Fy Trivallis i

Disgyblion lleol yn ysbrydoli cymuned Pen-rhys i ddod at ei gilydd i gasglu sbwriel

15 July 2026

Daeth pobl Pen-rhys at ei gilydd yn gynharach y mis hwn ar gyfer digwyddiad casglu sbwriel cymunedol a ysbrydolwyd gan…

Daeth pobl Pen-rhys at ei gilydd yn gynharach y mis hwn ar gyfer digwyddiad casglu sbwriel cymunedol a ysbrydolwyd gan syniadau ac angerdd disgyblion yr ysgol gynradd leol.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Gynradd Pen-rhys a daeth â thrigolion, sefydliadau partner ac arweinwyr lleol ynghyd, gyda’r nod cyffredin o helpu i gadw’r ardal yn lân ac yn groesawgar i bawb.

Ymunodd cynrychiolwyr o Trivallis, Plant y Cymoedd, Gwasanaethau Sbwriel Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cadwch Gymru’n Daclus, Aelodau Eglwys Llanfair, Heddlu De Cymru a’r Maer â thrigolion lleol i gefnogi’r fenter.

Arweiniwyd y gwaith casglu sbwriel gan Hywel Tanner Jones o Cadwch Gymru’n Daclus. Fe ganmolodd y ffaith i gymaint o bobl ddod i helpu a’r ysbryd cymunedol cadarnhaol a welwyd gydol y dydd.

Roedd gwir ymdeimlad o undod wrth i bobl o bob oed weithio ochr yn ochr â’i gilydd i wneud gwahaniaeth. Yn ogystal â helpu i wella mannau lleol, roedd yn gyfle i drigolion a sefydliadau gysylltu a chryfhau perthnasoedd cymunedol.

Daeth y syniad o gasglu sbwriel gan ddisgyblion a fu’n rhan o brosiect ‘Child to Child’ yn Ysgol Pen-rhys. Wrth drafod eu milltir sgwâr, nododd y plant fod sbwriel yn un o’r prif broblemau roedden nhw am fynd i’r afael â hi, ac fe wnaethon nhw rannu eu syniadau gyda sefydliadau a phartneriaid lleol.

Mae’n amlwg bod eu neges wedi taro tant. Roedd ymateb cyflym gan bartneriaid a thrigolion yn profi ei bod hi’n werth gwrando ar bobl ifanc a gweithredu ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Dywedodd Andrew Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Pen-rhys:

“Rydyn ni’n falch dros ben o’n disgyblion a’r Cyngor Eco am dynnu sylw at fater sy’n bwysig iddyn nhw a helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd. Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn cefnogi’r gwaith casglu sbwriel, ac rydyn ni’n gobeithio mai hwn yw’r cyntaf o lawer o ddigwyddiadau tebyg a fydd yn parhau i ysgogi balchder ym Mhen-rhys.”

Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol sy’n bosibl pan fydd cymunedau yn gweithio gyda’i gilydd a phan rydyn ni’n rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu syniadau. Mewn dim o dro, fe wnaeth yr hyn a ddechreuodd fel sgwrs yn yr ystafell ddosbarth droi’n ymdrech gymunedol, gan ddod â thrigolion a sefydliadau at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym Mhen-rhys.