Fy Trivallis i

Pennod newydd i Bontypridd wrth i Trivallis gwblhau pryniant Stryd y Taf

10 September 2026

Mae Trivallis wedi cwblhau'r broses o brynu eiddo ar Stryd y Taf ym Mhontypridd, gyda chymorth gwerth £837,004 gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cartrefi newydd a gofod masnachol sydd wedi'u cynllunio i ddod â gweithgaredd newydd i ganol y dref.

Mae Trivallis wedi cwblhau’r broses o brynu eiddo ar Stryd y Taf ym Mhontypridd, gyda chymorth gwerth £837,004 gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cartrefi newydd a gofod masnachol sydd wedi’u cynllunio i ddod â gweithgaredd newydd i ganol y dref.

Bydd y cynlluniau uchelgeisiol yn trawsnewid rhan amlwg a lled-adfeiliedig o Stryd y Taf, ger Llys Cadwyn, gan greu cartrefi modern ochr yn ochr â lle i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau ar y cyd yn ystod y dydd a min nos.

Bydd y datblygiad yn ategu’r gwaith adfywio sydd eisoes yn digwydd o amgylch y pen hwn o Bontypridd ac yn cefnogi cynlluniau ehangach i greu canol tref mwy bywiog a chroesawgar.

Daw hyn wrth i Bontypridd barhau i adeiladu ei gais i ddod yn Dref Diwylliant gyntaf y DU, gyda buddsoddiad sylweddol eisoes yn helpu i gryfhau mannau diwylliannol, hamdden a chyhoeddus y dref.

Meddai Louise Attwood, Cyfarwyddwr Datblygiadau Trivallis:

“Mae cwblhau’r pryniant yn garreg filltir gyffrous ac yn dod â ni gam yn nes at roi bywyd newydd i’r rhan hon o Stryd y Taf.

“Rydyn ni’n gwneud mwy na dim ond adeiladu cartrefi i’w rhentu – hoffem greu datblygiad sy’n ychwanegu rhywbeth at Bontypridd, a chyda’r buddsoddiad yn y metro, rydyn ni’n gweld cyfle gwirioneddol i’r rhai sy’n byw yng Nghaerdydd symud allan o’r ddinas i ardal sy’n wirioneddol ddynamig, bywiog a fforddiadwy.

“Rydyn ni’n falch o fuddsoddi yn y dref a chyfrannu at ei dyfodol cyffrous. Hoffem ddiolch i’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Chyngor RhCT sydd wedi darparu cefnogaeth a’r cyllid ar gyfer y buddsoddiad.”

Trivallis Housing Landlord Wales People sit, walk, and talk in a modern outdoor courtyard with brick walls, trees, benches, and red signage that reads “TAFF STREET VAULTS.” Some people are on an elevated terrace, and red accents decorate the area.

Meddai’r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig ar gyfer ailddatblygu safle allweddol yng nghanol y dref ac yn gam cadarnhaol tuag at ddarparu cartrefi newydd yng nghanol Pontypridd. Bydd gwneud defnydd gweithredol o’r newydd o’r lleoliad amlwg hwn yn ategu’r adfywiad ehangach sy’n digwydd ledled y dref ac yn helpu i greu canol tref bywiog, deniadol a chynaliadwy.

Rydyn ni’n croesawu buddsoddiad Trivallis ym Mhontypridd ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid i gyflwyno datblygiadau sy’n cefnogi ein cymunedau ac yn cyfrannu at ddyfodol hirdymor y dref.”

Meddai Siân Gwenllian, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: “Mae tai yn allweddol i fwrlwm a bywiogrwydd ein trefi, a bydd y caffaeliadau hyn yn caniatáu i’r gwaith symud ymlaen ar y cynlluniau manwl.

“Gall ailddatblygu’r safle hwn ar gyfer tai a gofod cymunedol helpu i ddenu pobl i ganol tref Pontypridd. Dyma’r union fath o bartneriaeth yr hoffem ei gweld yn sbarduno adfywio ledled Cymru.”

Bydd gwaith nawr yn mynd rhagddo ar y cynlluniau manwl ar gyfer y safle, gyda rhagor o wybodaeth i’w rhannu wrth i’r prosiect ddatblygu.