Fy Trivallis i

Beth rydych chi’n ei gael ohono

Mae bod yn denant sy’n cymryd rhan yn golygu’ch bod chi’n cael dweud wrthym beth rydym ni’n ei wneud yn anghywir a sut gallwn ni wella pethau!

Rydych chi’n cael llais uniongyrchol mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref a’ch cymuned. Rhannwch eich meddyliau am welliannau, gwaith trwsio a materion cymdogaeth. Mae’n gyfle i’ch llais chi gael ei glywed, helpu i lunio ein gwasanaethau a chreu profiad byw gwell i bawb.

Gwneud newidiadau

Ymunwch â thenantiaid eraill sy’n cydweithio er newidiadau cadarnhaol yn ein cymdeithas tai.