Fy Trivallis i

Cymerwch reolaeth o’ch Credyd Cynhwysol – rhowch wybod am y cynnydd yn eich rhent!

1 April 2026

Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, dylech gadw trefn ar eich cyllid trwy ddiweddaru eich gwybodaeth rhent gyda’r Adran Gwaith…

Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, dylech gadw trefn ar eich cyllid trwy ddiweddaru eich gwybodaeth rhent gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ar neu ar ôl 03 Ebrill, nid cyn hynny.

Trwy weithredu’n brydlon a rhoi gwybod am y cynnydd yn eich rhent, byddwch chi’n gwneud yn siŵr eich bod yn cael y budd-daliadau llawn y mae gennych chi hawl iddyn nhw.

“Ble alla i ddod o hyd i’m taliadau rhent?”

  • Ym mis Chwefror, cawsoch lythyr yn nodi’r cynnydd yn eich rhent – bydd angen y llythyr hwn arnoch i roi gwybod am y cynnydd yn eich rhent.
  • Os nad yw’r llythyr gennych chi mwyach, gallwch fewngofnodi i ‘Fy Trivallis i’ i wirio manylion newydd eich rhent sy’n newid ar 3 Ebrill.

 

Gweler ein canllaw cam wrth gam ar sut i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir ar y porth ‘Fy Trivallis i’:

1. Mewngofnodwch i’r porth ‘Fy Trivallis i’ a dewiswch ‘My rent statements’

Trivallis Housing Landlord Wales A screenshot shows three buttons: "Report a Repair" with a wrench icon, "Amend a Repair" with a wrench and screwdriver icon, and "My rent statements" with a card icon circled in yellow.

2. Dewiswch ‘Secure (Converted) Occupation Contract’

Trivallis Housing Landlord Wales Screenshot of an account summary page showing tenure type as "Secure (Converted) Occupation Contract," tenancy reference 322380, and a current balance of £0.00. The tenure type is circled in yellow.

3. Dewch o hyd i’r wybodaeth allweddol am eich eiddo. Bydd angen i chi roi’r ffigur ‘Actual Rent Charge (The rent charge for your property)’.

Os oes gennych chi daliadau gwasanaeth, bydd angen i chi roi’r ffigur ‘Calculated Service Charge Eligible for HB/ UC (The service charges that HB/UC will pay for).

Trivallis Housing Landlord Wales A screenshot of a key property information section showing rent and service charges. The actual rent charge is £85.64, and the service charge eligible for HB/UC is £24.25. Both are highlighted with yellow ovals.

 

Byddwch yn barod i ddiweddaru eich hawliad Credyd Cynhwysol

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon hysbysiad ‘To-Do’ atoch yn wythnos gyntaf mis Ebrill – o 6 Ebrill ymlaen yn ôl pob tebyg – gan roi blaenoriaeth i’r hawlwyr y mae eu cyfnod asesu yn dod i ben gynharaf.

Bydd angen i chi roi gwybod am y cynnydd yn eich rhent cyn diwedd eich cyfnod asesu Credyd Cynhwysol er mwyn sicrhau eich budd-daliadau llawn.

“Pryd mae fy nghyfnod asesu?”

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio mewn cylchoedd misol o’r enw cyfnodau asesu; gallwch ddod o hyd i ddyddiadau eich cyfnod asesu yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Diwedd eich cyfnod asesu yw 7 diwrnod cyn eich dyddiad talu.

Er enghraifft: Mae Mr Smith yn cael taliad Credyd Cynhwysol ar yr 11eg o bob mis; mae hyn yn golygu bod ei gyfnod asesu yn dod i ben ar y 4ydd o bob mis.

Os bydd Mr Smith yn aros tan ar ôl y 4ydd o Ebrill i roi gwybod am y cynnydd yn ei rent, bydd wedi gwneud hyn y tu allan i’w gyfnod asesu ac ni fydd yn cael y swm uwch ar gyfer tâl rhent mis Ebrill ar 11 Ebrill. Mr Smith fydd yn gyfrifol am dalu’r diffyg hwn gan na fydd Credyd Cynhwysol yn ôl-ddyddio’r taliad hwn.

Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i rai hawlwyr roi gwybod am y newid cyn i Credyd Cynhwysol anfon yr hysbysiad ‘To-Do’ arferol.

“Beth sy’n digwydd os ydw i’n hwyr yn rhoi gwybod am y newid yn fy rhent?”

Os ydych chi’n rhoi gwybod am y cynnydd yn eich rhent ar ôl i’ch Cyfnod Asesu ddod i ben, ni fydd Credyd Cynhwysol yn diweddaru eich taliad ar gyfer y mis hwnnw ac, fel y soniwyd uchod, bydd angen i chi dalu’r diffyg.

Mae hyn yn golygu na fydd eich taliad Credyd Cynhwysol ar gyfer mis Ebrill yn cynnwys y rhent uwch, a bydd gennych ddiffyg rhent. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am y cynnydd yn eich rhent ar neu ar ôl 3 Ebrill a dim hwyrach na 7 diwrnod cyn dyddiad talu eich Credyd Cynhwysol er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli allan.

Cymerwch reolaeth o’ch cyllid a gwnewch yn siŵr bod eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n gywir.

 

Camau syml i ddiweddaru eich hawliad Credyd Cynhwysol:

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol: Sign in to your Universal Credit account – GOV.UK (www.gov.uk)
  2. Cliciwch ar yr eitem ‘To-Do’ ‘Confirm your housing costs’
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau gan ddefnyddio swm newydd eich rhent (o 03 Ebrill)

 

Gweler ein proses cam wrth gam ar sut i wneud y newidiadau:

1. Cadarnhewch fod eich costau tai yn newid o 03 Ebrill (nid 01 Ebrill neu 06 Ebrill).

Trivallis Housing Landlord Wales A webpage asks, "Did your housing costs change on 6 April 2026?" with "Yes" and "No" radio buttons, and a green "Continue" button below. The page title is "Date of change.

2. Cadarnhewch eich rhent wythnosol newydd

Trivallis Housing Landlord Wales A form titled "Changes to your rent" asks if you are still charged weekly for rent and the new weekly rent amount, with fields for yes/no selection and amount in pounds, plus Continue and Back buttons.

3. Cadarnhewch y newidiadau i’ch taliadau gwasanaeth

Trivallis Housing Landlord Wales A web page form asking about changes to weekly service charges, with Yes/No options, a text box for entering the new weekly charge in pounds, and buttons for Continue and Back.

Os ydych chi’n rheoli eich cyfrif Credyd Cynhwysol dros y ffôn, ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 0800 328 5644 i ddiweddaru eich rhent.

Beth os ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai?

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn derbyn Credyd Cynhwysol ond sy’n derbyn Budd-dal Tai, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, bydd y cyngor yn diweddaru eich hawliad Budd-dal Tai yn awtomatig gyda’ch taliadau rhent newydd.

Beth os ydych chi’n talu rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol?

Os ydych chi’n talu eich rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol, bydd eich taliadau eisoes wedi’u diwygio, a dylech fod wedi derbyn cadarnhad o hyn gan AllPay.

Cymorth ychwanegol pan fydd ei angen arnoch

Os oes angen help arnoch chi, mae ein Tîm Cyngor Ariannol yma i chi.
Ffon: 01443 494560
E-bost: MAT@Trivallis.co.uk

Cymerwch reolaeth. Gweithredwch. Sicrhewch eich budd-daliadau.