Fy Trivallis i

Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai yn ymweld â Hwb Cymunedol Cae Fardre

3 October 2025

Mae Hwb Cymunedol Cae Fardre wedi dod yn lle poblogaidd ers agor y llynedd, a’r mis hwn croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant.

Mae Hwb Cymunedol Cae Fardre wedi dod yn lle poblogaidd ers agor y llynedd, a’r mis hwn croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant. Ymunodd hi â gwirfoddolwyr, tenantiaid lleol a staff Trivallis i glywed yn uniongyrchol am y gwahaniaeth mae’r Hwb yn ei wneud yn y gymuned.

Yn ystod ei hymweliad, siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet â’r rhai sy’n gyfrifol am yr Hwb am sut mae’n cefnogi teuluoedd gyda gweithgareddau, bwyd a lle diogel i ymgysylltu. Fe wnaeth y drafodaeth edrych ymlaen hefyd, gyda sgyrsiau ar sut yn union y cafodd ei sefydlu ac a ellid cyflwyno modelau tebyg mewn cymunedau eraill er mwyn dod â phobl at ei gilydd.

Meddai Jane Bryant:
“Pleser o’r mwyaf oedd ymweld â Hwb Cymunedol Cae Fardre a dysgu am ei daith a sut mae’n cefnogi pobl leol. Mae’n amlwg bod yr Hwb wir yn helpu i gryfhau’r gymuned leol.”

Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddathlu ymroddiad gwirfoddolwyr lleol a’r newid cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd yng Nghae Fardre, ac i edrych ymlaen at sut y gallai’r llwyddiant hwn ysbrydoli cymunedau eraill ledled y rhanbarth.