Fy Trivallis i

Llwyddiant Solar: Tenantiaid Sŵn yr Afon yn disgleirio

13 November 2025

Yn Sŵn yr Afon, mae tenantiaid yn gweld manteision ynni solar yn uniongyrchol gyda biliau is, ffordd wyrddach o fyw,…

Yn Sŵn yr Afon, mae tenantiaid yn gweld manteision ynni solar yn uniongyrchol gyda biliau is, ffordd wyrddach o fyw, a chyffro gwirioneddol am wneud newidiadau cadarnhaol yn y cartref.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ni ddal i fyny â thenantiaid, Cydlynwyr y Cynllun, ac arbenigwyr ynni adnewyddadwy GB Sol i glywed sut mae gosod paneli solar wedi gwneud gwahaniaeth. Mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect i helpu i leihau costau ynni wedi sbarduno ton o chwilfrydedd a hyder ymhlith tenantiaid sy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar ynni adnewyddadwy.

Disgrifiodd Debra, un o’r tenantiaid, yr effaith fel un “wych.” Ers i’r paneli solar gael eu gosod, mae hi wedi sylwi ar arbedion o rhwng £6 a £9 y mis ar ei biliau trydan ac mae hi eisoes yn addasu ei harferion dyddiol i arbed hyd yn oed mwy o ynni.” Rwy’n gwneud pethau nawr fel diffodd cyfarpar, defnyddio pethau mwy yn ystod y dydd, y byddwn i wedi eu gadael tan y nos weithiau,” meddai.

Mae’r newid bach hwnnw mewn meddylfryd yn lledaenu ar draws y gymuned. Mae tenantiaid yn dod yn fwy ymwybodol o’u defnydd o ynni, ar ôl cael eu hysbrydoli gan yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae’r dechnoleg yn gweithio a sut y gall newidiadau syml arwain at ganlyniadau go iawn.

Dywedodd Carol Cooper, Uwch Gydlynydd Cynllun, fod y dechnoleg wedi’i chyflwyno mewn ffordd gyfeillgar a hygyrch i sicrhau bod tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn wybodus. “Mae un tenant eisoes wedi gweld ei fil trydan arferol yn gostwng bron i hanner,” esboniodd Carol. “Mae wedi bod yn wych gweld sut mae pawb wedi ei gofleidio.”

Er bod peth nerfusrwydd cynnar, llwyddodd y bartneriaeth rhwng Trivallis a GB Sol i sicrhau bod y broses yn llyfn, gan dawelu meddyliau’r tenantiaid. Diolch i natur gyfeillgar y tîm gosod, roedd tenantiaid yn teimlo’n gyfforddus i ofyn cwestiynau a nawr, maen nhw hyd yn oed yn rhannu eu cynghorion arbed ynni eu hunain mewn boreau coffi.

Gwyliwch Llwyddiant Solar: Tenantiaid Sŵn yr Afon yn disgleirio

Mae’r prosiect wedi creu ymdeimlad o falchder heb ei ail yn Sŵn yr Afon. Mae tenantiaid nid yn unig yn mwynhau biliau is ond hefyd yn arwain y ffordd i adeiladu cymuned wyrddach, fwy cynaliadwy, un diwrnod heulog ar y tro.