Fy Trivallis i

Tidy People: Valley Veterans – Lle i Berthyn Eto

11 November 2025

Yn y bennod hon o Tidy People, fe wnaethom ni deithio i Don Pentre i gwrdd â'r gymuned ryfeddol yn Valley Veterans, sefydliad sydd wedi bod yn gweithio’n dawel yn newid bywydau – ac yn eu hachub – ers bron i 25 mlynedd.

Yn y bennod hon o Tidy People, fe wnaethom ni deithio i Don Pentre i gwrdd â’r gymuned ryfeddol yn Valley Veterans, sefydliad sydd wedi bod yn gweithio’n dawel yn newid bywydau – ac yn eu hachub – ers bron i 25 mlynedd.

Wrth wraidd y cyfan, mae’r sylfaenydd Paul Bromwell, a sefydlodd y grŵp ar ôl dychwelyd adref o’r lluoedd arfog a sylweddoli faint o help oedd ei angen arno. Mae’r hyn a ddechreuodd gyda Paul yn cefnogi llond llaw o gyn-filwyr lleol bellach wedi tyfu i fod yn un o’r sefydliadau mwyaf gweithgar ac eang i gyn-filwyr yng Nghymru.

“Wrth gerdded trwy’r drws, rydych chi’n darganfod yr hyn sydd wedi bod ar goll.”

Mae neges Paul i unrhyw un sy’n meddwl am ymuno yn syml.

Wrth i’w cyfnod o wasanaethu gyda’r lluoedd arfog ddod i ben, mae llawer o gyn-filwyr yn cael eu hunain heb y strwythur, y cyfeillgarwch a’r pwrpas sydd wedi bod yn rhoi siâp i’w bywydau. Yn Valley Veterans, mae’r pethau hynny yn dychwelyd yr eiliad y mae rhywun yn cerdded drwy’r drws.

“Rydyn ni’n helpu ein gilydd. Mae pwy bynnag sy’n dod trwy’r drws yn cael help os oes ei angen arnyn nhw,” meddai Paul. “Dydych chi ddim eich pen eich hun mwyach.”

I Paul, mae’r gwaith yn bersonol iawn. Ar ôl gwasanaethu yn y Falklands yn ddim ond 18 oed, dychwelodd adref yn berson gwahanol, gyda’r trawma o fod wedi colli ffrindiau agos a cheisio ymdopi â byd nad oedd bellach yn gwneud synnwyr iddo. Gyda chefnogaeth a thriniaeth, llwyddodd i ailadeiladu ei fywyd – a phenderfynodd ddefnyddio’r profiad hwnnw i sefyll ochr yn ochr ag eraill sy’n mynd trwy’r un peth.

Cyfeillgarwch, cellwair a gofod sy’n teimlo fel cartref

Does dim amheuaeth sut awyrgylch fydd yn Valley Veterans pan ewch chi i mewn. Mae pob bwrdd yn llawn, rhywun yn eistedd ymhob cadair, ac mae pob sgwrs yn llawn chwerthin, tynnu coes a’r math o straeon y mae’r rhai sydd wedi gwasanaethu yn eu deall i’r carn.

Mae cyn-filwyr o’r Fyddin, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges a chatrodau Cymreig yn eistedd ochr yn ochr. Mae rhai yn eu 80au ac eraill wedi gorffen eu cyfnod o wasanaeth yn ddiweddar ar ôl teithiau yn Irac neu Afghanistan. Mae un edefyn cyffredin sy’n dod â nhw’n ôl bob wythnos: cyfeillgarwch.

Fel y dywedodd un aelod, “Rydyn ni’n siarad wast, yn cael hwyl, ac yn teimlo ein bod ni’n perthyn eto.”

Ochr yn ochr â’r cellwair mae cefnogaeth ymarferol ar gael. Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda’r GIG, Mind, Saint John Ambulance a llawer o bartneriaid eraill sy’n cynnig cyngor, archwiliadau iechyd ac arweiniad ar bopeth o iechyd meddwl i blismona. Mae’n achubiaeth i lawer sydd ddim yn gwybod ble i droi fel arall.

Rhannu straeon, rhannu trafferthion

Mae llawer o aelodau yn siarad yn agored am yr anawsterau wnaethon nhw eu hwynebu ar ôl gorffen eu cyfnod fel milwr – PTSD, galar, ynysigrwydd, neu yn syml iawn teimlo fel nad oedden nhw’n ffitio i mewn mwyach. I rai, roedd y rhwystr i gerdded drwy’r drws yn enfawr.

Disgrifiodd un cyn-filwr sut y treuliodd ei gwnselydd oesoedd yn ei annog i ddod: “Doedd gen i ddim yr hyder. Ond trefnodd fy ngwraig bod rhywun yn cwrdd â mi y tu allan. Cerddais i mewn, eisteddais i lawr, ac roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi’u nabod ar hyd fy oes.”

Esboniodd un arall fod y grŵp wedi ei helpu i ddechrau siarad am ei iechyd meddwl am y tro cyntaf. “Does neb yn barnu yma. Os oes rhywbeth o’i le, rydych chi’n siarad am y peth. Mae’n gwneud popeth yn haws i ymdopi ag ef.”

Cymuned sy’n tyfu ac sy’n cefnogi ei gilydd

Mae Valley Veterans wedi tyfu cymaint fel bod Paul a’r tîm weithiau yn cael trafferth boddloni’r galw, ond dyw hynny ddim wedi effeithio dim ar eu hymrwymiad. Mae croeso yno i deuluoedd, partneriaid a phlant, ac mae’r sefydliad yn parhau i ddatblygu partneriaethau cryf gyda gwasanaethau ehangach er mwyn sicrhau bod help ar gael pryd bynnag y bydd ei angen.

Mae Paul yn falch o ba mor bell maen nhw wedi dod – ac o’r bywydau maen nhw wedi’u hachub ar hyd y ffordd.

“Os ydych chi’n helpu rhywun arall, rydych chi’n helpu chi eich hun,” meddai. “A dyna beth yw hanfod y lle hwn.”

Ydych chi’n meddwl am ddod draw?

P’un a wnaethoch chi wasanaethu ddegawdau yn ôl neu eich bod chi wedi gadael y lluoedd arfog yn ddiweddar, yr un oedd y neges gan bawb y buom yn siarad â nhw:

Cerddwch drwy’r drws.

Rhowch gynnig arni unwaith.

Byddwch chi’n falch ar ôl gwneud.

Mae’r bennod lawn o Tidy People ar gael nawr fel podlediad a fodlediad.

Mae Tidy People yn cael ei gyflwyno i chi gan Gymdeithas Tai Trivallis, gan ddathlu pobl gyffredin sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn ein cymunedau.

I gysylltu â ni: comms@trivallis.co.uk