Fy Trivallis i

Paneli solar plygio i mewn yn eich cartref

10 August 2026

Bydd rheolau newydd o 27 Awst yn caniatáu i rai paneli solar plygio i mewn gael eu gwerthu a'u defnyddio yn y DU. Fodd bynnag, ni all tenantiaid Trivallis osod paneli solar plygio i mewn yn eu cartrefi.

O 27 Awst 2026 ymlaen, mae rheolau newydd yn golygu y gellir gwerthu a defnyddio rhai paneli solar plygio i mewn bach yn y DU. Mae’r paneli hyn yn plygio i mewn i soced safonol a gallant gynhyrchu trydan o olau’r haul.

A allaf osod paneli solar plygio i mewn yn fy nghartref Trivallis?

Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn gwneud unrhyw newidiadau i’ch cartref. Mae hyn yn cynnwys gosod paneli solar neu atodi unrhyw beth i waliau, toeau, balconïau neu reiliau.

Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn rhoi caniatâd i’n tenantiaid osod paneli solar plygio i mewn yn eu cartrefi.

Pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad hwn?

Ein blaenoriaeth gyntaf yw eich cadw chi a’ch cymdogion yn ddiogel.

Cyn y gallwn ganiatáu i unrhyw offer newydd gael ei osod, mae angen i ni ystyried y canlynol yn ofalus:

  • Diogelwch trydanol
  • Diogelwch tân
  • Diogelwch adeilad
  • Gofynion yswiriant
  • Atgyweiriadau a gwaith chynnal a chadw yn y dyfodol
  • Diogelwch ardaloedd cyffredin a mannau cymunedol

Hyd yn oed os yw cynnyrch yn gyfreithlon i’w brynu, efallai na fydd yn addas i’w ddefnyddio mewn cartref Trivallis.

Chwilio am ffyrdd o leihau’ch biliau ynni?

Rydyn ni wedi ymrwymo i’ch helpu i wneud eich cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl.

Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau am arbed ynni ar ein gwefan, neu siarad â Swyddog Cyngor Ariannol am gynlluniau arbed ynni cymeradwy.

Diolch am ein helpu i gadw’ch cartref yn ddiogel, yn saff ac mewn cyflwr da.