Fy Trivallis i

Cwrdd â’r tîm

Ein tîm gweithredol sy’n gwneud y penderfyniadau mawr, yn gosod nodau ac yn cynllunio strategaethau i roi tenantiaid yn gyntaf a helpu’r cwmni i lwyddo. Hefyd, maent yn cefnogi ac yn symbylu gweithwyr i fyw yn unol â’n gwerthoedd, gan sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’i gilydd tuag at amcanion cyffredin.

Duncan Forbes

Prif Weithredwr

Mae Duncan yn arweinydd profiadol ac yn gyfreithiwr â 35 mlynedd o brofiad yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ynghyd â mentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned. Mae ganddo gefndir cadarn yn gweithio gydag amrywiol gymunedau a sefydliadau, gan ganolbwyntio ar feysydd fel tai, gwasanaethau cyhoeddus, tlodi ac anghydraddoldeb, ac adfywio.

Mae ei ddiddordebau a’i arbenigedd penodol mewn rheoli newid, arweinyddiaeth, llywodraethu, rheoleiddio, a chydlynu gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwasanaethu’r gymuned yn well. Mae’n angerddol am wella ansawdd bywyd hirdymor trwy wasanaethau ataliol gwell.

Keiron Montague

Cyfarwyddwr Gweithredol Cymunedau

Ac yntau wedi’i eni a’i fagu ym Maerdy, mae Keiron yn weithiwr proffesiynol ym maes tai cymdeithasol gyda diddordeb brwd mewn mynd i’r afael â thlodi ac adfywio cymunedau. Dechreuodd ei yrfa fel Swyddog Cynnwys y Gymuned, ac wedyn symudodd i waith ieuenctid. Gweithiodd i nifer o gymdeithasau tai yn ne Cymru cyn ymuno â Trivallis yn 2019 fel Pennaeth Datblygu ac Adfywio. Hefyd, mae wedi bod yn Gynghorydd ar gyfer RhCT ac yn Aelod Bwrdd Cymunedol Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Lisa Pinney

Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau

Ymunodd Lisa â Trivallis ym Mai 2023 ac mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad o weithio i gymdeithasau tai yng Nghymru. Mae ei rôl yn cwmpasu pob agwedd ar gyllid, y trysorlys, caffael, technoleg, data a gwella busnes. Hi yw Ysgrifennydd Grŵp y Cwmni, hefyd. Mae wedi bod yn gyfrifydd cymwysedig ers bron i 30 mlynedd ac mae ganddi MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. A chanddi gefndir proffesiynol ym meysydd tai, addysg a gweithgynhyrchu, mae Lisa yn arddel gwerth am arian a sut gall technoleg yrru effeithlonrwydd busnes.

Kate Jones

Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl

Mae Kate yn uwch weithiwr proffesiynol adnoddau dynol a datblygu galwedigaethol profiadol gyda chefndir cryf mewn arweinyddiaeth a rolau lefel Bwrdd. Mae ganddi arbenigedd helaeth mewn trawsnewid y gweithlu a newid diwylliannol, gyda phrofiad o reoli prosiectau a rheoli newid, ymdrin â chysylltiadau cymhleth â gweithwyr, a dod o hyd i atebion creadigol i heriau. Ar ôl gweithio yn y GIG yng Nghymru a Lloegr am 14 blynedd, ymunodd Kate â Trivallis yn 2021 ac mae’n gyfrifol am wasanaethau pobl, dysgu a datblygu, iechyd a diogelwch, y fflyd, a chyfathrebu.