Fy Trivallis i

Amdani am yr Haf Gorau Erioed!

15 July 2026

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu llond gwlad o syniadau hwyliog i'ch helpu chi i fwynhau popeth sydd gan ein cymunedau i'w gynnig.

Mae’r haf yma, ac rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer yr Haf Gorau Erioed!

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu llond gwlad o syniadau hwyliog i’ch helpu chi i fwynhau popeth sydd gan ein cymunedau i’w gynnig. A’r rhan orau? Mae llawer o’r gweithgareddau am ddim neu’n rhad, felly gall pawb gymryd rhan.

Byddwn yn teithio ar draws ein cymunedau, yn cwrdd â phobl leol, yn ymweld â digwyddiadau ac yn darganfod trysorau cudd. Ar ein taith, byddwn yn sgwrsio â thrigolion, yn clywed eich straeon ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog sy’n gwneud ein cymdogaethau yn llefydd mor arbennig.

Beth sydd mlaen yn eich ardal chi

Chwilio am rywbeth i’w wneud yn ystod gwyliau’r ysgol?

Byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd yn ein Digwyddiadur sy’n llawn o:

  • Ddigwyddiadau lleol
  • Diwrnodau allan i’r teulu sydd am ddim neu’n rhad
  • Parciau a theithiau cerdded i’w darganfod
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Lleoedd i ymweld â nhw heb fynd ymhell o gartref
  • Awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i wneud yn fawr o’ch haf

P’un a ydych chi’n chwilio am antur newydd neu am brynhawn allan hwyliog, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r digwyddiadau sy’n lleol i chi.

T-Fest ar y Ffordd

Yr haf hwn, byddwn yn mynd â T-Fest allan i’n cymunedau ac yn ymuno â chwe digwyddiad cymunedol gwych ledled Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn ymateb gwych i’n cystadleuaeth, mae chwe digwyddiad wedi’u dewis gan staff a thenantiaid, sy’n dathlu popeth sy’n wych am ein cymunedau lleol. O weithgareddau hwyliog ac adloniant i gyfleoedd i ddod â chymdogion at ei gilydd.

Byddwn yno i ymuno yn yr hwyl, cwrdd â phobl leol a dathlu’r hyn sy’n gwneud pob cymuned yn arbennig.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i ddarganfod ble fyddwn ni, a chofiwch ymuno â ni os yw’r lleoliad yn un cyfleus i chi.

Cymryd rhan yn ein cystadleuaeth Antur yn y Cymoedd

Rydyn ni’n rhoi cyfle i deuluoedd ennill Antur yn y Cymoedd a chreu eu diwrnod allan haf perffaith.

Rydyn ni’n chwilio am syniadau creadigol i’r teulu sy’n gwneud yn fawr o gysylltiadau teithio lleol, atyniadau lleol, gweithgareddau am ddim a phrofiadau cymunedol. Ewch ati i ddangos i ni pa fath o daith fyddech chi’n ei threfnu, y lleoedd y byddech chi’n ymweld â nhw a sut y byddech chi’n troi’ch taith yn antur haf perffaith.

Bydd teuluoedd buddugol yn cael teithio ar wasanaethau trên cymwys Trafnidiaeth Cymru gan ddefnyddio Tocyn Dydd y Cymoedd, a hefyd yn cael arian gwario ar gyfer gweithgareddau a lluniaeth drwy gydol y dydd.

Byddwn yn gofyn i’r teuluoedd buddugol recordio eu diwrnod ar fideo a thynnu lluniau er mwyn gallu ysbrydoli eraill i fynd allan a darganfod yr hyn sydd gan ein cymunedau i’w gynnig yr haf hwn.

Byddwn yn rhannu’r manylion ar sut i fynd ati i gystadlu yn fuan iawn.

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi

Mae gan bob cymuned bobl, lleoedd a straeon anhygoel, ac rydyn ni eisiau eu dathlu.

Trwy gydol yr haf fe fyddwn ni allan yn ymweld â gwahanol ardaloedd, yn siarad â thrigolion, yn galw heibio i ddigwyddiadau cymunedol ac yn darganfod beth sy’n gwneud pob cymdogaeth yn unigryw.

Os ydych chi’n ein gweld ni, cofiwch alw draw i ddweud shw’mae! Byddem wrth ein bodd yn clywed am:

  • Eich hoff le yn lleol
  • Eich awgrym gorau ar gyfer diwrnod allan gwych
  • Stori newyddion da o’ch cymuned
  • Eich hoff atgofion hafaidd

Efallai y byddwch hyd yn oed yn ymddangos ar ein gwefan neu ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol!

Amdani am yr Haf Gorau Erioed

Mae cymaint o bethau gwych yn mynd ymlaen ar garreg eich drws.

Ewch draw i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol a dilynwch ni wrth i ni ddarganfod anturiaethau lleol, dathlu straeon cymunedol a rhannu llond gwlad o syniadau i’ch helpu i fwynhau haf gwych heb fynd yn bell o gartref.

Amdani, gyda’n gilydd, i gael yr Haf Gorau Erioed!