Fy Trivallis i

Penrhys

Fel rhan o’n gweledigaeth hirdymor ar gyfer Penrhys, mae Trivallis a CBSRhCT yn parhau i gydweithio i wneud yn siŵr bod Penrhys yn lle gwych i fyw. Rydym am i’n tenantiaid fyw mewn cartref cyfforddus, diogel, mewn cymuned sy’n ffynnu.

Rydym yn gwybod bod llawer ohonoch chi’n pryderu am ddyfodol Penrhys ac i helpu dawelu eich meddyliau am ein hymrwymiad i chi ac i’r ystâd, roeddem am gymryd amser i amlinellu beth sy’n digwydd a pham.

Gyda’n gilydd, gobeithio y gallwn wneud y mwyaf o bob cyfle a ddaw o’r broses hon.

Yn y dyfodol, bydd y dudalen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y gwelliannau sy’n cael eu gwneud ym Mhenrhys.

Byddwn yn anfon cylchlythyron rheolaidd i denantiaid ac yn rhoi atebion i gwestiynau cyffredin.

Bae Caerdydd

Rydym ni’n atgyweirio waliau allanol ein pedwar adeilad ym Mae Caerdydd: Cogan House, Grangemoor House, Roath House, a Queen Alexandra House. Cawson ni rai problemau gyda’r waliau ac mae rheoliadau newydd ar gyfer sut y dylai adeiladau uchel gael eu hadeiladu, felly mae angen i ni wneud rhai newidiadau.

I wneud hyn, rydym ni’n tynnu’r hen waliau i lawr ac yn codi waliau newydd sy’n bodloni’r rheoliadau newydd. Bydd y tai’n well ac yn fwy diogel byw ynddynt, o ganlyniad.

Rydym ni eisoes wedi dechrau gweithio ar Grangemoor House, gan dynnu’r hen waliau i lawr a chodi sgaffaldau. Nesaf, byddwn ni’n adeiladu’r waliau newydd. Yn Roath House, rydym ni wedi gorffen paratoi a byddwn yn dechrau codi sgaffaldau cyn bo hir er mwyn dechrau gwaith yno, hefyd.

Perthcelyn

Ym mis Mehefin 2023, dechreuon ni brosiect arbennig o’r enw’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) ym Mherthcelyn. Mae hwn yn brosiect mawr sy’n digwydd ledled Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Nod OPR yw gwneud cartrefi’n well i bobl fyw ynddynt ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.

Byddwn yn uwchraddio tai i’w gwneud nhw’n gynhesach ac fel eu bod yn defnyddio llai o ynni, a fydd yn helpu i arbed arian ac amddiffyn y blaned trwy leihau llygredd.

Cyn i ni ddechrau’r uwchraddio, byddwn ni’n gwirio pob cartref i weld pa welliannau sydd eu hangen. Gallai’r rhain gynnwys ynysu gwell, paneli solar, trwsio toeon, neu osod systemau ynni clyfar.

Bydd y prosiect hwn yn digwydd dros y blynyddoedd nesaf ar draws mwy o’n hystadau. Pan fydd hi’n amser gweithio ar eich cartref chi, rhown wybod i chi. Ar ôl yr uwchraddio, mae’n siŵr y sylwch chi ar filiau ynni is, bod llai o wres yn dianc o’ch cartref a’ch bod chi’n rheoli’ch defnydd o ynni yn well.

Rydym ni’n gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni gyflwyno’r rhaglen hon i’n holl gartrefi. Os ydych chi’n poeni am arian neu eisiau awgrymiadau ar gyfer arbed arian, ewch i’n tudalennau Cyngor ac arweiniad.

 

Cae Fardre

Rydym ni’n gwneud cynlluniau i wneud ystâd Cae Fardre ym Mhentre’r Eglwys yn lle gwell a mwy diogel i bawb sy’n byw yno.

Yng ngham cyntaf ein cynlluniau, fe wnaethom ailgynllunio’r mannau cyhoeddus yn yr ystâd. Fe wnaeth hyn olygu gwneud newidiadau fel creu mwy o ardaloedd agored, gwella pa mor dda y gallwn ni weld o’n cwmpas, a rhwystro mannau preifat a llwybrau anniogel. Bydd y newidiadau hyn yn helpu i atal unrhyw drafferth a gwneud yr ystâd yn lle mwy cyfeillgar i fod.

Yn ogystal, fe wnaethom ddymchwel y garejis lle’r oedd pobl weithiau’n achosi problemau. Trwy gael gwared ar y mannau hyn, ein gobaith yw agor yr ardal i fyny a gwneud y llwybrau cerdded y tu ôl iddynt yn fwy diogel.

Trivallis Housing Landlord Wales A quiet residential neighbourhood on a sunny day with clear blue skies, featuring a cul-de-sac with houses and parked cars.

Cymorth

Cwestiwn?

Trivallis Housing Landlord Wales An elderly woman with gray hair and glasses smiling while in a Trivallis housing room, with blurred figures in the background.