Fy Trivallis i

Y tu hwnt i’r drws ffrynt: Myfyrwyr Blwyddyn 10 yn dod i adnabod y bobl y tu ôl i Trivallis

24 July 2026

Yn ddiweddar, fe wnaeth tri myfyriwr Blwyddyn 10 dreulio wythnos yn Trivallis, gan ennill profiad uniongyrchol o'r timau gwahanol niferus sy'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi tenantiaid a chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.

Yn ddiweddar, fe wnaeth tri myfyriwr Blwyddyn 10 dreulio wythnos yn Trivallis, gan ennill profiad uniongyrchol o’r timau gwahanol niferus sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi tenantiaid a chymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.

Gydol yr wythnos, fe wnaeth Tomos, Tayah a Samuel ymweld ag adrannau amrywiol – o’r Tîm Cyfathrebu a Thai i Ymgysylltu â’r Gymuned, Gwasanaethau Pobl a Datblygu, gan gael cip y tu ôl i’r llenni ar y gwaith sy’n cadw’r sefydliad i fynd.

Cyn cyrraedd, roedd gan y tri myfyriwr ddealltwriaeth debyg o Trivallis fel cymdeithas dai. Erbyn diwedd yr wythnos, roedd ganddyn nhw ddarlun llawer ehangach.

Meddai Tomos: “Cyn dod yma, roeddwn i’n gwybod eu bod nhw’n gymdeithas dai ac yn helpu pobl sydd ddim mor ffodus efallai. Ond mae treulio wythnos yn y swyddfeydd a gweld yr holl bethau gwahanol sy’n digwydd wedi bod yn agoriad llygad go iawn.”

Trivallis Housing Landlord Wales Four people sit around a table playing a board game, with cards and pieces visible. One person in the foreground is taking a selfie. The room has blue walls, large windows, and office supplies in the background.

Un o’r pethau mwyaf annisgwyl i’r myfyrwyr oedd yr amrywiaeth o rolau ar draws y sefydliad.

Meddai Tayah: “Cefais syndod o weld cymaint o bethau gwahanol sy’n digwydd mewn un adeilad.

Ar ôl treulio amser gyda’r tîm Cyfathrebu, roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn yr ochr gynllunio a chreadigrwydd sy’n gysylltiedig â chynhyrchu cynnwys.

Trivallis Housing Landlord Wales A young woman stands on a porch, wearing a black tank top, beige shorts with a tie belt, white sandals, and sunglasses on her head. Bottled water is stacked on the floor nearby. Trees and a road are in the background.

“Wnes i ddim sylweddoli cymaint oedd yn digwydd. Mae angen gosod amserlenni gwahanol i’r holl bostiadau, yr holl waith golygu fideos – roedd yn agoriad llygad i mi.”

Trivallis Housing Landlord Wales A person with short dark hair and fair skin is facing the camera and smiling slightly. They are wearing a plain white t-shirt and are standing in front of a beige wall.

I Samuel, uchafbwynt yr wythnos oedd cwrdd â chydweithwyr ar draws y sefydliad a gweld eu hymrwymiad i helpu tenantiaid.

“Mae gen i farn eithaf cadarnhaol am Trivallis nawr ‘mod i wedi gweld y bobl sy’n gweithio yma a sut beth yw e,” meddai.

“Y peth wnaeth fy synnu fwyaf oedd pa mor gyfeillgar a pharod i helpu yw pawb, nid yn unig gyda’i gilydd ond gyda thenantiaid hefyd. Maen nhw’n wirioneddol yn ceisio helpu.”

Hefyd, roedd y lleoliadau’n annog myfyrwyr i feddwl yn wahanol am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cyfaddefodd Tomos nad oedd erioed wedi dychmygu ei hun yn gweithio mewn swyddfa cyn hyn.

“Roeddwn i wastad yn meddwl y byddwn i’n casáu gweithio mewn swyddfa, ond mae bod yn yr amgylchedd hwnnw wedi chwalu ‘mhen i braidd. Dyw e ddim cynddrwg â’r disgwyl, ac mae wedi agor drws i rywbeth nad oeddwn i wedi’i ystyried o’r blaen.”

Erbyn diwedd yr wythnos, roedd y tri myfyrwyr yn cytuno bod y profiad gwaith wedi rhoi cipolwg gwerthfawr iddyn nhw o fyd gwaith a’r holl gyfleoedd amrywiol sydd ar gael mewn sefydliadau fel Trivallis.

Trwy’r lleoliadau, cafodd y myfyrwyr ddealltwriaeth well o’r bobl, y gwasanaethau a’r timau sy’n cydweithio i helpu cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, wrth archwilio llwybrau gyrfa nad oeddent efallai wedi’u hystyried o’r blaen.

Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd Tomos: “Mae wedi agor drws i mi na fyddwn i wedi ei ystyried o’r blaen.”

Mae cyfleoedd fel hyn yn helpu pobl ifanc i fagu hyder, datblygu sgiliau newydd a chael blas gwerthfawr o’r holl lwybrau gyrfa gwahanol sydd ar gael mewn sefydliadau fel Trivallis.