Fy Trivallis i

Preswylydd Penrhys, Neil, wrth ei fodd â’i gymuned ofalgar (Saesneg yn unig)

Mae Neil Thomas yn breswylydd ffyddlon Penrhys ac yn gydlynydd gwirfoddol yn Eglwys Unedig Llanfair. Mae Neil wedi galw Penrhys yn gartref ers 20 mlynedd ac mae ganddo feddwl mawr o’i gymuned.

Trwy gydol y pandemig, sylwodd Neil fod ei gymuned yn wynebu heriau a’u bod yn colli ffydd yn Trivallis.

Er mwyn ceisio newid hyn, ar ddiwedd 2021, lansiwyd cyfarfodydd misol a’u cynnal yn yr eglwys, gan alluogi preswylwyr i drafod eu profiadau a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a oedd ganddynt gyda Trivallis. Cyn hir iawn, ehangodd y cyfarfodydd i gynnwys arweinwyr lleol, addysgwyr a’r heddlu, i gyd yn dod ynghyd i wneud pethau’n well i’r gymuned.

Yn 2022, lansiwyd cymorthfeydd tai wythnosol i helpu gwella’r gwasanaeth a ddarperir. Chwaraeodd Neil ran bwysig yn cyflwyno’r sesiynau hyn, sydd nid yn unig wedi bod o fudd i drigolion Penrhys, ond i gymunedau cyfagos sy’n chwilio am gymorth â thai, hefyd.

Hefyd, darparodd y cymorthfeydd sesiynau cyngor ariannol a chroesawon nhw wasanaethau cymorth allanol i gefnogi’r bobl sy’n byw yno.

Cododd y preswylwyr nifer o broblemau, gan gynnwys y gwaith trwsio a oedd yn weddill ar ôl y pandemig. Yn Trivallis, fe wnaethom ni fynd i’r afael â’r problemau yn gyflym trwy ddarparu adnoddau pwrpasol a chynnig presenoldeb parhaus ar y safle i helpu blaenoriaethu a datrys.

Gwnaed gwelliannau i’r ardal hefyd, gan gynnal diwrnodau cynnal a chadw amgylcheddol mewn partneriaeth â phreswylwyr Penrhys a Chyngor Rhondda Cynon Taf. Gyda’n gilydd, rydym ni wedi clirio mannau gwyrdd, gwaredu gwastraff ac addysgu preswylwyr ar gynnal a chadw gerddi. Mae preswylwyr wedi dweud wrthym pa mor hapus ydyn nhw fod golwg eu hystâd wedi gwella.

Fe wnaeth Neil, ynghyd â rhai o’r gwirfoddolwyr a chymorth gan Trivallis, helpu i greu tair ardal eistedd sydd wedi dod yn boblogaidd gyda phreswylwyr yn yr ardal.

Mewn cyfnod o galedi ariannol, camodd Neil a gwirfoddolwyr yr eglwys i’r adwy trwy ddosbarthu parseli bwyd i bobl mewn angen. Gan gydnabod y galw am ‘fanc dodrefn’, agoron nhw un, gyda Trivallis yn darparu cyfleuster storio pwrpasol i gefnogi eu gwaith.

Fe wnaeth cau unig siop yr ystâd daro’r gymuned yn galed. Mae Tîm Partneriaeth Trivallis, mewn cydweithrediad â Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgol Gynradd Penrhys, yn gweithio ar brosiect dosbarthu bwyd cymunedol i ddarparu cyflenwadau fforddiadwy. Bydd y fenter hon yn cael ei staffio gan yr ysgol yn ystod y tymor a chan wirfoddolwyr yn ystod y gwyliau.

Meddai Neil: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf o weithio’n agos gyda chynrychiolwyr Trivallis wedi gweld newid dramatig ac mae’r gwaith rydym ni wedi bod yn ei wneud mewn partneriaeth â’n gilydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

“Yn ddiweddar, rydym ni wedi bod yn cael rhywfaint o sylw negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl sydd erioed wedi bod i’r ardal o’r blaen. Dydyn nhw ddim yn gwybod ein straeon, ein hanesion a pha mor agos rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd. Efallai nad ydyn nhw’n deall pam mae Penrhys yn bwysig i ni, ond byddai’n anodd i chi ddod o hyd i gymuned fwy gofalgar a chefnogol.”

 

Straeon tenantiaid

Rhannwch eich stori

comms@trivallis.co.uk

share your story image