Fy Trivallis i

Y gwir a dim ond y gwir am Benrhys

9 February 2026

Trist iawn oedd darllen cymaint o sylwadau cas ac anghywir yn y Valleys Times am Benrhys yr wythnos diwethaf. Roedd rhai sylwadau yn amlwg wedi’u gwneud i ddychryn pobl ac i droi cymdogion yn erbyn ei gilydd.

Rydyn ni’n poeni’n fawr am Benrhys a’r bobl sy’n byw yma. Felly rydyn ni eisiau rhannu’r ffeithiau go iawn eto, mewn iaith glir a syml.

  • Mae angen y cartrefi newydd oherwydd na fydd y tai presennol ym Mhenrhys yn bodloni safonau ansawdd tai yn y dyfodol.
  • Mae angen mwy o gartrefi hefyd i helpu gyda’r argyfwng tai yn RhCT, gan nad oes digon o gartrefi wedi’u hadeiladu dros y 50 mlynedd diwethaf.
  • Bydd y rhan fwyaf o’r tai newydd ym Mhenrhys yn cael eu gwerthu’n breifat. Maen nhw wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd lleol.
  • Fel pob ystad dai newydd, bydd rhai cartrefi ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol.
  • Mae pob tenant sy’n byw ym Mhenrhys wedi cael addo cartref newydd yno os ydyn nhw eisiau un.
  • Gall pobl aros ym Mhenrhys yn ystod y gwaith adeiladu, neu symud i ffwrdd a dychwelyd yn ddiweddarach i un o’r cartrefi newydd.
  • Bydd cartrefi cymdeithasol ychwanegol (os o gwbl) yn mynd i bobl ar y gofrestr dai leol. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n gadael y lluoedd arfog, pobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, teuluoedd sydd wedi colli eu cartref rhent a phobl y mae eu hiechyd neu eu hanabledd yn golygu bod angen lle newydd arnyn nhw i fyw.
  • Y llynedd, roedd 96% o’r bobl a gafodd dai cymdeithasol yn RhCT eisoes yn byw yma neu â chysylltiadau teuluol neu waith lleol.
  • Mae galw enwau ar denantiaid tai cymdeithasol yn anghywir. Mae’r rhain yn bobl gyffredin sydd angen cartrefi diogel.
  • Mae pobl sydd o dan reolaeth fewnfudo (o dan Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996) wedi’u gwahardd o dan y gyfraith rhag cael y cartrefi newydd hyn. Mae pobl sy’n ceisio lloches yn haeddu diogelwch a charedigrwydd, ond dydyn nhw ddim yn gymwys i gael cartrefi ym Mhenrhys. Mae pobl leol eisoes yn cael blaenoriaeth ar gyfer tai cymdeithasol.
  • Nid yw Trivallis yn rhan o’r cyngor na Llywodraeth Cymru. Nid yw’n cael ei redeg gan wleidyddion. Mae’n gwmni cymunedol cydfuddiannol sy’n eiddo i’w denantiaid.
  • Os gwneir unrhyw arian o’r cartrefi newydd, bydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl i gartrefi presennol Trivallis.
  • Mae ein timau’n gweithio’n galed iawn i wneud atgyweiriadau, cadw cartrefi yn ddiogel a chefnogi tenantiaid. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch cartref Trivallis, cysylltwch â ni.
  • Nid oes gan Trivallis yr holl arian i dalu am y datblygiad. Bydd y rhan fwyaf ohono yn dod o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat, yn union fel pob rhaglen adeiladu fawr.
  • Disgwylir i’r datblygiad hwn ddod â £140 miliwn a mwy o swyddi i’r economi leol a helpu i greu newid hirdymor.
  • Rydyn ni’n siarad â Trafnidiaeth Cymru am fws gwennol rheolaidd i orsaf Ystrad, yn ogystal â’r gwasanaethau bws arferol.
  • Nod y prosiect adfywio yw dod â swyddi, sgiliau a hyfforddiant hirdymor i bobl leol.
  • Bydd y datblygiad yn creu cyfleoedd i bobl leol weithio ym maes adeiladu, a hefyd mewn meysydd fel gweinyddu, logisteg, rolau cymorth, hyfforddeiaethau a phrentisiaethau.
  • Ni fyddwn yn adeiladu ar safleoedd hanesyddol pwysig ym Mhenrhys, fel cerflun ‘Our Lady’ a’r Ffynnon Sanctaidd, a byddant yn cael eu gwarchod yn ofalus iawn.

 

Credwn fod y datblygiad hwn yn rhywbeth cadarnhaol a chyffrous i RhCT. Dyna pam mae’n ein corddi i weld sylwadau cas ac anghywir ar-lein sy’n ceisio gwneud i bobl deimlo’n ddig neu’n ofnus. Pan fydd pobl yn ein cyhuddo o ddweud celwydd, mae’n gwneud i ni deimlo’n ddigalon, oherwydd rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i fod yn agored ac yn onest. Mae hefyd yn niweidiol gweld grwpiau o bobl yn cael eu beio am broblemau y tu hwnt i’w rheolaeth.

Mae’r Cymoedd bob amser wedi bod yn lle caredig, cryf a chydag ysbryd cymunedol. Rydyn ni’n helpu ein cymdogion. Rydyn ni’n gofalu am ein gilydd. A phan fyddwn ni’n sefyll gyda’n gilydd, rydyn ni ar ein cryfaf.

Rydyn ni’n gobeithio y gall Penrhys barhau i fod yn lle mae pobl yn teimlo’n falch ohono, yn ddiogel a bod croeso iddynt.