Fy Trivallis i

Trivallis yn prynu hen gartref gofal yn Perthcelyn

29 April 2025

Mae Trivallis wedi prynu The Willows ym Mherthcelyn. Mae'r hen gartref nyrsio, a oedd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn, wedi cael ei brynu gan y gymdeithas dai i helpu i ateb y galw am dai fforddiadwy yn yr ardal leol.

Mae Trivallis yn gymdeithas dai nid-er-elw sydd wedi’i lleoli ym Mhontypridd. Yn eiddo i’w thenantiaid ac yn cael ei rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru, mae ganddi eisoes fwy na 10,000 eiddo yn RhCT sy’n darparu cartrefi i fwy na 25,000 o bobl leol. Gyda rhestrau aros hir am dai fforddiadwy yn yr ardal a’r niferoedd uchaf erioed o bobl yn byw mewn llety dros dro, mae Trivallis wedi ymrwymo i sicrhau y gellir defnyddio eiddo gwag unwaith eto.

Rhoddwyd The Willows ar y farchnad beth amser yn ôl. Pan fethodd y gwerthiant cychwynnol, camodd Trivallis i’r adwy i ddod â’r adeilad yn ôl i berchnogaeth leol.

Nid oes gan Trivallis gynlluniau sefydlog ar gyfer yr adeilad eto. Nawr ei fod wedi’i sicrhau, bydd Trivallis yn ymgynghori â phobl leol a grwpiau cymunedol i archwilio’r defnydd gorau iddo.

Cadarnhaodd Louise Attwood, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Trivallis: “Mae’r Willows yn ased go iawn yng nghymuned Perthcelyn ac rydyn ni’n deall dyfnder y teimlad a sbardunodd y broses werthu ddiweddar. Roedden ni’n awyddus i’w brynu, nid yn unig i helpu i ateb y galw am gartrefi diogel a fforddiadwy, ond i wneud yn siŵr bod pobl leol yn gallu helpu i benderfynu dyfodol yr adeilad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gan drigolion a gweithio gyda’r gymuned mewn ffordd agored a thryloyw i gynllunio’r bennod nesaf ar gyfer The Willows.”