Fy Trivallis i

Beth sy’n digwydd yn Rhondda Cynon Taf ym mis Awst

11 August 2026

Mae digon o amser ar ôl i wneud y mwyaf o wyliau'r haf. O wyliau cymunedol a diwrnodau hwyl i'r teulu i weithgareddau lleol sy'n cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf, mae yna lawer o gyfleoedd i fynd allan, cwrdd â phobl newydd a mwynhau'r hyn sy'n digwydd ar eich stepen drws.

Mae digon o amser ar ôl i wneud y mwyaf o wyliau’r haf.

O wyliau cymunedol a diwrnodau hwyl i’r teulu i weithgareddau lleol sy’n cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf, mae yna lawer o gyfleoedd i fynd allan, cwrdd â phobl newydd a mwynhau’r hyn sy’n digwydd ar eich stepen drws.

Dyma flas ar rai o’r digwyddiadau sydd eto i ddod ym mis Awst.

Mae T Fest on the Road yn mynd o nerth i nerth

Yn dilyn lansiad gwych yn Hendreforgan, mae T Fest on the Road yn parhau â’i thaith ar draws Rhondda Cynon Taf, gan ddod â dathliadau cymunedol i gymdogaethau drwy gydol yr haf.

Mae pob digwyddiad wedi’i siapio gan bobl leol, gan greu cyfleoedd i denantiaid a chymunedau ddod at ei gilydd, cael hwyl a dathlu lle maen nhw’n byw.

Mae’r digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys:

  • Gŵyl Gymunedol Fernhill, 22 Awst
  • Gŵyl Gymunedol Clwb Pêl-droed Abercynon, 29 Awst
  • Gŵyl y Teulu, Tonyrefail, 31 Awst

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau a gwybodaeth cyn pob digwyddiad.

 

Haf o Ddarganfod ym Mharc Treftadaeth y Rhondda

Chwilio am weithgaredd fforddiadwy i’r teulu yr haf hwn?

Mae Haf o Ddarganfod ym Mharc Treftadaeth y Rhondda yn llawn gweithgareddau i’r  teulu drwy gydol mis Awst, gan gynnwys llwybrau thematig, crefftau, gemau ac anturiaethau ymarferol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys Wythnos y Gofod, Wythnos y Brenin Glo ac Wythnos Chwilod, gyda phrofiadau wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth a straeon Cymoedd y De.

Gyda thocynnau yn costio dim ond £5 y pen, mae’n opsiwn gwych i deuluoedd sy’n chwilio am hwyl fforddiadwy yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle

Dewch i ddarganfod gweithgareddau lleol drwy eich llyfrgell

Mae llyfrgelloedd ledled Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi plant a theuluoedd drwy gydol gwyliau’r haf drwy heriau darllen, gweithgareddau a digwyddiadau.

P’un a ydych chi’n chwilio am weithgaredd ar ddiwrnod glawog neu rywle newydd i’w archwilio, gallai eich llyfrgell leol fod yn lle gwych i ddechrau.

Ewch i’ch llyfrgell agosaf neu edrychwch ar restrau lleol i weld beth sydd ar gael drwy gydol mis Awst.

Mentrwch i’w awyr agored ac archwilio’ch cymuned

Gallwch greu rhai o’r atgofion gorau yn agos at adref.

Beth am herio’ch teulu i archwilio rhywle newydd yn Rhondda Cynon Taf?

Beth am ymweld â pharc lleol, darganfod llwybr cerdded nad ydych chi wedi rhoi cynnig arno o’r blaen, pacio picnic neu dreulio prynhawn yn archwilio cymuned gyfagos.

O Aberdâr ac Aberpennar i Dreorci, Pontypridd a thu hwnt, mae digon o gyfleoedd i fwynhau’r awyr agored drwy gydol gweddill gwyliau’r ysgol.

Chwilio am hyd yn oed mwy o syniadau?

Os ydych chi’n chwilio am fwy o ysbrydoliaeth, mae Cardiff Mummy Says wedi llunio canllaw sy’n cynnwys mwy na 100 o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd sy’n digwydd ledled Caerdydd a’r cyffiniau yn ystod gwyliau’r haf.

Mae’r canllaw yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau am ddim, diwrnodau allan rhad ac atyniadau mwy, gan roi digon o opsiynau i deuluoedd ddewis ohonyn nhw yn dibynnu ar eu diddordebau a’u cyllideb. O anturiaethau awyr agored ac ymweliadau ag amgueddfeydd i adloniant teuluol a digwyddiadau cymunedol, mae rhywbeth ar gyfer pob oedran.

Gallwch archwilio’r canllaw llawn yma:

100 a mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n addas i deuluoedd yng Nghaerdydd a’r cyffiniau yn ystod gwyliau’r haf.

Digwyddiadau cymunedol yn eich ardal chi

Ochr yn ochr â gwyliau mwy a gweithgareddau wedi’u trefnu, mae llawer o grwpiau a sefydliadau cymunedol yn cynnal digwyddiadau lleol drwy gydol mis Awst.

Rydyn ni’n argymell edrych ar dudalennau Facebook cymunedol lleol, hysbysfyrddau cymunedol a gwefannau grwpiau lleol i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Things to do in Wales | Places to go | Visit Wales

A Local’s Favorite Things to Do in Wales – Travel Lemming