Fy Trivallis i

Ystrad yn Penderfynu

5 August 2026

Sut fyddwch chi'n gwario £1,625 i wneud Ystrad yn lle gwell nag erioed?

Sut fyddwch chi’n gwario £1,625 i wneud Ystrad yn lle gwell nag erioed?

Fel rhan o’r datblygiad i ddod â chartrefi newydd i Stryd William, Ystrad, mae ein contractwyr, WK Plasterers, wedi darparu potyn o arian i’w wario yma yn y gymuned.

A does neb yn adnabod y gymuned yn well na’i thrigolion. Dyna pam mai chi sy’n cael penderfynu sut mae’r arian hwn yn cael ei ddefnyddio!

P’un a oes gennych chi syniad gwych neu ddim ond eisiau cefnogi’r prosiectau sy’n eich ysbrydoli, mae dwy ffordd i chi gymryd rhan:

  1. Cyflwynwch eich syniad – rhannwch brosiect a allai wneud gwahaniaeth go iawn.
  2. Pleidleisiwch dros eich ffefrynnau – helpwch i ddewis y mentrau sydd bwysicaf i chi.

Oes gennych chi syniad? Gadewch i ni droi’r syniad yn realiti!

Oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod syniad gwych? Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n hawdd i chi roi cynnig arni.

Sut i gyflwyno’ch syniad:

Cwblhewch y ffurflen hon

Dim ond ychydig funudau y bydd hi’n ei gymryd i chi wneud cais syml. Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen cefnogaeth arnoch chi, bydd ein tîm yn barod i helpu pob cam o’r ffordd.

Cwblhewch eich cyflwyniad erbyn dydd Mercher 19 Awst.

Rhagor o wybodaeth

Dewch draw i Ganolfan Chwaraeon y Rhondda ddydd Llun 10 Awst am 6pm i ddarganfod mwy am yr arian sydd ar gael.

Byddwch yn gallu:

  • gofyn cwestiynau
  • cael cyngor
  • sgwrsio ag aelodau’r tîm am eich syniad

 

Pleidleisio: Codi’ch llais

Unwaith y bydd yr holl gynigion wedi’u derbyn, bydd hi’n amser i’r gymuned ddweud ei dweud. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein neu yn y cnawd dros y prosiectau sy’n eich cyffroi chi fwyaf.

Mae’r cyfnod pleidleisio ar-lein a chofrestru digwyddiadau yn agor ddydd Iau 20 Awst 2026 ac yn cau ddydd Sul 23 Awst am 5pm.

Ar y dyddiad hwnnw, cliciwch yma.

Profiad wyneb yn wyneb yn fwy at eich dant? Ymunwch â ni yn ein digwyddiad yn y cnawd ddydd Llun 24 Awst yng Nghanolfan Chwaraeon y Rhondda am 6pm, lle gallwch:

  • gwrdd â thimau’r prosiect
  • gwrando ar eu cynigion yn bersonol
  • pleidleisio yn y fan a’r lle
  • mwynhau lluniaeth a chysylltu â’ch cymdogion

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad trwy’r un ddolen uchod, pan fydd wedi ymddangos.

 

Beth i’w ddisgwyl

Beth sydd ar y gweill?

Rydyn ni’n dod â thrigolion at ei gilydd i:

  • ddarganfod syniadau am brosiectau lleol
  • penderfynu pa brosiectau fydd yn derbyn cyllid gan y Gronfa Budd Cymunedol (diolch i WK Plasterers!)

 

Sut mae’n gweithio

  • Cyfle i glywed, gwylio, neu ddarllen cyflwyniadau byr am wahanol brosiectau cymunedol
  • Sgorio pob syniad gan ddefnyddio meini prawf syml, cyfeillgar
  • Eich pleidleisiau chi fydd yn penderfynu beth sy’n cael ei ariannu
  • Yn y digwyddiad gallwch gwrdd â chyd-breswylwyr, mwynhau lluniaeth, a dod i ‘nabod eich gilydd

 

Pwy all gymryd rhan?

  • Trigolion Ystrad a’r ardaloedd cyfagos
  • Un bleidlais fesul aelwyd
  • Os ydych chi’n ymwneud yn ffurfiol â chynnig (e.e. rydych chi’n rhan o’r pwyllgor), ni fydd modd i chi bleidleisio yn yr achos hwnnw

 

Beth y gellir ei ariannu?

  • Syniadau lleol sy’n dod â phobl at ei gilydd
  • Prosiectau sy’n cryfhau’r gymuned
  • Gweithgareddau a all ddechrau cyn diwedd mis Rhagfyr 2026
  • Grwpiau gydag incwm o £100,000 neu lai

Noder: Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer cyflogau, gweithgareddau crefyddol/gwleidyddol, neu brosiectau sydd o fudd i lond llaw o bobl yn unig.

 

Siapiwch eich Cymuned!

Dyma’ch cyfle i gael effaith go iawn yn Ystrad. P’un a oes gennych chi syniad mawr neu ddim ond llygad craff am yr hyn a allai wneud gwahaniaeth, mae eich llais yn bwysig.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Lisa.Roberts@trivallis.co.uk