Fy Trivallis i

Profiad sy’n cyfri: Golwg gyntaf Fareed ar fywyd ym maes cyllid

12 August 2026

Gall lleoliadau profiad gwaith roi blas gwerthfawr ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol, ac i Fareed, roedd treulio amser gyda thîm cyllid Trivallis yn gipolwg ar sut mae cyllid yn cefnogi'r sefydliad yn ehangach.

Gall lleoliadau profiad gwaith roi blas gwerthfawr ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol, ac i Fareed, roedd treulio amser gyda thîm cyllid Trivallis yn gipolwg ar sut mae cyllid yn cefnogi’r sefydliad yn ehangach.

Yn fyfyriwr yn Ysgol Stanwell ym Mhenarth, mae Fareed ar hyn o bryd yn astudio Mathemateg, Seicoleg ac Astudiaethau Busnes. Gydag awydd i fod yn gyfrifydd siartredig, roedd yn awyddus i ennill profiad ymarferol a datblygu ei ddealltwriaeth o’r proffesiwn.

Ac yntau am ddysgu mwy am y diwydiant a sut mae gwahanol adrannau yn gweithio gyda’i gilydd, ymunodd Fareed â’r tîm i ennill profiad uniongyrchol o weithio ym maes cyllid.

“Roeddwn i eisiau dysgu mwy am y diwydiant, yn enwedig yn ymarferol, a gweld sut mae’n cysylltu ag adrannau eraill o fewn busnes,” meddai.

Datblygodd diddordeb Fareed mewn cyllid gyntaf yn ystod ei astudiaethau TGAU ar ôl dewis Llythrennedd Ariannol fel pwnc.

“Dechreuais ddangos diddordeb mewn cyllid yn ystod fy TGAU ar ôl i mi ddewis Llythrennedd Ariannol fel pwnc ac roeddwn i wrth fy modd.”

Yn ystod ei leoliad, cafodd Fareed werthfawrogiad o’r newydd o’r amrywiaeth o rolau a chyfrifoldebau o fewn y maes cyllid, yn ogystal â’r rôl bwysig y mae’r tîm yn ei chwarae wrth gefnogi gweithrediadau’r sefydliad o ddydd i ddydd.

“Fe wnes i ddysgu pa mor gymhleth y gall cyllid fod a faint o wahanol fathau o gyllid sydd yna, yn enwedig ym maes cyfrifyddu.”

Ochr yn ochr â datblygu ei wybodaeth am y sector, cafodd Fareed flas hefyd ar amgylchedd y tîm, gan weld sut roedd cydweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd.

“Fe wnes i fwynhau cyfeillgarwch a moeseg gwaith y bobl yn y tîm Cyllid yn bennaf. Roedden nhw’n gweithio’n galed iawn ond hefyd yn gwybod pryd i gymryd hoe.”

Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd y cyfle i weld a’i lygaid ei hun sut mae prosiectau Trivallis yn cefnogi cymunedau lleol.

“Un o’m huchafbwyntiau gyda’r tîm Cyllid oedd mynd ar daith i brosiect Penrhys gyda Sophie.”

Mae’r lleoliad hefyd wedi ei helpu i gryfhau sgiliau pwysig yn y gweithle, yn enwedig cyfathrebu.

“Mae wedi fy helpu i gynyddu fy sgiliau cyfathrebu oherwydd, wrth weithio gyda llawer o bobl yn y diwydiant, mae angen cyfathrebu clir.”

Wrth bwyso a mesur ei brofiad, dywedodd Fareed fod y lleoliad wedi ei annog i barhau i archwilio’r proffesiwn a dysgu mwy am y sector.

“Mae wedi fy ngwneud i’n fwy chwilfrydig nag erioed am holl agweddau’r maes, ac yn sicr mae wedi fy ysgogi i ddysgu amdano ymhellach.”

I unrhyw un sy’n ystyried profiad gwaith yn y dyfodol, mae cyngor Fareed yn syml:

“Gwrandewch yn ofalus iawn, gwnewch nodiadau a gofynnwch gwestiynau os nad ydych chi’n gwybod neu’n deall unrhyw beth.”

Y tu hwnt i’w astudiaethau, mae Fareed yn mwynhau chwarae pêl-fasged gyda’i glwb lleol a gwrando ar gerddoriaeth. Gydag uchelgais o ddod yn gyfrifydd siartredig, mae’r profiad wedi rhoi cipolwg gwerthfawr iddo o’r proffesiwn ac wedi rhoi hwb i’w awydd i ddilyn gyrfa ym maes cyllid yn y dyfodol.

Trwy gynnig cyfleoedd profiad gwaith ar draws ystod o adrannau, mae Trivallis yn helpu pobl ifanc i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle, datblygu sgiliau newydd ac archwilio llwybrau gyrfa posibl yn y dyfodol. Trwy dreulio amser gyda’r tîm Cyllid, llwyddodd Fareed i gael blas uniongyrchol ar broffesiwn sy’n aml yn gweithredu y tu ôl i’r llenni, gan adeiladu sgiliau a gwybodaeth a fydd yn ei gefnogi yn y dyfodol.