Fy Trivallis i

Os ydych chi’n byw yn RhCT

I siarad am addasiadau i’ch cartref, mae angen i chi gysylltu â’r Tîm Addasu ac Offer y Gymuned (ACE) yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf. Eu rhif ffôn yw 01443 725765 neu gallwch e-bostio socialservices@rctcbc.gov.uk.

Os ydych chi’n byw ym Mae Caerdydd

Cysylltwch â’r tîm Iechyd Galwedigaethol yng Nghyngor Caerdydd os ydych chi’n cael trafferth symud o gwmpas eich cartref oherwydd anabledd corfforol, amhariad ar y synhwyrau neu henaint. 029 2023 4222 yw eu rhif ffôn.

P’un a ydych chi’n byw yn Rhondda Cynon Taf neu ym Mae Caerdydd, gallwch gysylltu â’r cyngor eich hun neu ofyn i aelod o’r teulu, gofalwr, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr iechyd proffesiynol neu aelodau o staff Trivallis wneud hynny drosoch chi. Bydd therapydd galwedigaethol o’r Cyngor yn ymweld â’ch cartref i ddeall eich anghenion ac awgrymu addasiadau. Byddan nhw’n rhoi gwybod pa waith sydd ei angen ar eich cartref.

Addasu eich cartref

Yn dibynnu ar beth mae’r Therapydd Galwedigaethol yn ei ddweud, gallwn wneud llawer o bethau i wneud eich cartref yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus i chi:

  • Gosod rheiliau a rampiau i atal llithro a chwympo
  • Gosod cawod wahanol er mwyn ymolchi’n fwy diogel
  • Ychwanegu lifft risiau neu declyn codi er mwyn symud yn haws
  • Cynnwys rampiau, llwybrau a grisiau’r tu allan er symudedd gwell
  • Addasu dulliau rheoli’r gwres neu’r golau er mwyn eu defnyddio’n haws
  • Ehangu drysau i ddefnyddwyr cadair olwyn
  • Gosod offer agor drysau â chymorth pŵer
  • Gosod ceginau lefel isel i ddefnyddwyr cadair olwyn

Weithiau, gallwn wneud newidiadau mawr fel adeiladu estyniad ar gyfer ystafell wely ar y llawr gwaelod neu greu lle parcio oddi ar y ffordd.

Faint mor hir y bydd yn ei gymryd

Bydd brys newidiadau yn cael ei arwain gan Therapydd Galwedigaethol y Cyngor. Byddwn yn gweithio i’w cwblhau cyn gynted â phosibl, ond gall fod rhestr aros, felly gorau po gyntaf y byddwch chi’n cysylltu.

Ystyried symud

Gallai’r Therapydd Galwedigaethol ystyried y byddai’n well i chi symud i gartref gwahanol sy’n haws ei addasu neu sy’n fwy addas i’ch anghenion. Os bydd yn argymell hyn, byddwn ni’n gwirio a oes cartref gwell, haws ei addasu, sy’n addas i’ch anghenion a’ch gofynion cymorth.

Rydym ni’n rhoi anghenion ein preswylwyr hŷn ac anabl yn gyntaf wrth wneud addasiadau. Rydym ni’n poeni am anghenion pob unigolyn a’n nod yw bod yn hyblyg, yn ymatebol ac yn barod i helpu, bob amser.

Angen ateb

Cysylltwch yma