Fy Trivallis i

Deddf Hawliau Rhentwyr – Beth mae’n ei olygu i chi?

1 June 2026

Mae'r Ddeddf Hawliau Rhentwyr yn newid cyfreithiol dan arweiniad Llywodraeth y DU i wella hawliau tenantiaid. Mae'r wasg a'r cyfryngau yn tynnu sylw at y Ddeddf newydd ar hyn o bryd, ac roeddem am esbonio sut mae'n effeithio arnoch chi fel tenant Trivallis.

Newidiadau i’ch contract rhentu

Mae dau beth yn newid i bobl sy’n rhentu gennym ni neu gan landlordiaid cymdeithasol eraill (ac i rentwyr preifat). Mae’r newidiadau hyn yn dechrau ar 1 Mehefin 2026. Rydyn ni wedi ysgrifennu atoch i sôn am y newidiadau hyn.

Beth yw’r newidiadau?

Mae eich contract rhentu yn newid. Bydd yn cynnwys telerau newydd sy’n golygu na allwn eich trin yn annheg:

  • os ydych chi’n hawlio budd-daliadau, neu
  • os oes gennych chi blentyn sy’n byw gyda chi neu’n ymweld â’ch cartref

Gwybodaeth bwysig

Mewn rhai achosion, gallwn barhau i gyfyngu ar blant sy’n byw mewn eiddo. Gall hyn ddigwydd:

  • os yw’r cartref yn rhy fach (gorlawn), neu
  • os nad yw’r math o lety yn addas (er enghraifft, tai gwarchod i bobl hŷn)
  • Mae’r tai yn llety arbenigol (er enghraifft, ar gyfer pobl sy’n cael triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau)

Does dim newid i’r sefyllfa fel ag y mae ar hyn o bryd felly. Os yw plant yn cael byw gyda chi neu ymweld â chi nawr, fydd hynny ddim yn newid.

Cyswllt gennym ni

Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda rhagor o wybodaeth erbyn 14 Mehefin 2026. Os na fyddwch chi wedi derbyn llythyr gennym erbyn y dyddiad hwn, cysylltwch â ni.

I bwy mae hyn yn berthnasol

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i’r canlynol:

  • yr holl denantiaid presennol
  • pob tenant newydd

I’r rhan fwyaf o bobl, fydd dim byd yn newid o ddydd i ddydd. Ond bydd gennych chi hawliau newydd dan y gyfraith.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru yma. 

Cwestiynau cyffredin

Oes gen i ddewis ynglŷn â’r newidiadau hyn? Oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i bawb sy’n rhentu. Maen nhw yno i’ch amddiffyn chi rhag achos o wahaniaethu. Mae’r gyfraith yn dweud nad oes modd cyflwyno neu ddileu newidiadau oni bai eich bod chi a ni’n cytuno ar hynny, a bod hynny o fudd i chi. Mae hyn yn annhebygol o ddigwydd i’r rhan fwyaf o bobl.

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth a does dim angen i chi lofnodi unrhyw beth. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â ni. 

A fydd fy mhlant neu fy llysblant yn cael symud i mewn? Ydw i’n cael mabwysiadu neu faethu?

Mae hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa. Os oedd rheol glir a theg o’r blaen, bydd fel arfer yn aros yr un fath.
Er enghraifft

  • os yw’ch cartref yn rhy fach
  • os nad yw’r math o dŷ yn addas i blant 

Oes angen i mi ddweud wrthych chi os oes plant yn symud i mewn?

Oes. Rhaid i chi ddweud wrthym os yw’ch aelwyd yn newid. Mae hyn yn cynnwys os bydd:

  • plant
  • llysblant
  • plant maeth
  • aelodau eraill o’r teulu

yn symud i fyw atoch am amser hir.

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau siarad am blant sy’n byw yn eich cartref neu i ddeall ein rheolau. 

Fyddech chi’n gofyn i mi symud i gartref llai oherwydd hyn?

Na fyddwn. Bydd eich contract yr un mor ddiogel ag y mae nawr.

Alla i wneud cais am dŷ neu gyfnewid cartref os oes gen i blant?

Cewch. Mae hyn yn normal. Gallwch wneud cais, ond efallai na fydd rhai cartrefi yn addas, er enghraifft:

  • os ydyn nhw’n rhy fach
  • os ydyn nhw ar gyfer pobl hŷn

Beth os ydw i’n byw mewn llety gwarchod?

Os ydych yn byw mewn tai gwarchod ar gyfer pobl hŷn, ac nad yw plant yn cael byw yno ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd hynny’n aros yr un fath. Mae hyn oherwydd efallai y bydd angen i ni gadw’r cartref yn ddiogel ac yn addas i bawb sy’n byw yno, neu efallai y bydd yn rhaid i ni ddilyn rheolau cyfreithiol penodol. Os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau am hyn, dylech siarad â ni.

 Sut fyddwch chi’n rhannu’r wybodaeth hon?

Byddwn ni’n ysgrifennu atoch erbyn 14 Mehefin 2026. Byddwn ni’n esbonio beth sy’n newid a pham. Byddwn hefyd yn rhannu help ychwanegol os oes angen. Byddwn yn parhau i gefnogi tenantiaid ag anghenion ychwanegol.

Beth os ydw i’n meddwl fy mod i’n cael fy nhrin yn annheg?

Codwch hyn gyda ni yn gyntaf. Am gyngor pellach, gallwch gysylltu â Shelter Cymru.

Ydy hawliadau am fudd-daliadau yn gallu effeithio ar benderfyniadau sy’n ymwneud â’m tenantiaeth?

Ni allwn eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn hawlio budd-daliadau. Gallwn wirio a ydych chi’n gallu fforddio’r rhent. Byddwn yn edrych ar yr holl incwm yn deg, gan gynnwys:

  • cyflogau
  • pensiynau
  • taliadau cynhaliaeth
  • budd-daliadau

Alla i weld y contract newydd?

Wrth gwrs! Cliciwch ar y dolenni isod i weld y fersiynau newydd o’n contractau meddiannaeth. Dim ond samplau yw’r rhain, felly fydd eich manylion ddim arnyn nhw.

Secure occupation contract for all general needs tenants including sheltered housing tenants (Saesneg yn unig)

Standard occupation contract for market rental tenants marchnad (Saesneg yn unig)

Standard (converted) occupation contract for market rental tenants (Saesneg yn unig)