Fy Trivallis i

Diweddariad cymunedol: Arddangosfeydd baneri a materion cysylltiedig

10 September 2025

Ein nod yw creu mannau cyhoeddus sy'n teimlo'n gyfeillgar ac yn agored, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu ac yn ddiogel.

Mae rhai trigolion wedi gofyn am arddangos baneri mewn mannau cyhoeddus fel rhan o ymgyrch o’r enw Operation Raise the Colours.

Ynglŷn â’r ymgyrch:

  • Dechreuodd yr ymgyrch yn 2025, tua’r un adeg â thwrnamaint Cwpan Rygbi’r Byd Menywod, sydd wedi arwain at rywfaint o ddryswch ynglŷn ai balchder chwaraeon yn unig sydd wrth wraidd yr ymgyrch.
  • Mae’n annog arddangos baneri cenedlaethol, gan gynnwys Jac yr Undeb, Croes San Siôr, ac yng Nghymru, y Ddraig Goch.
  • Er ei fod yn cyflwyno ei hun fel ymgais i hyrwyddo gwladgarwch a balchder cenedlaethol, mae gan rai grwpiau sy’n gysylltiedig gymhellion gwleidyddol, gan gynnwys negeseuon gwrth-fewnfudo a hiliol.

Pryderon yn ein cymunedau:

  • Mae baneri cenedlaethol yn rhan bwysig o hunaniaeth ddiwylliannol i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau wedi defnyddio’r ymgyrch hon i wthio negeseuon gwleidyddol, gan gynnwys safbwyntiau gwrth-fewnfudo.
  • Bu adroddiadau am iaith hiliol a symbolau Natsïaidd yn cael eu gosod ar waliau mewn rhai ardaloedd, sy’n annerbyniol a bydd hyn yn cael ei drin o ddifrif.
  • Efallai y bydd trigolion yn teimlo’n annifyr neu’n anniogel o amgylch baneri sy’n cael eu harddangos at ddibenion gwleidyddol.

Ein hagwedd:

  • Ein nod yw creu mannau cyhoeddus sy’n teimlo’n gyfeillgar ac yn agored, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu ac yn ddiogel.
  • Rydyn ni’n eich annog i gwestiynu honiadau beiddgar ac ystadegau rydych chi’n eu darllen ar-lein. Gofynnwch i chi’ch hun pa mor ddibynadwy yw’r ffynhonnell a chwestiynwch o ble neu gan bwy mae’n dod. Gweler ein cyngor blaenorol ar hyn yma.
  • Rydyn ni’n annog trigolion i roi gwybod am unrhyw graffiti hiliol neu symbolau sarhaus fel y gellir eu tynnu’n gyflym.

 

Cysylltu a rhoi gwybod:
Os oes gennych chi bryderon neu os hoffech gyngor, cysylltwch â 999 mewn argyfwng neu 101 i roi gwybod am ymddygiad neu graffiti sy’n hiliol neu’n targedu poblogaeth benodol.

Gallwch siarad â Cymorth i Ddioddefwyr fel dewis arall i’r Heddlu. Maen nhw’n darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol, cyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.

Gallwch ffonio Cymorth i Ddioddefwyr am ddim ar unrhyw adeg ar 0300 3031 982.

Ewch i wefan Cymorth i Ddioddefwyr lle gallwch roi gwybod am droseddau casineb a chlywed mwy am gael help.

 

Cyfryngau Cymdeithasol:

Mae rhai trigolion wedi rhannu pryderon am Operation Raise the Colours. Er bod baneri cenedlaethol yn bwysig i lawer, mae’r ymgyrch hefyd wedi ei chysylltu â negeseuon gwleidyddol, gan gynnwys safbwyntiau gwrth-fewnfudo.

Rydyn ni am i bawb deimlo’n ddiogel a theimlo bod croeso iddyn nhw yn ein cymunedau. Os oes gennych chi bryderon neu os hoffech chi gael cyngor, cysylltwch â 999 mewn argyfwng neu 101 i roi gwybod am ymddygiad neu graffiti sy’n hiliol neu’n targedu poblogaeth benodol.