Fy Trivallis i

A allech chi neu’ch plentyn yn ei arddegau elwa ar y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant?

2 October 2025

Mae llawer o’r Cronfeydd yn dal heb eu hawlio, ac mae'r balans cyfartalog dros £2,000. A allech chi neu'ch plentyn yn ei arddegau elwa ar y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant?

A allech chi neu’ch plentyn yn ei arddegau elwa ar y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant?

Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo neu fuddsoddi a sefydlwyd gan lywodraeth y DU ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011. Roedd y llywodraeth yn cyfrannu arian i’r cyfrif i ddechrau, a gallai teuluoedd ychwanegu ato dros amser. Mae llawer o’r Cronfeydd yn dal heb eu hawlio, ac mae’r balans cyfartalog dros £2,000.

Os cawsoch eich geni yn y cyfnod hwnnw – neu os oes gennych chi blant yn yr ystod oedran honno – mae siawns bod Cronfa yn bodoli yn eich enw chi neu eich plentyn.

Sut i wirio am Gronfa Ymddiriedolaeth Plant (Am ddim a Hawdd)

Gall rhieni a phobl ifanc 16 oed a hŷn wirio gan ddefnyddio offeryn swyddogol CThEF:

  1. Mewngofnodwch gyda naill ai:
    • Rhif Adnabod Porth y Llywodraeth – rhif 12 digid ynghyd â chyfrinair. Os nad oes gennych chi un, gallwch gofrestru mewn munudau gydag e-bost a rhif ffôn symudol. Wedi anghofio eich rhif adnabod neu gyfrinair? Mae gan CThEF ddolenni adfer.
    • GOV.UK One Login – yn disodli Porth y Llywodraeth yn raddol.
  2. Rhowch eich manylion chi neu’ch plentyn: enw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif Yswiriant Gwladol.
  3. Arhoswch i glywed gan CThEF – o fewn tair wythnos, byddan nhw’n dweud wrthych chi pa ddarparwr sy’n dal y cyfrif. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnyn nhw, byddan nhw’n cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy’r post.
  4. Cysylltwch â’r darparwr i gael mynediad i’r cyfrif.

 

Nid oes angen i chi dalu cwmni hawliadau. Mae rhai cwmnïau yn codi cannoedd i olrhain cyfrifon, ond gallwch chi ddilyn y camau hyn yn rhad ac am ddim.

Nodiadau Pwysig

  • Os ydych chi’n 16 neu’n hŷn, gallwch wneud hyn eich hun, er mai dim ond pan fyddwch chi’n troi’n 18 oed y gallwch chi gael gafael ar yr arian.
  • Gall rhieni plant o dan 16 oed olrhain y cyfrif ar ran eu plant. Efallai y bydd  angen rhif cyfeirnod unigryw neu rif Yswiriant Gwladol y plentyn arnoch chi. Os nad oes gennych chi’r rhain, gallwch wneud cais drwy’r post.

 

Mae gwirio yn broses gyflym, yn rhad ac am ddim a gallai roi hwb i’ch cynilion – felly mae’n werth gweld a ydych chi’n gymwys heddiw.