Fy Trivallis i

Rhybudd o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol

1 September 2026

Rhoddir rhybudd drwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Trivallis Cyf yn cael ei gynnal yn Nhŷ Pennant, Stryd y Felin, CF37 2SW am 2pm ar 15 Medi 2026.

Rydym am sicrhau bod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn hygyrch i’n holl gyfranddalwyr ac  felly eleni, mae gennych gyfle i gymryd rhan o’ch cartref eich hun. Mae ein CCB yn gyfle i ddweud eich dweud am y ffordd y mae eich Cymdeithas Tai Cydfuddiannol Cymunedol yn cael ei rhedeg ac i bleidleisio dros bobl sy’n sefyll am etholiad ac ailetholiad i Fwrdd eich Cwmni Cymunedol Cydfuddiannol.

Busnes i’w ystyried yn y cyfarfod fydd y penderfyniadau cyffredin: 

  1. Adroddiad y Bwrdd ar faterion y Cwmni Cymunedol Cydfuddiannol ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
  2. Yr adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2026.
  3. Ailbenodiad ac estyniad penodiad yr archwilwyr allanol, Menzies LLP
  4. Ail-ethol Aelodau’r Bwrdd

Gwybodaeth gyffredinol 

Ysgrifennwyd at gyfranddalwyr i roi mynediad iddynt i ddogfennau’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar lein, i roi eu ffurflen bleidleisio a dolen i gael mynediad i’r cyfarfod ar-lein iddynt. Os ydych yn credu eich bod yn gyfranddaliwr ac nad ydych wedi derbyn y ddolen ar-lein neu’r ffurflen pleidleisio drwy’r post, anfonwch e-bost at agm@trivallis.co.uk.

Os hoffech fod yn gyfranddaliwr, ewch i’n gwefan www.trivallis.co.uk a chwilio am Cymryd rhan.

Gall cyfranddalwyr enwebu cynrychiolwyr i weithredu ar eu rhan a gellir gwneud trefniadau i helpu cyfranddalwyr sydd angen cymorth. Os ydych yn pleidleisio cyn y cyfarfod neu i enwebu cynrychiolydd, dylai cyfranddalwyr ddychwelyd eu ffurflen bleidleisio erbyn 11am ar 11 Medi 2026 fan bellaf.

Dyddiad y rhybudd hwn yw 1 Medi 2026.

TRWY ORCHYMYN Y BWRDD   

Lisa Pinney

Ysgrifennydd y Cwmni