Fy Trivallis i
  1. Mae Trivallis (“ni”) yn berchen ar ac yn gweithredu’r wefan hon, Trivallis.co.uk (y “wefan”). Rydym ni wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru (Rhif Cofrestru L143) a chawn ein rheoleiddio a’n hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 (Rhif Cofrestru 30261R).
  2. Rydym ni wedi ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir; fodd bynnag, ni ellir ein dal yn atebol am unrhyw wallau.
  3. Mae’r wybodaeth, y ffotograffau, y cynnwys, y lluniau a’r delweddau sydd wedi’u cynnwys yn y Wefan hon yn cael eu hamddiffyn dan hawlfraint. Rydym ni’n hapus i chi wneud copïau o’r wybodaeth a’r delweddau ar y Wefan hon dim ond fel y bo angen ac fel mân weithredoedd wrth i chi edrych arni; a gallwch argraffu cymaint o’r Wefan at eich defnydd personol ag y bo’n rhesymol at ddibenion preifat ac anfasnachol. Mae croeso i chi gyhoeddi dolen i unrhyw ran o’n gwefan ac nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw dudalennau, ond byddwch cystal â pheidio â fframio’r Wefan hon heb ein caniatâd pendant yn ysgrifenedig.
  4. Rydych chi’n cydnabod ac yn cytuno bod yr holl nodau masnach, nodau gwasanaeth, enwau masnach, logos a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill ym mhob deunydd neu gynnwys yn y Wefan yn parhau bob amser yn ein perchnogaeth ni neu ein cleientiaid/trwyddedwyr. Caniateir i chi ddefnyddio’r deunydd hwn dim ond fel yr ydym ni’n ei awdurdodi’n benodol.
  5. Ni chewch ddefnyddio’r Wefan hon at unrhyw ddibenion anghyfreithlon ac, yn benodol, rydych chi’n cytuno na fyddwch yn anfon, yn defnyddio, yn copïo, yn postio (nac yn caniatáu i unrhyw beth gael ei anfon, ei ddefnyddio, ei gopïo na’i bostio) sy’n ddifrïol neu’n aflan neu sy’n sarhaus, yn anweddus neu sy’n torri preifatrwydd unrhyw unigolyn.
  6. Darperir y Wefan hon i chi am ddim ac ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd i chi (ac eithrio yn achos anaf personol neu farwolaeth a achoswyd gan ein hesgeulustod dybryd neu gamymddwyn bwriadus) boed mewn contract, tort (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, yn deillio o’r Wefan hon neu yn gysylltiedig â hi. Ni dderbyniwn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod uniongyrchol, arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw ddifrod arall o ba fath bynnag, sut bynnag y mae’n codi trwy ddefnyddio’r Wefan neu unrhyw wybodaeth a gafwyd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r Wefan hon. Eich unig rwymedi yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Wefan hon.
  7. Gall y telerau hyn gael eu diwygio gennym o bryd i’w gilydd, unrhyw bryd a heb rybudd ymlaen llaw, a daw’r newidiadau i rym ar unwaith ar ôl postio’r telerau diwygiedig. Chi sy’n gyfrifol am wirio o bryd i’w gilydd am newidiadau ac mae parhau i ddefnyddio’r Wefan hon yn nodi eich bod yn derbyn y telerau newydd.
  8. Bydd eich defnydd o’r Wefan hon a lawrlwythiadau ohoni, a gweithredu’r telerau hyn, yn cael eu rheoli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
  9. Rydym ni’n parchu eich data personol a byddwn yn delio ag ef yn unol â’n polisi preifatrwydd. Gallwch weld ein polisi preifatrwydd yma.
  10. Os bydd unrhyw awdurdod cymwys yn penderfynu bod unrhyw delerau neu unrhyw ran o’r telerau, yn annilys, yn anghyfreithlon neu anorfodadwy i unrhyw raddau, bydd y telerau hynny i’r graddau hynny yn cael eu torri o weddill y telerau a fydd yn parhau i fod yn ddilys ac yn orfodadwy i’r graddau eithaf y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.
  11. Mae’r telerau hyn yn effeithiol o, ac fe’u diweddarwyd ddiwethaf yn, mis Mawrth 2024.