Fy Trivallis i

Ateb eich cwestiynau

C1: Beth sy’n digwydd i Ben-rhys?

A: Mae Pen-rhys yn lle gwych i fyw. Mae’r bobl yn gyfeillgar, ac mae yna ymdeimlad go iawn o gymuned yma. Ond mae rhai o’r cartrefi yn heneiddio ac mae angen gwario llawer o arian arnyn nhw.

Dyna pam rydyn ni’n bwriadu adeiladu stad newydd sbon gyda thua 1,000 o gartrefi newydd dros y deng mlynedd nesaf.

Byddwn yn gwneud hyn fesul cam – bob yn dipyn – gan ganolbwyntio ar rannau gwahanol o Ben-rhys wrth i ni fwrw iddi. Ar hyn o bryd, dim ond lle byddwn ni yn ystod cam un sydd wedi’i glustnodi. Cyn gynted ag y byddwn ni wedi cynllunio’r gweddill, byddwn yn rhoi gwybod i bawb.

C2: Felly, beth sy’n digwydd yng ngham cyntaf y prosiect?

A: Bydd Cam 1a ar dop y stad, lle’r arferai Soaring Supersaurus fod. Rydyn ni wedi dewis y rhan honno oherwydd ei bod yn haws adeiladu yno, gyda llai o gartrefi, ac mae’n cadw traffig adeiladu i ffwrdd o’r ysgol. Rydyn ni eisoes yn siarad â phawb a gaiff eu heffeithio. Dros y 12 mis nesaf, bydd pobl sy’n byw yn y rhan hon o Ben-rhys yn symud mas er mwyn i ni allu gwneud lle i’r cartrefi newydd. Byddan nhw’n symud i gartref arall tra bod y gwaith yn cael ei wneud, ac unwaith y bydd cartref newydd addas yn barod, byddan nhw’n gallu symud i mewn yn barhaol.

C3: Fydd raid i bobl symud fwy nag unwaith yn ystod y prosiect?

A: Os ydych chi yng Ngham 1a, bydd, bydd angen i chi symud ddwywaith. Rydyn ni’n gwybod nad yw hynny’n ddelfrydol, ond allwn ni ddim dechrau adeiladu nes bod y cartrefi hynny’n wag. Y newyddion da yw y bydd eich cartref dros dro yn dŷ iawn, yn union fel yr un sydd gennych chi nawr. Fydd neb yn symud i westy neu hostel. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i rywle sy’n addas i chi a’ch teulu, mewn ardal rydych chi’n hapus â hi. Ar gyfer y camau diweddarach, rydyn ni’n gobeithio y gall pobl symud yn syth i’w cartrefi newydd, ond allwn ni ddim addo hynny eto.

Ar gyfer tenantiaid, byddwn yn talu costau symud, hyd yn oed os ydyn nhw’n symud ddwywaith, a byddan nhw hefyd yn cael taliad untro o £8000.

C4: All pobl aros ym Mhen-rhys, ac a fyddan nhw’n cael un o’r cartrefi newydd?

A: Gallant, wrth gwrs. Mae’n hyblyg iawn. Os hoffech chi aros ym Mhen-rhys yn ystod y gwaith adeiladu, popeth yn iawn, ond efallai y bydd angen i ni eich symud i gartref gwahanol yma am gyfnod. Pe bai’n well gennych chi symud oddi ar y safle, mae hynny’n iawn hefyd. Efallai y bydd rhai pobl hyd yn oed yn dewis gadael am ychydig a dod yn ôl yn ddiweddarach unwaith y bydd y cartrefi newydd yn barod. Beth bynnag benderfynwch chi, byddwn yn gweithio gyda chi i wneud iddo ddigwydd.

Ac os ydych chi eisiau un o’r cartrefi newydd ym Mhen-rhys, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau hynny a gwneud yn siŵr ei fod yn addas i chi ac anghenion eich teulu.

C5: Does dim llawer fel petai’n digwydd, felly ydy hyn yn mynd i ddigwydd mewn gwirionedd?

A: Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i wneud iddo ddigwydd. Mae adfywio’r stad gyfan a rhoi cartref newydd i bawb yn brosiect a hanner, felly mae’n cymryd amser. Ond rydyn ni wedi gwneud mwy o gynnydd yn barod o gymharu ag ymdrechion blaenorol, ac mae pethau’n symud ymlaen.

