Fy Trivallis i

Cefnogi teuluoedd a chryfhau cysylltiadau cymunedol yn Hwb Cymunedol Nightingales, Penygraig

17 June 2026

Yng nghanol Penygraig, mae Hwb Cymunedol Nightingales yn prysur ddod yn ofod croesawgar lle gall pobl leol gysylltu, cael cymorth a theimlo'n rhan o rywbeth cadarnhaol.

Yng nghanol Penygraig, mae Hwb Cymunedol Nightingales yn prysur ddod yn ofod croesawgar lle gall pobl leol gysylltu, cael cymorth a theimlo’n rhan o rywbeth cadarnhaol.

Sefydlwyd yr hwb tua 18 mis yn ôl, gyda’r nod syml ond pwerus o gynnig rhywbeth ystyrlon i’r gymuned. Yn ôl y sylfaenydd Melanie, er eu bod wedi bod yn rhedeg meithrinfeydd ers blynyddoedd, roedd awydd go iawn i wneud mwy.

“Roedden ni eisiau creu rhywbeth mwy cymunedol, rhywbeth a fyddai wir o fudd i deuluoedd ac yn dod â phobl at ei gilydd,” meddai.

Mae’r weledigaeth honno eisoes yn cael ei gwireddu. Mae’r hwb yn cynnig ystod gynyddol o weithgareddau a chefnogaeth i deuluoedd â phlant ifanc, gan gynnwys grwpiau i blant bach, ioga babanod, tylino babanod a sesiwn stori a chân wythnosol. Mae yna hefyd glinig bwydo ar y fron, sy’n darparu cymorth hanfodol i famau newydd mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.

Fel yr eglura Gemma, sy’n gweithio yn yr hwb, mae’r gofod wedi’i gynllunio i deimlo’n agored ac yn gynhwysol i bawb.

“Rydyn ni’n ofod eithaf unigryw sydd wedi’i deilwra’n bennaf ar gyfer teuluoedd ifanc, gyda chaffi, ardal chwarae a chymorth fel ein banc babanod, gyda’r cyfan wedi’i gynllunio i greu naws croesawgar a hygyrch”.

Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, mae’r hwb yn helpu teuluoedd i gael mynediad at eitemau hanfodol hefyd. Mae’r banc babanod yn cynnig cewynnau, llaeth fformiwla, bwyd babanod a nwyddau ymolchi i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Mae cysylltiadau â sefydliadau fel Blynyddoedd Cynnar Cymru a Thîm Rhianta RhCT hefyd yn golygu y gall teuluoedd gael mynediad at gymorth ynghylch datblygiad cynnar, gan gynnwys lleferydd ac iaith.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r hwb ar gyfer babanod a phlant bach yn unig. Mae grwpiau newydd yn parhau i gael eu sefydlu, gan gynnwys grŵp canu i famau, gyda chynlluniau ar y gweill i gyflwyno hyd yn oed mwy o sesiynau yn y dyfodol. Mae yna uchelgais hefyd i redeg grwpiau cymorth gyda’r menopos yn ddiweddarach eleni, yn amodol ar gyllid.

Ochr yn ochr â’i weithgareddau, mae’r hwb yn darparu cefnogaeth ymarferol, bob dydd. Mae dillad a theganau ar gael am y nesaf peth i ddim, gan helpu i leddfu’r pwysau ariannol i deuluoedd. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r hwb hefyd wedi cefnogi’r gymuned drwy fenter ‘Winter Warmer’ RhCT, gan gynnig prydau fforddiadwy fel cawl poeth a rholiau.

Lan lofft, mae meithrinfa sefydledig yn parhau i ddarparu gofal plant, gan gynnwys darpariaeth Dechrau’n Deg i deuluoedd cymwys, gan sicrhau bod cymorth ar gael ym mhob cam o blentyndod cynnar.

Mae effaith yr hwb i’w gweld yn glir ym mhrofiadau teuluoedd sy’n galw heibio. Dywedodd Rachel, sy’n ymweld yn rheolaidd gyda’i merch, fod yr awyrgylch croesawgar a’r ymdeimlad o gymuned wedi ei denu yn ôl, ar ôl dechrau mynd yno pan oedd ei phlentyn yn ddim ond ychydig wythnosau oed.

“Gallwch gael coffi, ymlacio a theimlo’n gyfforddus. Rydyn ni wedi gwneud llwyth o ffrindiau ac mae fy merch wrth ei bodd.”

Mae’r ymdeimlad hwn o gysylltiad wrth wraidd yr hyn y mae Hwb Cymunedol Nightingales yn ceisio ei greu.

Mae’r prosiect yn dibynnu’n helaeth ar grantiau a chyllid, ynghyd â chefnogaeth gymunedol gref. Mae llawer o’i dwf hyd yn hyn wedi dod ar dafod leferydd, gyda mwy a mwy o bobl leol yn darganfod beth sydd ar gael.

Gan edrych ymlaen, mae cynlluniau i ehangu hyd yn oed ymhellach, gyda chyfleoedd i eraill ddefnyddio’r gofod a chynnal sesiynau ychwanegol, yn enwedig yn ystod adegau tawelach yn yr wythnos.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu ddod i sesiynau, gellir archebu trwy adael sylw ar dudalennau Facebook ac Instagram yr hwb, neu drwy anfon neges atyn nhw’n uniongyrchol.

Yn ei hanfod, mae Hwb Cymunedol Nightingales yn ymwneud â chreu gofod lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu croesawu a’u cysylltu. Wrth iddo barhau i dyfu, mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i deuluoedd ar draws ardal Penygraig.