Fy Trivallis i

Wythnos Arbed Ynni 2026: Ble i ddod o hyd i gymorth ynni ac arian dibynadwy

19 January 2026

Fel rhan o Wythnos Arbed Ynni 2026, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau dibynadwy a all eich helpu…

Fel rhan o Wythnos Arbed Ynni 2026, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau dibynadwy a all eich helpu i reoli costau ynni, deall biliau eich cartref a chael mynediad at gymorth ymarferol.

Yn aml, mae pryderon am ddefnydd ynni ac arian yn dod law yn llaw, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Os ydych chi’n teimlo’n ansicr neu’n poeni am eich biliau, mae cymorth ar gael – does dim rhaid i chi reoli’r cyfan ar eich pen eich hun.

Cymorth gan ein Tîm Cyngor Ariannol

Os ydych chi’n denant Trivallis ac yn ei chael hi’n anodd rheoli biliau ynni neu gostau ehangach eich aelwyd, mae ein Tîm Cyngor Ariannol yma i helpu.

Maen nhw’n cynnig cymorth cyfrinachol am ddim a gallan nhw eich helpu i wneud y canlynol:

  • deall eich biliau ynni a gwariant eich cartref
  • edrych ar opsiynau talu fforddiadwy
  • gwirio pa gymorth neu gynlluniau y gallech chi fod yn gymwys iddyn nhw
  • cyfeirio at sefydliadau allanol dibynadwy lle bo angen

Does dim angen i chi aros nes bod sefyllfa wedi troi’n argyfwng. Mae cymorth ar gael os ydych chi’n poeni am gostau neu os hoffech chi gael gair o gyngor. E-bostiwch ein Tîm Cyngor Ariannol ar moneyadviceteam@trivallis.co.uk neu ffoniwch 01443 494560.

Siarad â’ch cyflenwr ynni

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch biliau ynni, mae’n syniad da cysylltu â’ch cyflenwr cyn gynted â phosibl.

O dan y rheolau a bennwyd gan Ofgem, rhaid i gyflenwyr ynni weithio gyda chi i gytuno ar gynllun talu y gallwch ei fforddio. Gallai hyn gynnwys gwasgaru’r taliadau, rhoi amser i chi, neu drafod opsiynau amgen.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ddweud, gall Tîm Cyngor Ariannol Trivallis eich helpu i baratoi ar gyfer y sgwrs honno.

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, gan gynnwys biliau ynni a materion ariannol.

Gallan nhw eich helpu chi i:

  • ddeall biliau ynni a dulliau talu
  • gwirio’ch cymhwystra ar gyfer cynlluniau fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes
  • cynnig cyngor os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled neu i gadw i fyny â chostau’r cartref

Mae cyngor ar gael ar-lein, dros y ffôn ar 0800 702 2020, ac yn eich swyddfeydd Cyngor ar Bopeth lleol.

National Energy Action Cymru (NEA)

Mae National Energy Action yn elusen sy’n canolbwyntio ar roi cyngor a chefnogaeth ar ynni i bobl sy’n cael eu heffeithio gan dlodi tanwydd.

Gallan nhw helpu drwy roi:

  • cyngor ar effeithlonrwydd ynni a biliau
  • canllawiau ar gynlluniau cymorth ynni
  • dolenni i wasanaethau dibynadwy ychwanegol sy’n cynnig cymorth gyda chostau ynni ac aelwydydd

Mae eu gwefan hefyd yn cyfeirio at opsiynau cymorth pellach os oes angen help ychwanegol arnoch chi.

Os ydych chi’n poeni am gostau ynni, gall estyn allan yn gynnar wneud gwahaniaeth go iawn. Mae cymorth ar gael, ac mae yna bobl a sefydliadau sy’n barod i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a chymryd y cam nesaf.