Fy Trivallis i

Helpu i siapio’r ffordd rydyn ni’n siarad am ASB yn eich cymuned

5 June 2025

Yna byddem ni wrth ein boddau pe bai modd i chi ymuno â ni ar gyfer gweithdy ymarferol, sy'n canolbwyntio ar atebion lle bydd tenantiaid, staff a phartneriaid yn dod ynghyd i siapio'r ffordd rydyn ni'n siarad am ASB yn ein cymdogaethau ac yn mynd i'r afael ag ef.

Ydych chi’n frwdfrydig dros greu cymunedau cryfach, mwy diogel?

Ydych chi am weld gweithredu go iawn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) – a gwneud yn siŵr bod lleisiau tenantiaid yn arwain y ffordd?

Yna byddem ni wrth ein boddau pe bai modd i chi ymuno â ni ar gyfer gweithdy ymarferol, sy’n canolbwyntio ar atebion lle bydd tenantiaid, staff a phartneriaid yn dod ynghyd i siapio’r ffordd rydyn ni’n siarad am ASB yn ein cymdogaethau ac yn mynd i’r afael ag ef.

Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Mehefin
Lleoliad: YMa, Pontypridd 10:30am–1pm
Yn cynnwys lluniaeth

Pam ddylech chi ddod

Nid siop siarad yn unig yw’r gweithdy hwn. Rydyn ni eisiau cyd-greu’r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu am ASB – yr hyn rydyn ni’n ei ddweud, sut rydyn ni’n ei ddweud e, a sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pob un yn teimlo bod ei lais yn cael ei glywed, a’i fod yn cael ei gefnogi a’i ddiogelu.

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â staff tai, timau diogelwch cymunedol, partneriaid lleol, a thenantiaid eraill i wneud y canlynol:

  • Rhannu’r hyn sydd bwysicaf i chi o ran ASB
  • Helpu i osod y blaenoriaethau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu yn y dyfodol
  • Gwneud yn siŵr bod lleisiau tenantiaid yn siapio’r negeseuon rydyn ni’n eu defnyddio ar draws y sefydliad

P’un a ydych chi wedi cael profiad o ASB eich hun, wedi cefnogi cymydog, neu’ch bod yn poeni am sut rydyn ni’n adeiladu cymunedau cryfach – mae eich mewnwelediad yn hanfodol.

Gweithio gyda’n gilydd sy’n bwysig – nid dim ond riportio problemau, ond bod yn rhan o’r ateb.

Mae llefydd yn brin, felly os oes gennych chi ddiddordeb, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl trwy e-bostio involvement@trivallis.co.uk.

Bydd cyfleoedd yn y dyfodol ar gael hefyd, felly hyd yn oed os na allwch chi ddod i’r gweithdy hwn ond yr hoffech gyfrannu at y gwaith, rhowch wybod i ni.