Fy Trivallis i

Diwrnod Cymunedol Mawr yn Llys Llandraw. Diolch o galon i bawb a aeth amdani!

20 August 2025

Yn ddiweddar, fe wnaeth ein tenantiaid, staff Trivallis, Interlink, a Hope Rescue i gyd dorchi eu llewys, rhannu syniadau, a gweithio law yn llaw i wella'r gofod yn Llys Llandraw.

Yn ddiweddar, fe wnaeth ein tenantiaid, staff Trivallis, Interlink, a Hope Rescue i gyd dorchi eu llewys, rhannu syniadau, a gweithio law yn llaw i wella’r gofod yn Llys Llandraw. Roedd yn rhan o’r ymweliadau Ar Grwydr yr haf hwn, ac yn enghraifft wych o’r hyn sy’n digwydd pan fyddwn ni’n dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth.

Roedd mwy i’r diwrnod na dim ond tacluso’r gofod awyr agored. Roedd yn gyfle i gael sgyrsiau go iawn, gwrando ar bryderon tenantiaid a dysgu sut i gefnogi’r gymdogaeth.

Torchi ein llewys

Dechreuodd y bore gyda chompost yn cyrraedd, adeiladu gwelyau blodau, a gosod byrddau a chadeiriau ychwanegol fel y gallai pawb fod yn gyfforddus. Aeth y tîm o wirfoddolwyr ati i sandio a farneisio mainc yr ardd, llenwi bocsys blodau, ac ychwanegwyd lliw i’r gofod. Roedd gan y Tîm Cynnwys Cymunedol de, coffi a dŵr yn barod i denantiaid fyddai’n galw heibio.

“Rydyn ni’n credu bod y syniadau gorau yn dechrau gyda sgwrs, a heddiw, roedd cyfleoedd di-ri i gael rhai o’r sgyrsiau go iawn hynny,” meddai Lucy, ein Partner Datblygu Cymunedol.

“Mae’n ymwneud â gwrando, dysgu, a gweithio gyda’r gymuned i sicrhau newid go iawn.”

Trivallis Housing Landlord Wales A woman with light hair tied back is holding up a round artificial topiary ball outdoors near a white shed. Another person’s hand is visible assisting her. The scene takes place on a sunny day.

Plannu, sgwrsio, a gwneud gwahaniaeth

O fewn dim, roedd gofod yr ardd yn fôr o liw a bwrlwm. Plannwyd blodau a llwyni, cliriwyd sbwriel, a dechreuodd y gofod deimlo’n fwy lliwgar a chroesawgar. Aeth rhai trigolion ati i blannu, gydag eraill yn mwynhau eistedd yn ôl a chael sgwrs, a chafodd bawb gyfle i fod yn rhan o’r diwrnod yn eu ffordd eu hunain.

Dywedodd Martin, tenant a wirfoddolodd: “Cafwyd llond gwlad o wahanol weithgareddau heddiw ac mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn. Ac i’r bobl sy’n byw yma, am unwaith bydd ganddyn nhw rywbeth sy’n eithaf taclus.”

Mwy na dim ond taclus

Rhannodd staff a thenantiaid straeon, cafodd syniadau eu cyfnewid a bu pawb yn cynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’i gilydd. Dywedodd Debra, a helpodd i arwain y gweithgareddau: “Mae mwy i hyn na dim ond gwella’r gofod awyr agored. Rydyn ni’n meithrin perthnasoedd, yn grymuso ein gilydd, ac yn creu cymuned y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.”

Dewch draw i ddweud helo!

Mae ymweliadau ar grwydr fel hyn yn ein hatgoffa bod y pethau bychain a sgyrsiau cyfeillgar yn gwneud byd o wahaniaeth. Os ydych chi’n ein gweld ni mewn digwyddiad yn eich ardal leol, galwch heibio. Mae ein digwyddiadau achlysurol yn gyfeillgar, yn hwyl, ac mae croeso cynnes i bawb.