Ar hyn o bryd, rydyn ni’n paratoi popeth i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer Cam 1a. Mae hynny’n golygu casglu llwyth o wybodaeth, a dyna pam y gallai ymddangos fymryn yn dawel. Ar yr un pryd, rydyn ni’n gweithio ar y darlun ehangach – yn gwneud cais am gynllunio amlinellol ar gyfer yr holl ddatblygiad ac yn dod o hyd i’r cwmni adeiladu cywir i wneud y gwaith.

Os bydd popeth yn mynd yn unol â’r bwriad, rydyn ni’n gobeithio dechrau adeiladu yn haf 2026.

C6: Beth allwch chi ei ddweud wrthym am y stad newydd?

A: Mae’n brosiect mawr a fydd yn cymryd tua deng mlynedd i’w gwblhau, ond pan fydd yn barod, bydd tua 1,000 o gartrefi newydd sbon yma ym Mhen-rhys. Bydd dros hanner ohonyn nhw’n cael eu gwerthu’n breifat – dyna sut y gallwn ni ariannu’r datblygiad yn ei gyfanrwydd. Bydd rhai ar gael trwy ranberchnogaeth, sy’n golygu y bydd pobl yn gallu prynu rhan o gartref a rhentu’r gweddill, gan ei wneud yn fwy fforddiadwy. Ac wrth gwrs, bydd digon o gartrefi cymdeithasol i denantiaid presennol hefyd.

Bydd yr holl gartrefi yn gymysg, felly ni fydd yna un ardal ar gyfer prynwyr preifat ac un arall ar gyfer tai cymdeithasol. Bydd pawb yn byw ochr yn ochr, gan greu un gymuned gref, gysylltiedig.

Ar ben hynny, rydyn ni’n cynllunio mannau gwyrdd, ardaloedd chwarae i blant, cyfleusterau cymunedol, siopau ac unedau busnes. Mae’r Cyngor yn adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yn lle’r hen un, a bydd yr eglwys yn aros hefyd, o bosibl mewn adeilad newydd os dyna beth fydden nhw’n ei hoffi.

Gyda chartrefi modern, golygfeydd gwych, a chymysgedd go iawn o bobl, rydyn ni’n credu y gallai Pen-rhys ddod yn un o’r llefydd gorau i fyw yn y Cymoedd.

C7: Sut olwg fydd ar y cartrefi cymdeithasol newydd?

A: Mae’r cartrefi newydd ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio dyluniadau o Lyfr Patrymau Cymru. Mae hynny’n golygu eu bod wedi cael eu cynllunio’n ofalus gan benseiri, arbenigwyr tai, a thenantiaid i wneud yn siŵr eu bod yn llefydd gwych i fyw. Byddan nhw’n fodern, yn well i’r amgylchedd, ac yn rhatach i’w gwresogi diolch i systemau gwresogi newydd.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio deunyddiau wedi’u gwneud yng Nghymru, sy’n helpu i gynnal swyddi lleol a lleihau trafnidiaeth, felly mae’n well i’r blaned hefyd.

Bydd pob cartref yn cynnwys ei sied ei hun ar gyfer storio ac o leiaf un lle parcio y tu allan, felly maen nhw’n ymarferol yn ogystal â chyfforddus.

C8: Ydy hi’n wir y bydd Pen-rhys yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon?

A: Na, dyw hyn ddim yn wir o gwbl. Does gan fewnfudwyr anghyfreithlon ddim hawl i dai cymdeithasol.

Bydd y rhan fwyaf o’r cartrefi newydd yn cael eu gwerthu i berchnogion tai preifat a rhanberchnogion. Bydd y cartrefi eraill yn cael eu defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol ac yn mynd i bobl Pen-rhys yn gyntaf.

C9: Beth sy’n digwydd gyda’r stad sydd yma nawr?

A: Bydd rhai o’r cartrefi yma’n dal i fod o gwmpas am gyfnod, hyd at ddeng mlynedd mewn rhai achosion, felly dydyn ni ddim yn eu gadael i fod. Rydyn ni’n parhau gyda gwaith trwsio a diweddaru i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac yn gyfforddus i fyw. Mae hynny’n cynnwys pethau fel peintio adeiladau, trwsio ffensys, a chadw’r stad mewn cyflwr da.

