Fy Trivallis i

Byd Heb Derfynau: Mae stori Brian a Pat yn ysbrydoli’r gymuned ar gyfer Mis Balchder Anabledd

7 July 2026

Mae stori garu ryfeddol sy'n herio disgwyliadau yn ysbrydoli cymunedau Mis Balchder Anabledd hwn, wrth i tenantiaid ymgynnull yn Aberpennar i ddathlu cyflawniadau eithriadol Brian Chick a'i ddiweddar wraig, Pat; cwpl y mae eu bywyd gyda'i gilydd yn dystiolaeth bwerus o ddewrder, antur a'r gred bod pawb yn haeddu'r cyfle i fyw bywyd llawn.

Mae stori garu ryfeddol sy’n herio disgwyliadau yn ysbrydoli cymunedau Mis Balchder Anabledd hwn, wrth i tenantiaid ymgynnull yn Aberpennar i ddathlu cyflawniadau eithriadol Brian Chick a’i ddiweddar wraig, Pat; cwpl y mae eu bywyd gyda’i gilydd yn dystiolaeth bwerus o ddewrder, antur a’r gred bod pawb yn haeddu’r cyfle i fyw bywyd llawn.

Mae trigolion, tenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid cymunedol yn dod ynghyd yn yr YMCA ar Heol Dyffryn heddiw (1 Gorffennaf) i nodi dechrau Mis Balchder Anabledd drwy stori ysbrydoledig Brian a Pat Chick – cwpl y bu eu cariad, eu dyfalbarhad a’u hysbryd anturus yn mynd ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau a osodwyd arnynt.

Wrth galon y digwyddiad mae dangosiad o Mr Chick, ffilm a gynhyrchwyd gan Trivallis sy’n adrodd stori ryfeddol y cwpl. Ganwyd Pat gyda Pharlys yr Ymennydd, ond ni adawodd i’w hanabledd gyfyngu ar ei huchelgeisiau. Gyda Brian wrth ei hochr, adeiladodd fywyd llawn a boddhaus yn Aberpennar cyn i’r ddau fynd ati i deithio’r byd, gan ymweld â gwledydd ledled y byd a manteisio ar brofiadau yr oedd llawer yn credu na fyddent byth yn bosibl.

Mae eu siwrnai yn un o wydnwch, dyfalbarhad a ffydd ddiysgog yn ei gilydd. Mae’n adlewyrchu’n berffaith ysbryd Mis Balchder Anabledd, gan ddathlu cyflawniadau pobl anabl, herio hen stereoteipiau a dangos na ddylai anabledd fyth fod yn rhwystr i fyw bywyd cyfoethog a boddhaus.

Croesewir gwesteion gyda lluniaeth cyn y dangosiad, gan greu gofod cynhwysol a chroesawgar lle gall sgyrsiau ddatblygu’n naturiol. Yn dilyn y ffilm, mae’r rhai sy’n bresennol yn rhannu eu myfyrdodau a’u profiadau personol, gan ddathlu pwysigrwydd cynrychiolaeth, ymdeimlad o berthyn a grym clywed straeon go iawn gan bobl sydd â phrofiad byw.

Mae’r digwyddiad yn atgyfnerthu cred Trivallis fod ymdeimlad o berthyn yn dechrau gartref. Drwy ddod â phobl ynghyd i ddathlu straeon go iawn o fewn ei chymunedau, mae’r sefydliad yn parhau i greu cyfleoedd i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth a chynhwysiant.

Dywedodd Leanne Ball, Swyddog Cynaliadwyedd Tenantiaeth yn Trivallis:

“Pan soniodd Brian wrtha i am ei stori a’r llyfr roedd wedi’i ysgrifennu am fywyd Pat, oedden i’n gwybod ar unwaith bod rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i rannu’r stori honno gyda’r byd. Mae Brian a Pat yn annwyl iawn gan bawb yn yr ardal, ac rydym ni i gyd wedi’n hysbrydoli’n fawr gan yr hyn a gyflawnon nhw gyda’i gilydd.”

Dywedodd Kathryn James, Swyddog Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau, Parlys yr Ymennydd Cymru:

“Mae stori Brian a Pat yn ysbrydoliaeth wirioneddol. Mae’n dangos nad yw Parlys yr Ymennydd yn diffinio person nac yn cyfyngu ar yr hyn y gall ei gyflawni, rhywbeth yr ydym ni ym Mharlys yr Ymennydd Cymru yn angerddol iawn yn ei gylch. Rydym yn falch o gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru, gan helpu pob plentyn a pherson ifanc sydd â Pharlys yr Ymennydd i gael y dechrau gorau posibl a’r dyfodol disgleiriaf.”

Wrth wneud sylw ar y gwahoddiad i’r digwyddiad, dywedodd un aelod o’r gymuned:

“Cwpl hyfryd a gŵr anhygoel. Roedd hi’n amlwg faint oedden nhw’n caru ei gilydd.”

Mae stori Brian a Pat yn ein hatgoffa’n barhaol nad yw anabledd yn diffinio potensial person. Yn hytrach, mae eu gwaddol yn un o ddewrder, cariad ac antur; cwpl a wrthododd dderbyn y cyfyngiadau a osodwyd arnynt gan eraill ac, wrth wneud hynny, ysbrydolodd eraill i weld posibiliadau yn hytrach na rhwystrau.

Wrth i Fis Balchder Anabledd ddechrau, mae eu stori yn ddathliad grymus o bopeth y mae’r mis yn ei gynrychioli: balchder, cydraddoldeb, cynhwysiant a hawl pob person anabl i fyw bywyd heb derfynau.

Gallwch wylio’r ffilm fer yma: https://www.youtube.com/watch?v=kf7k4wOh2_Q&t=1s