Fy Trivallis i

Lansio Adnodd Trwsio newydd yn Trivallis

7 October 2025

"Mae fel cael swyddog trwsio yn eich poced"

Rydyn ni wrth ein bodd i lansio ffordd newydd i denantiaid Trivallis riportio a rheoli gwaith trwsio sydd ddim yn waith trwsio brys, unrhyw le, unrhyw bryd.

Mae’ch adnodd ar-lein newydd, Trefnu Trwsio, bellach yn fyw yn eich porth My Trivallis.

Mae hwn yn newid mawr, ac yn un y mae tenantiaid wedi bod yn gofyn amdano:

Beth allwch chi ei wneud gyda’r adnodd:

  • Gwneud diagnosis o’r broblem gam wrth gam
  • Lanlwytho lluniau neu fideos o’r broblem
  • Trefnu’ch apwyntiad eich hun ar-lein
  • Cyfeirio at ganllaw amlieithog, hawdd ei ddefnyddio
  • Cael cyngor ar atebion syml y gallwch eu rhoi ar waith eich hun

Rydyn ni wedi cynllunio’r teclyn er mwyn gwneud gwaith trwsio yn gynt, yn haws ac yn fwy hyblyg. Chi sy’n rheoli sut a phryd rydych chi’n riportio problemau, a gallwch wneud hyn 24/7.

Beth na ddylech ddefnyddio’r adnodd hwn ar ei gyfer

Os yw’r mater yn un brys neu y gallai beri risg i’ch iechyd neu i’ch diogelwch, bydd angen i chi ein ffonio yn uniongyrchol o hyd. Bydd hyn yn cynnwys pethau fel:

  • Gollyngiadau nwy neu arogleuon nwy cryf
  • Gwifrau trydanol rhydd neu agored
  • Problemau gyda lleithder a llwydni
  • Unrhyw waith trwsio sy’n gysylltiedig â chydymffurfiaeth

Bydd yr adnodd yn eich tywys ac yn eich cyfarwyddo’n glir i ffonio ni os yw’ch gwaith trwsio yn un brys neu’n un risg uchel.

Barod i roi cynnig arni?

Mewngofnodwch i’ch porth tenantiaid a chymerwch olwg ar yr adnodd newydd o dan “Trefnu Trwsio.” Mae wedi’i gynllunio i’ch tywys trwy bopeth sydd angen i chi ei wybod. Ac os ydych chi’n ansicr, rydyn ni yma i helpu yr un fath ag arfer, ffoniwch 03000 030 888 neu ebostiwch customerservices@trivallis.co.uk

Dyma un ffordd arall i’ch helpu i reoli eich cartref, ar eich telerau chi.