Fy Trivallis i

Siaradwch â’n tîm 24/7

Mae ein ffonau’n cael eu hateb 24/7, ond plîs peidiwch â ffonio’r tu allan i oriau oni bai bod argyfwng.

A yw’n argyfwng?

Os oes rhywbeth wedi torri ac mae angen ei drwsio er mwyn osgoi mwy o drafferth neu i’ch cadw chi’n ddiogel – fel pibell sydd wedi torri, diffyg nwy, dŵr neu drydan, neu mae drws allanol wedi torri – mae hynny’n waith trwsio brys. I gael help ar frys, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt 24/7 ar 03000 030 888. Disgwyliwch amseroedd aros, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur ac amodau tywydd gwael.

Hefyd, gallwch roi gwybod am argyfyngau’r tu allan i oriau ar https://deltawellbeing.org.uk/delta-connect/out-of-hours-emergency/.

Cofiwch, dim ond argyfyngau go iawn, plîs!

Faint o amser hyd nes bydd yn cael ei drwsio?

Ein nod yw trwsio pethau cyn gynted â phosibl. Mae’r amser yn dibynnu ar ffactorau fel maint y broblem a’r math o waith sydd ei angen. Ar gyfer materion brys, gall gymryd rhwng 24 awr ac wythnos, tra gallai materion sydd â llai o frys gymryd 6 i 12 mis. Weithiau, byddwn ni’n trwsio pethau dros dro fel eu bod yn ddiogel, ac wedyn dychwelyd maes o law pan fydd yr holl ddeunyddiau gennym i wneud gwaith trwsio parhaol.

Mae 92% o’n gwaith trwsio yn cael ei gwblhau ar yr ymweliad cyntaf.

Mae ein tenantiaid wedi gosod terfynau amser i ni ar gyfer gwahanol fathau o waith trwsio. Cliciwch i ddarganfod faint o amser bydd yn ei gymryd i ni drwsio’ch problem.

Manylion apwyntiadau

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am broblem, byddwn ni’n rhoi amser i chi pan fydd person trwsio’n galw draw. Y diwrnod cynt, bydd ein tîm cymorth yn eich ffonio i wneud yn siŵr y byddwch chi yno. Os bydd eich cynlluniau’n newid, rhowch wybod i ni, fel y gallwn roi’r apwyntiad i rywun arall.

Eleni, cafodd bron i £640,000 ei wastraffu ar apwyntiadau coll gan nad oedd tenant gartref i’n gadael ni i mewn.

 

Archwilio neu newid eich gwaith trwsio

Os ydych chi wedi rhoi gwybod am waith trwsio, gwiriwch fanylion eich apwyntiad ar Fy Trivallis i. I newid neu ganslo, ffoniwch ni ar 03000 030 888.

Ailgodi tâl

Os oes angen trwsio rhywbeth oherwydd eich gweithredoedd chi, gallem ofyn i chi dalu cost y gwaith trwsio yn unol â’n polisi ar ailgodi tâl.

Os byddwch chi’n dweud wrthym fod rhywbeth yn argyfwng a byddwn ni’n darganfod nad yw’n argyfwng ar ôl dod i’ch cartref, bydd cost ychwanegol cael ein galw allan yn cael ei chodi arnoch chi.

Os na allwch chi dalu’n syth, siaradwch â ni. Gallwn ni drefnu cynllun talu i chi.

Sut i dalu am ailgodi tâl:

alert icon PayPoint

Defnyddiwch eich cerdyn Trivallis gwyn yn Swyddfa’r Post neu mewn siopau sydd â logo PayPoint

alert icon Ffoniwch ni heddiw

alert icon Debyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol ar gyfer taliadau haws

Beth os nad ydw i’n hapus

Mae ein timau gwaith trwsio yn delio â niferoedd uchel tu hwnt o alwadau (tua 60,000 y flwyddyn) ac, weithiau, mae’n cymryd amser i drwsio’r broblem. Rydym yn gwybod bod hyn yn gallu bod yn bryderus neu’n rhwystredig, ond ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 030 888 os nad ydych chi’n hapus â’r gwasanaeth a gawsoch. Rydym ni yma i wrando ac i helpu.

Cyfryngau cymdeithasol

Rydym ni’n deall – os nad ydych chi’n hapus gyda ni ac rydych chi’n awyddus bod rhywun yn gwrando arnoch chi, gallech ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym ni’n ceisio ymateb gyda help a chymorth i bob neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ond y ffordd gyflymaf o ddatrys y broblem yw ymestyn allan i’n Canolfan Gyswllt ar 03000 030 888. Dyma’r ffordd swyddogol o ddatrys pethau ac rydym ni’n barod i’ch helpu chi.

Rhoi gwybod am waith trwsio

A man carrying a toolbox smiling in front of a service van with