Fy Trivallis i

Cyflwyno bywyd newydd i hen safle Ysbyty Cyffredinol Merthyr

14 July 2026

Rydyn ni newydd brynu hen safle Ysbyty Cyffredinol Merthyr ac byddwn yn cyflwyno cais cynllunio i ddymchwel yr adeilad presennol a'i ailddatblygu yn gartrefi newydd i bobl leol.

Mae’n safle cyfarwydd ac annwyl i lawer o bobl Merthyr. Mae’n rhan o stori’r dref ers cenedlaethau, ac rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw’r safle i’r gymuned. Dyna pam nad oedd hwn yn benderfyniad hawdd na chyflym.

Y gwir plaen amdani yw bod yr adeilad wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer ac yn prysur fynd â’i ben iddo. Mae bellach yn strwythurol anniogel ac yn cael ei effeithio fwyfwy gan fandaliaeth, tresmaswyr ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn peri pryder cynyddol i drigolion lleol ac i ninnau hefyd.

Ar ôl pwyso a mesur yr holl opsiynau yn ofalus, credwn mai dymchwel yw’r ffordd fwyaf diogel ac ymarferol ymlaen. Bydd hyn yn caniatáu inni ymdrin â’r risgiau presennol ac, yn bwysicach, gwneud defnydd cadarnhaol o’r safle unwaith eto.

Ein cynnig yw datblygu cartrefi i’r radd flaenaf sy’n diwallu anghenion lleol. Fel llawer o ardaloedd, mae cryn alw am dai da, diogel, ym Merthyr Tudful. Mae’r prosiect hwn yn gyfle i helpu i ddiwallu’r angen hwnnw wrth wella safle amlwg yn y dref.

Hoffem greu cartrefi y bydd pobl yn teimlo’n falch o fyw ynddyn nhw, cartrefi sydd wedi’u cynllunio’n dda, sy’n arbed ynni, ac sy’n rhan o gymdogaeth ddiogel, groesawgar. Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a’r awdurdod lleol i sicrhau bod y datblygiad yn cyd-fynd yn dda â’r ardal gyfagos ac yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i’r gymuned.

Gwyddom na fydd pawb yn cytuno â’r cynlluniau hyn, ac rydyn ni’n parchu hynny. Mae gan bobl atgofion a chysylltiadau cryf ag adeiladau fel hyn. Er nad oes modd achub y strwythur ei hun, rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sensitif i hanes y safle wrth fwrw’r maen i’r wal.

Hoffem glywed gennych chi hefyd. Fel rhan o’r broses gynllunio, bydd cyfleoedd i drigolion a rhanddeiliaid rannu barn. Mae eich adborth chi’n bwysig a bydd yn helpu i lunio dyfodol y safle.

Unwaith y bydd y cais cynllunio wedi’i gyflwyno, byddwch yn gallu cael rhagor o wybodaeth a manylion drwy borth cynllunio’r awdurdod lleol.

Y nod yw gwneud y safle yn ddiogel eto a chreu rhywbeth cadarnhaol at y dyfodol – cartrefi newydd, cyfleoedd newydd, a dechrau newydd i ran adnabyddus o Ferthyr.

Byddwn yn diweddaru’r gymuned wrth i’r cynlluniau fynd rhagddo.