Fy Trivallis i

O’r barics i’r Bae i Keith (Saesneg yn unig)

Fel Uwch-ringyll, teithiodd Keith y byd, ond prin y sylweddolodd y byddai, rhyw ddiwrnod, yn dod o hyd i’w gymuned ef ym Mae Caerdydd.

Daw Keith o Dredegar yn wreiddiol ond mae bellach yn byw ym Mae Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae ei gartref yn cael ei addasu fel ei fod yn fwy hygyrch iddo, gan ei fod yn defnyddio cadair olwyn. Fe wnaethon ni alw heibio gyda Keith i gael sgwrs am ei fywyd, ei gartref a’i gymuned.

Treuliodd Keith 30 mlynedd yn y fyddin, lle bu’n gweithio ar hyd a lled y byd. Esboniodd: “Dyna’r peth gorau i fi ei wneud erioed. Roeddwn i wrth fy modd! Pan ymunais i yn 16 oed, dywedodd fy nhad wrtha’ i, ‘fyddi di byth yn para’, ond 30 mlynedd yn ddiweddarach, gadewais i, gan orffen fel Uwch-ringyll. Fe wnes i wrthbrofi fy nhad yn llwyr.”

Ar ôl gadael y fyddin, chwiliodd Keith am swydd ac, oherwydd bod ganddo lawer o sgiliau trosglwyddadwy, aeth i’r sector gofal. Am flynyddoedd lawer, bu’n rhedeg cartrefi gofal ac asiantaethau gofal yn Abertawe, gan helpu pobl ag anghenion gwahanol. Meddai Keith: “Roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i’n gweithio gyda staff anhygoel ac roeddwn i wir yn mwynhau mynd allan, cyfarfod â phobl newydd a dysgu sut gallem ni eu helpu nhw a pha gymorth gallem ni ei roi. Roedden ni’n gofalu am gleientiaid gwirioneddol arbennig.”

Mae pobl a pherthnasoedd yn bwysig iawn i Keith. O’i gymuned i’w deulu, a phawb yn y canol, mae pawb yn bwysig iddo ef.

Rhannodd Keith: “Mae gwir deimlad o gymuned yma. Does dim llawer o flociau o fflatiau lle nad yw pobl yn dadlau drwy’r amser. Mae pawb yn cadw llygad allan am ei gilydd. Mae’n gymuned dda iawn. Maen nhw wedi bod yn dda iawn gyda fi, ers i fi fod yn y gadair, ac maen nhw’n galw heibio i weld sut ydw i, yn aml.

“Tra’r oeddwn i yn yr ysbyty, roedd cymdogion yn dod i ymweld a gweld sut oeddwn i. Daeth cymydog arall i lanhau drosof i gan nad oeddwn i’n gallu gwneud.

“Mae gen i rwydwaith gwych o ffrindiau yma hefyd; rydyn ni i gyd yn cadw llygad ar ein gilydd. Does gen i ddim ond canmoliaeth i fy ffrind Stevie, mae’n fy helpu i o ddydd i ddydd gyda llawer o bethau. Mae mor ddrud cael gofalwr, felly mae’n dod i roi help llaw i fi.”

Mae Keith yn ffrindiau gyda llawer o’r cyn-filwyr eraill sydd hefyd yn byw yn ei floc. Meddai Keith: “Pan symudais i i mewn, roedd hi’n haws oherwydd fe wnes i ffrindiau gyda’r lleill a arferai fod yn y lluoedd arfog. Er ein bod ni oll o wahanol gatrodau a doedden ni ddim yn adnabod ein gilydd cyn byw yma, rydyn ni i gyd yn cyd-dynnu’n dda.”

Bydd y gwaith addasu sy’n cael ei wneud i’w gartref yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd Keith. Esboniodd: “Mae fy nheulu yn bwysig iawn i fi. Rwy’n gweld fy wyrion bob ychydig wythnosau pan fyddan nhw’n dod i ymweld. Mae rhywfaint o ofn ar y rhai lleiaf pan welan nhw fi yn y gadair, felly mae gwneud y gwaith yn golygu y galla’ i fynd allan yn hawdd a chwarae gyda nhw. Mae’n bwysig iawn i mi. Mae’n rhoi llawer mwy o annibyniaeth i mi.

“Rwy’n hapus i’r gweithwyr ddod i mewn a gwneud y gwaith, oherwydd bydd yn gwneud gwahaniaeth i mi. Does gen i ddim ond canmoliaeth i Trivallis. Does gen i ddim problemau na chwynion am y gwaith maen nhw wedi’i wneud hyd yn hyn. Sut galla’ i gwyno am beth sydd wedi cael ei wneud yma? Mae’n arbennig.

“Rwy’n hapus iawn yma. Ar ôl i’r gwaith gael ei wneud, cartref yw fan hyn nawr.”

Dim ond un o’r tenantiaid niferus cyfeillgar a hynod sydd gennym yn byw yma ym Mae Caerdydd yw Keith. Rydym am glywed eich straeon chi am fyw yn ein cartrefi a bod yn rhan o’n cymuned. Rydym am weithio gyda chi a phobl eraill fel Keith i helpu dal gafael yn yr ymdeimlad hwnnw o gymuned tra bydd gwaith yn parhau yn ardal y Bae.

Straeon tenantiaid

Rhannwch eich stori

comms@trivallis.co.uk

share your story image