Fy Trivallis i

Dechrau cyfnod newydd wrth i denantiaid baratoi i symud i hen safle’r Button Factory

27 May 2026

Bydd tenantiaid yn symud i ddeg cartref newydd yng Nghlos y Ffatri, Porth, ym mis Mai, wrth i Trivallis gwblhau ei ddatblygiad diweddaraf.

Bydd tenantiaid yn symud i ddeg cartref newydd yng Nghlos y Ffatri, Porth, ym mis Mai, wrth i Trivallis gwblhau ei ddatblygiad diweddaraf ar Catherine Crescent mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a Bluefield Land Ltd.

Mae gorffennol diwydiannol cyfoethog i’r safle, a fu unwaith yn gartref i’r “Button Factory” adnabyddus a oedd yn cynhyrchu popeth o drimins lledr a darnau gemau bwrdd i ddeis a hyd yn oed cratiau pren ar gyfer poteli pop Corona.

Mae’r datblygiad hwn yn nodi dechrau pennod newydd, fel rhan o raglen ehangach o gartrefi ynni-effeithlon wedi’u cynllunio gan ddefnyddio egwyddorion AECB CarbonLite, sy’n canolbwyntio ar ddull ffabrig yn gyntaf ac yn trawsnewid yr hen safle diwydiannol hwn yn lle cynaliadwy i fyw, lle sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.

Mae’r datblygiad yn dod â deg cartref newydd i’r gymuned, gan gynnwys pedair fflat un ystafell wely a chwe thŷ dwy ystafell wely. Mae’r safle wedi’i adeiladu ar dir wrth ymyl cartrefi a ddatblygwyd yn flaenorol gan Trivallis, ac mae wedi golygu bod modd ehangu cymdogaeth sefydledig mewn ardal sydd â chysylltiadau da.

Mae trawsnewid hen safle’r ffatri yn gartrefi modern, ynni-effeithlon yn adlewyrchu cartref sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.

Mae Clos y Ffatri hefyd yn garreg filltir i Trivallis, gan mai dyma ei ddatblygiad llawn cyntaf yn defnyddio egwyddorion AECB CarbonLite, gan gymryd dull ffabrig yn gyntaf i wella inswleiddio, cadw gwres a lleihau’r defnydd o ynni. Mae’r cartrefi yn cynnwys nodweddion fel pympiau gwres o’r aer, sy’n helpu i wella effeithlonrwydd ynni, cadw gwres yn fwy effeithiol a lleihau biliau tenantiaid. Bydd canllawiau a chefnogaeth hefyd yn cael eu darparu i helpu preswylwyr i fanteisio i’r eithaf ar y technolegau newydd hyn wrth iddynt ymgartrefu.

Mae cynaliadwyedd wedi’i ystyried yn ofalus ar draws y safle, gyda systemau gardd wedi’u cynllunio i reoli dŵr wyneb a lleihau’r risg o lifogydd.

Mae’r datblygiad hefyd wedi’i siapio gan flaenoriaethau lleol, gydag elfennau llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan fenter Porth Decides.

Mae’r gymuned yn elwa o’r datblyigad hefyd trwy gyllideb gyfranogol gymunedol. Derbyniodd dau grŵp lleol, Gelli Life For Living a Shift Together, ychydig o dan £6,000 i gefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn yr ardal i gefnogi gyda gweithgareddau ar gyfer grwpiau iechyd meddwl a lles.

Dywedodd Sarah Davies, Rheolwr Datblygu Trivallis:

“Mae Clos y Ffatri yn ddatblygiad pwysig iawn i ni, nid yn unig oherwydd ei fod yn dod â chartrefi newydd o ansawdd uchel i’r ardal, ond oherwydd ei fod yn ein helpu i ymateb yn uniongyrchol i anghenion tai lleol.

Mae gweld y safle hwn yn cael ei drawsnewid yn gartrefi newydd wedi rhoi boddhad mawr ac mae’n adlewyrchu’r cydweithrediad agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a gwaith caled Bluefield Land Ltd i ddod â’r cynllun yn fyw.”

Nododd cynrychiolydd Bluefield Ltd:

“Mae Bluefield Land yn falch iawn o fod wedi cyflawni ein prosiect cyntaf mewn partneriaeth â Trivallis.

Roedd y ffatri segur wedi ei nodi fel safle posibl ar gyfer ei hailddatblygu yn gartrefi y mae mawr eu hangen yn yr ardal.

Gan ddefnyddio ein chwaer-gwmnïau, Cardiff Demolition, Neal Soils ac Atlantic Recycling, cafodd y safle ei glirio i’w ailddefnyddio heb fawr o effaith amgylcheddol.

Gan weithio’n agos gyda thîm Trivallis, rydym ni wedi llwyddo i gyflawni statws AECB Carbonlite. Mae hwn yn ddewis arall i EPCA ac mae’n canolbwyntio ar y cysyniad ffabrig yn gyntaf. Mae’r cartrefi yn cael eu gwresogi gyda phympiau gwres o’r aer ac yn cael eu hawyru gan systemau adfer gwres mecanyddol.  Mae gwireddu’r cynllun hwn wedi bod yn werthfawr iawn.

Rydym ni’n falch iawn o drosglwyddo’r cartrefi ynni modern hyn, a fydd yn gyfforddus ac yn ddiogel i fyw ynddynt.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o’r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn yn symud ymlaen, gan ddarparu 10 o gartrefi fforddiadwy ynni-effeithlon newydd i ddiwallu anghenion tai lleol. Mae ein partneriaeth â Trivallis wedi ein galluogi i gynyddu’r cyflenwad tai a chreu cymuned gynaliadwy, wedi’i chysylltu’n dda lle gall trigolion ffynnu. Mae’r prosiect hwn yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i bobl ledled ein hardal.”

Cefnogi’r galw am dai lleol

Bydd cartrefi yng Nghlos y Ffatri yn cael eu dyrannu yn seiliedig ar anghenion tai lleol, gan sicrhau eu bod yn cael eu paru â phobl y mae eu hamgylchiadau yn addas i’r math o gartref sydd ar gael. Mae’r cymysgedd o eiddo wedi’i gynllunio i gefnogi ystod o aelwydydd, gan helpu i greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

Mae Trivallis yn edrych ymlaen at rannu mwy am y datblygiad a’r bobl a fydd yn ei alw’n gartref cyn bo hir.