Fy Trivallis i

Antur yn y Cymoedd: ennill yr haf gorau erioed i’ch teulu

21 July 2026

Tybed ai’ch teulu chi fydd yn mynd ar antur wych yr haf hwn? Fel rhan o’n hymgyrch Haf Gorau Erioed,…

Tybed ai’ch teulu chi fydd yn mynd ar antur wych yr haf hwn?

Fel rhan o’n hymgyrch Haf Gorau Erioed, rydyn ni’n rhoi’r cyfle i deuluoedd lleol ennill diwrnod allan i’r brenin a rhannu eu hantur gyda’n cymunedau.

Rydyn ni eisiau clywed am y lleoedd yr hoffech chi ymweld â nhw, y gweithgareddau y byddech chi’n mwynhau eu gwneud a sut y byddech chi’n creu diwrnod allan anhygoel.

Rydyn ni’n chwilio am syniadau creadigol i’r teulu sy’n gwneud yn fawr o gysylltiadau teithio lleol, atyniadau lleol, gweithgareddau am ddim a phrofiadau cymunedol. Ewch ati i ddangos i ni pa fath o daith fyddech chi’n ei threfnu, y lleoedd y byddech chi’n ymweld â nhw a sut y byddech chi’n troi’ch taith yn antur haf perffaith.

Sut i gystadlu

Anfonwch fideo byr atom yn cyflwyno’ch teulu, gan ddweud:

  • Pwy ydych chi
  • Ble fyddai’ch antur yn mynd â chi
  • Pam rydych chi wedi dewis y lleoliadau hynny
  • Beth fyddai’n ei wneud yn ddiwrnod allan perffaith i’r teulu

Hala eich fideo i ni trwy negeseuon Facebook neu Instagram. Does dim angen offer proffesiynol arnoch chi. Mae fideo wedi’i recordio ar eich ffôn yn iawn.

Beth allech chi ei ennill?

Bydd teuluoedd buddugol yn derbyn:

  • Tocyn Dydd i’r Cymoedd ar gyfer teithio
  • Cinio yn ystod y dydd
  • Cyfraniad tuag at weithgareddau ac arian gwario
  • Y cyfle i ymddangos yn ein hymgyrch Haf Gorau Erioed

Rhannwch eich antur

Byddwn yn gofyn i’r teuluoedd buddugol recordio eu diwrnod ar fideo a thynnu lluniau er mwyn gallu ysbrydoli eraill i fynd allan a darganfod yr hyn sydd gan ein cymunedau i’w gynnig yr haf hwn.

Does dim rhaid mynd yn bell o gartref i fwynhau antur gwerth chweil. Weithiau maen nhw yno ar garreg ein drws.

Ydych chi’n barod i ddangos i ni ble y byddai eich Antur yn y Cymoedd yn mynd â chi?

Cyflwynwch eich fideo heddiw