Fy Trivallis i

Penrhys ddiwrnod cymunedol

3 July 2025

Ddydd Gwener 20 Mehefin, roedd yr haul yn tywynnu a daeth cymuned Penrhys ynghyd am ddiwrnod cymunedol.  

Ddydd Gwener 20 Mehefin, roedd yr haul yn tywynnu a daeth cymuned Penrhys ynghyd am ddiwrnod cymunedol.

Gyda help llaw gan Trivallis, Cyngor RhCT a’r contractwyr R&M Williams, fe wnaeth pawb helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn yr ardal. Roedd y diwrnod yn llawn sgyrsiau, ysbryd cymunedol a gweithredu.

Trivallis Housing Landlord Wales Two women stand outdoors on grass, both wearing lanyards and sunglasses. One woman wears a white t-shirt and fanny pack; the other holds a clipboard and wears a light shirt. People and buildings are visible in the background.

Trivallis Housing Landlord Wales Two women stand outdoors on a paved path; one holds a leaflet with text and images. There is grass, trees, and a beige building in the background. Both women are looking at the camera and smiling.

Fe wnaeth aelodau’r gymuned dorchi eu llewys a bwrw iddi i gynnal diwrnod chweil. O gynnal sgyrsiau ystyrlon i ymuno ag ymgyrchoedd casglu sbwriel i gynnig help llaw yn ôl eu gallu.

Tra bod y tîm Ystadau yn canolbwyntio ar gael trefn ar ardaloedd wedi gordyfu ac yn helpu i gael gwared ar eitemau gwastraff swmpus a llenwi’r sgipiau, roedd y Swyddogion Tai Cymunedol allan yn sgwrsio â thrigolion, yn gwrando ar eu barn ac wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.

Trivallis Housing Landlord Wales Three adults stand outside in front of residential buildings. Two women, one in a navy shirt with blue gloves and one in a purple blouse holding papers, smile at the camera; a man in a navy shirt stands to their right. People sit in the background.

Trivallis Housing Landlord Wales Two women standing outdoors, smiling at the camera while holding sheets of paper and keys. One wears a black top and the other wears a white T-shirt and sunglasses. A sign and buildings are visible in the background.

Eglwys Llanfair, yng nghanol y gymuned, oedd canolfan y dydd a chafwyd sesiynau galw heibio ar gyfer gwaith atgyweirio, lle roedd cyfle i drigolion drafod atgyweiriadau a siarad ag aelodau am unrhyw broblemau a oedd angen eu datrys.

Roedd hefyd yn lle i bawb ddod at ei gilydd i fwynhau cinio, a chafwyd sgyrsiau gwych am yr ardal.

Trivallis Housing Landlord Wales Three adults wearing high-visibility vests stand outdoors holding green garbage bags and litter pickers, collecting trash in a residential neighborhood. Houses and a white car are visible in the background.

Trivallis Housing Landlord Wales Three women wearing yellow high-visibility vests stand outdoors holding litter pickers and garbage bags, posing for the camera. They are on a grassy area with tall vegetation in the background.

Bu aelodau o’r Tîm Datblygu Cymunedol o ddrws i ddrws yn sgwrsio â thrigolion am eu cymuned ac yn gwrando ar eu syniadau. Hefyd, cynhaliwyd sesiwn fyfyriol ar ddiwedd y dydd, i gyd am gymuned Penrhys.

Nid dim ond timau Trivallis oedd yno ar y diwrnod.

Trivallis Housing Landlord Wales Two people wearing neon yellow safety vests stand on a path outdoors, holding green trash bags and litter pickers, with greenery and a wooden fence in the background.

Ymunodd Cadwch Gymru’n Daclus yn yr hwyl, gan gynnal sesiwn casglu sbwriel yn yr ardal. Daeth criw da ynghyd i wneud y gwaith, gan gynnwys plant lleol o Ysgol Gynradd Penrhys ac aelodau o’r gymuned. Gyda phawb yn gofalu am eu cymuned leol.

Cafodd Timau Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Cyngor RhCT sgyrsiau gyda thrigolion am wastraff ac ailgylchu. Cynigiwyd arweiniad a chefnogaeth i helpu gyda’r gwaith o reoli gwastraff yn y gymuned.

Trivallis Housing Landlord Wales A man in a yellow safety vest smiles while holding a small bird. He stands outdoors in front of a brick building, with several people in the background.

Trivallis Housing Landlord Wales A woman wearing a yellow safety vest and blue shirt stands outside on a grassy area, holding a stack of plastic cups and a clipboard, with houses and trees in the background.

Diolch i rodd hael gan R&M Williams, mae meinciau newydd wedi’u gosod ledled yr ardal. Ynghyd ag ail-farneisio ac atgyweirio meinciau presennol, mae’r gwelliannau hyn wedi creu mannau croesawgar, a lleoedd i orffwys i bob preswylydd eu mwynhau a chysylltu â’i gilydd.

Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, yn llawn egni ac awydd i wneud gwahaniaeth.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac a helpodd i gryfhau’r gymuned.