dachwedd 2026 am 5pm.

Rhagor o wybodaeth

Dewch draw i Ganolfan Gymunedol Llwydcoed on 20 o Dachwedd 2026 rhwng 3pm a 5pm i ddarganfod mwy am yr arian sydd ar gael.

Byddwch yn gallu:

  • gofyn cwestiynau
  • cael cyngor
  • sgwrsio ag aelodau’r tîm am eich syniad

 

Pleidleisio: Codi’ch llais

Unwaith y bydd yr holl gynigion wedi’u derbyn, bydd hi’n amser i’r gymuned ddweud ei dweud. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu yn person dros y prosiectau sydd bwysicaf I chi.

Mae’r cyfnod pleidleisio ar-lein a chofrestru digwyddiadau yn agor 23 o Dachwedd ac yn cau 29 o Dachwedd.

Ar y dyddiad hwnnw, cliciwch yma.

Wyt ti’n mwynhau cymryd rhan yn berson? Ymunwch â ni yn ein digwyddiad ar 01 o Ragfyr yng Nghanolfan Gymunedol Llwydcoed o 5pm tan 7pm, lle gallwch:

  • gwrdd â thimau’r prosiect
  • gwrando ar eu cynigion yn bersonol
  • pleidleisio yn y fan a’r lle
  • mwynhau lluniaeth a chysylltu â’ch cymdogion

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad trwy’r un ddolen uchod, pan fydd wedi ymddangos.

 

Beth i’w ddisgwyl

Beth sy’n digwydd?

Rydyn ni’n dod â thrigolion at ei gilydd i:

  • ddarganfod syniadau am brosiectau lleol
  • penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn cyllid gan y Gronfa Budd Cymunedol (diolch i Prestige Homes!)

 

Sut mae’n gweithio

  • Cyfle i glywed, gwylio, neu ddarllen cyflwyniadau byr am wahanol brosiectau cymunedol
  • Sgorio pob syniad gan ddefnyddio meini prawf syml, cyfeillgar
  • Eich pleidleisiau chi fydd yn penderfynu beth sy’n cael ei ariannu
  • Yn y digwyddiad gallwch gwrdd â phobl eraill o’r gymuned, mwynhau diod a bwyd, a dod i ‘nabod eich gilydd

 

Pwy all gymryd rhan?

  • Trigolion Llwydcoed a’r ardaloedd cyfagos
  • Un bleidlais fesul aelwyd
  • Os ydych chi’n ymwneud yn ffurfiol â chynnig (e.e. rydych chi’n rhan o’r pwyllgor), ni fydd modd i chi bleidleisio yn yr achos

 

Beth y gellir ei ariannu?

  • Syniadau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd
  • Prosiectau sy’n cryfhau’r gymuned
  • Gweithgareddau ag all ddechrau cyn diwedd mis Fawrth 2027
  • Grwpiau gydag incwm o £100,000 neu lai

Noder: Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer cyflogau, gweithgareddau crefyddol/gwleidyddol, neu brosiectau sydd o fudd i lond llaw o bobl yn unig.

 

Eich cyfle i wneud gwahaniaeth yn Llwydcoed!

Dyma’ch cyfle i gael effaith go iawn yn Llwydcoed. P’un a oes gennych chi syniad mawr neu ddim ond llygad craff am yr hyn a allai wneud gwahaniaeth, mae eich llais yn bwysig.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Lisa.Roberts@trivallis.co.uk