Hyd yn oed wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, rydyn ni eisiau i Ben-rhys fod yn lle y gall pobl ymfalchïo ynddo a’i fwynhau. Ar hyn o bryd, er enghraifft, rydyn ni’n gwneud rhywfaint o waith ar y ‘Cage’ ac yn ychwanegu pyst gôl newydd a chylchoedd chwaraeon fel y gall pobl ddechrau ei ddefnyddio eto.

Yn y pen draw, bydd tai newydd sbon yn disodli’r cartrefi presennol, ac fe fyddan nhw’n gartrefi sy’n gynhesach, yn fwy ymarferol, ac yn llawer haws i’w gwresogi.

C10: Sut alla i gael y manylion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd ym Mhen-rhys?

A: Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i ddiweddaru pawb. Y ffordd hawsaf yw trwy e-bost, felly os nad yw’ch cyfeiriad chi gennym, neu ei fod wedi newid, ffoniwch ni ar 03000 030 888 neu gallwch ei ddiweddaru eich hun yn My Trivallis.

Dyfodol Pen-rhys: Ateb Cwestiynau Cyffredin

Ym mis Gorffennaf 2025 fe wnaethon ni rannu llyfryn gyda gwybodaeth fanylach am y datblygiad newydd. Mae copi ar gael yma.

Lawrlwytho'r llyfryn
page image

Mae llawer o bobl yn gweithio ar ddyfodol Pen-rhys. Cofiwch ddweud Shw’mae os gwelwch chi un ohonon ni o gwmpas.

Kathryn Evans

Uwch-reolwr Prosiectau Adfywio

Kathryn sy'n gyfrifol am ailddatblygu Pen-rhys. Mae hi'n gweithio gyda phenseiri, cynllunwyr a pheirianwyr i gynllunio ble fydd y tai, ffyrdd, mannau gwyrdd, ac ardaloedd cymunedol yn cael eu gosod, yn ogystal â sut olwg fydd ar y cartrefi newydd.

Zoe Jenkins

Swyddog Tai Cymunedol

Mae Zoe yn cefnogi tenantiaid, yn helpu i reoli materion tai, ac yn gweithio i adeiladu cymuned ddiogel, gynhwysol ym Mhen-rhys. Bydd hi'n gweithio gyda phobl ym mhob cam o'r ailddatblygu i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw gartrefi clyd a chyfforddus.

Rhian Cook

Partner Datblygu Cymunedol

Mae Rhian yn gweithio gyda chymunedau ledled Cwm Rhondda, gan gynnwys Pen-rhys. Mae hi'n helpu i drefnu prosiectau cymunedol sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn creu cymdogaethau cryfach, saffach a hapusach.

Jen O’Hara Jakeway

Pennaeth Cynnwys y Gymuned

Mae Jen yn arwain tîm sy'n sicrhau bod tenantiaid Trivallis yn cael dweud eu dweud yn ein gwasanaethau, ac yn helpu i greu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.

Louise Attwood

Cyfarwyddwr Gweithredol Asedau a Datblygu.

Louise sy'n arwain holl ddatblygiadau tai newydd Trivallis. Mae'n gyfrifol am ailddatblygu Pen-rhys ac yn cydweithio'n agos â chyllidwyr, y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Keiron Montague

Cyfarwyddwr Gweithredol Cymunedau

Keiron sy'n arwain y timau sy'n gofalu am denantiaid Trivallis. Mae'n goruchwylio cysylltiadau â'r gymuned a bydd yn cyfarwyddo'r broses adleoli i sicrhau bod y broses o symud o hen gartrefi i rai newydd yn un esmwyth a threfnus.

Cadwch mewn cysylltiad

Rydyn ni'n dod at ein gilydd ar ddyddiau Mawrth cyntaf pob mis yn yr Eglwys i sgwrsio am y gwaith ailddatblygu - dewch draw! Byddwn hefyd yn eich diweddaru gyda llythyrau ac e-byst.
Ydy'r manylion cyswllt cywir gennym ni? Ffoniwch ni ar 03000 030 888 neu gallwch ddiweddaru eich manylion unrhyw bryd ar ein porth cwsmeriaid, My Trivallis.

Diweddaru'ch manylion ar My Trivallis
page image