Fy Trivallis i

Partner datblygu wedi’i benodi ar gyfer adfywio Penrhys

9 October 2026

Mae Trivallis wedi penodi Wates Residential yn bartner datblygu ar gyfer adfywio Penrhys, gan nodi carreg filltir bwysig yn un o'r prosiectau buddsoddi cymunedol mwyaf yn y rhanbarth.

Yn dilyn proses gaffael a barodd flwyddyn, dewiswyd Wates Residential ar ôl ei asesu yn erbyn ystod o feini prawf gan gynnwys profiad, ansawdd, gwerthoedd ac ymrwymiad i fudd cymunedol.

Mae Wates Residential yn ddatblygwr a chontractwr preswyl blaenllaw sy’n eiddo i deulu ac sy’n arbenigo mewn adfywio trefol. Mae’r cwmni’n gweithio ochr yn ochr â chymdeithasau tai, awdurdodau lleol a phartneriaid yn y sector preifat i drawsnewid cymdogaethau a chreu lleoedd lle gall pobl ffynnu.

Gyda mwy na 125 mlynedd o brofiad, mae Wates wedi adeiladu enw da am gyflawni prosiectau adfywio cymhleth a mabwysiadu dull cydweithredol sy’n rhoi cymunedau wrth galon datblygu. Fel rhan o brosiect Penrhys, bydd Wates yn helpu i greu cyfleoedd hirdymor i bobl leol drwy raglenni hyfforddi, cyflogaeth a datblygu sgiliau, tra hefyd yn cefnogi busnesau lleol, cyflenwyr a sefydliadau cymunedol.

Mae’r penodiad hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer rhaglen adfywio Penrhys, a fydd yn creu cartrefi newydd, yn gwella’r amgylchedd lleol ac yn cefnogi dyfodol hirdymor y gymuned.

Disgwylir i’r contract gyda Wates gael ei lofnodi yn ystod yr wythnosau nesaf. Wedi hynny, bydd y prosiect yn symud o’r cam cynllunio tuag at gyflawni. Mae trafodaethau gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn parhau wrth i Trivallis geisio sicrhau caniatâd cynllunio erbyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Louise Attwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, Asedau a Chynaliadwyedd Trivallis:

“Mae penodi Wates Residential yn foment allweddol ar gyfer adfywio Penrhys. Yn dilyn proses gaffael drylwyr, rydym yn falch iawn o fod wedi dewis partner sy’n rhannu ein huchelgais i greu cartrefi o ansawdd uchel a chyfleoedd parhaol i bobl leol.”

“Mae’r penodiad hwn yn rhoi’r hyder a’r arbenigedd sydd eu hangen arnom i wireddu ein gweledigaeth. Er bod gwaith i’w wneud o hyd cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau, rydym bellach gam yn nes at gyflawni datblygiad a fydd yn dod â manteision hirdymor i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

Dywedodd Dave Bullock, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Wates Residential:

“Mae Penrhys yn un o’r cyfleoedd adfywio mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gael ein dewis gan Trivallis yn bartner datblygu.”

“Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle i greu cartrefi o ansawdd uchel a manteision parhaol i’r gymuned, tra’n cefnogi dyfodol hirdymor Penrhys. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda Trivallis, preswylwyr, Cyngor Rhondda Cynon Taf a rhanddeiliaid eraill wrth i’r cynlluniau symud ymlaen.”

Er na fydd gwaith adeiladu yn dechrau ar unwaith, mae penodi Wates Residential yn garreg filltir bwysig i Benrhys ac yn dod â’r prosiect adfywio gam sylweddol yn nes at gael ei gyflawni.