Fy Trivallis i

O Lanhawr i Gydlynydd a Thu Hwnt

12 June 2025

Yn Trivallis, mae camu ymlaen mewn gyrfa yn rhywbeth rydyn ni wrth ein boddau yn ei weld. Pan ymunodd Ellesha a Katy, tua dwy flynedd yn ôl, roedden nhw'n ymuno â thîm y Cynllun Tai Gwarchod fel Cydlynydd y Cynllun a Glanhawr y Cynllun Rhyddhad. Ond gyda'r gefnogaeth a'r arweiniad cywir, mae'r ddwy wedi camu ymlaen yn eu gyrfaoedd yn Trivallis.

Yn Trivallis, mae camu ymlaen mewn gyrfa yn rhywbeth rydyn ni wrth ein boddau yn ei weld. Pan ymunodd Ellesha a Katy, tua dwy flynedd yn ôl, roedden nhw’n ymuno â thîm y Cynllun Tai Gwarchod fel Cydlynydd y Cynllun a Glanhawr y Cynllun Rhyddhad. Ond gyda’r gefnogaeth a’r arweiniad cywir, mae’r ddwy wedi camu ymlaen yn eu gyrfaoedd yn Trivallis.

Pan ymunodd Ellesha gyntaf fel Cydlynydd y Cynllun, roedd hi’n dod o gefndir gwaith gofal ond ychydig iawn o wybodaeth oedd ganddi am dai.

Doedd hynny ddim yn broblem, oherwydd gyda chefnogaeth Carol, Uwch Gydlynydd y Cynllun, a’r tîm ehangach, dysgodd bopeth yr oedd angen iddi ei wybod ar gyfer ei rôl.

Mae Cydlynwyr y Cynllun yn ganolog i’r gwaith o redeg cynlluniau tai gwarchod o ddydd i ddydd. Maen nhw’n cyfuno tai a rheoli materion iechyd a diogelwch â chymorth lles, adeiladu cymunedau, a diogelu. Mae’n debyg iawn i rôl Swyddog Tai Cymunedol, ond mae’r rôl honno’n cynnwys mwy o gyfrifoldebau.

Pan ddaeth y cyfle, fe wnaeth Ellesha wneud cais i fod yn Swyddog Tai Cymunedol ac roedd yn llwyddiannus.

Esboniodd Ellesha: “Fe wnaeth Carol, fy rheolwraig, fy annog i fynd amdani. Ar ôl i mi ddarllen manylion y swydd, roeddwn i’n meddwl y byddai’n her dda, felly dyma benderfynu mynd amdani a nawr rydw i wrth fy modd.”

Mae hi wedi ffynnu ac wedi setlo’n dda yn ei rôl newydd.

Dywedodd Angelina, Uwch Swyddog Tai Cymunedol yn Trivallis sy’n rheolwraig ar Ellesha: “Mae Ellesha wedi setlo’n dda yn ei rôl newydd. Mae hi mor wybodus ac wedi bod yn cefnogi Swyddogion Tai Cymunedol eraill yn eu rolau.”

Gydag Ellesha yn symud i’w rôl newydd, fe wnaeth hynny greu swydd wag ar gyfer Cydlynydd y Cynllun. Dyma lle mae Katy yn ymuno â’r stori.

Pan ymunodd Katy ychydig flynyddoedd yn ôl, dim ond mewn swyddi achlysurol yr oedd hi wedi gweithio ond daeth am gyfweliad ar gyfer swydd Glanhawr y Cynllun Rhyddhad. Yn ei chyfweliad, fe wnaeth ei phersonoliaeth ofalgar ddisgleirio, ac roedd hi’n llwyddiannus.

Yn fuan wedi hynny, daeth rôl Glanhawr y Cynllun yn wag, a llwyddodd Katy i symud ymlaen i’r rôl hon.

Fe wnaeth Samantha, Uwch Gydlynydd y Cynllun, gefnogi Katy yn ei rôl lanhau a gweithiodd yn galed i fagu hyder Katy. Gyda chymorth Sam, dechreuodd Katy edrych ar y drefn lanhau a dangos y sgiliau eraill a oedd ganddi, gan gynnwys ei sgiliau digidol, a chadw cofnodion.

Yn fuan wedyn, daeth i’r amlwg bod gan Katy y sgiliau i gamu ymlaen. Sylweddolwyd ei bod hi wedi meithrin cysylltiadau da iawn â thenantiaid ac roedd hi’n gwneud llawer mwy i helpu na dim ond glanhau o dan y cynllun.

Roedd Sam yn teimlo bod Katy yn barod i symud ymlaen a phan ddaeth y cyfle, fe wnaeth Katy gais am rôl Cydlynydd y Cynllun, gan lwyddo.

Dywedodd Katy: “Dwi wedi symud ymlaen cymaint yn y cyfnod byr dwi wedi bod yma. Dwi wrth fy modd yn rhan o’r Tîm Gwarchod, mae pawb mor gefnogol. Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ond dyna yw’r peth gorau am y swydd a’r hyn sy’n cadw’r rôl yn gyffrous.”

Mae tenantiaid y cynllun wrth eu bodd gyda Katy, ac mae ei natur ofalgar yn disgleirio bob amser.

Meddai Samantha: “Mae hyder Katy wedi tyfu dros y blynyddoedd; wrth fynd o un rôl i’r nesa yn yr adran Tai Gwarchod. Roedd yr amseru yn berffaith, oherwydd pan ddechreuodd Katy gredu ynddi hi ei hun fel y gwnaethom ni, daeth rôl ran-amser ar gael, ac roedd hi’n llwyddiannus.”

“Dwi wedi gweithio yn yr adran Tai Gwarchod ers sawl blwyddyn, ac wedi bod wrth fy modd yn cael cyfleoedd tebyg i Katy, i symud ymlaen yn Trivallis.”

Esboniodd Christine, Rheolwraig Tai Gwarchod a Thai â Chymorth: “Mae unrhyw un sy’n ddigon ffodus i fod yn rhan o’r Tîm Cynllun Tai Gwarchod yn cael ei annog i adeiladu ar ei sgiliau, a chwilio am gyfleoedd i gamu ymlaen yn y busnes os yw’n dymuno gwneud hynny.”

Os ydych chi’n chwilio am gyfle i ymuno â’r tîm yn Trivallis, ewch i’n tudalen ‘gweithio gyda ni‘ i weld ein swyddi gwag.