Fy Trivallis i

Ar Grwydr dros yr Haf

7 August 2025

Byddwn ni'n ymweld â digwyddiadau lleol ledled yr ardal i gwrdd â thrigolion, cael sgyrsiau go iawn a chefnogi'r pethau gwych sydd ar y gweill yn eich ardal.

Dewch draw i siarad â ni a chymryd rhan

Yr haf hwn, rydyn ni ar grwydr a bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi.

Byddwn ni’n ymweld â digwyddiadau lleol ledled yr ardal i gwrdd â thrigolion, cael sgyrsiau go iawn a chefnogi’r pethau gwych sydd ar y gweill yn eich ardal. Mae’n golygu dod at ein gilydd, cymryd rhan a helpu i lunio’r lleoedd rydyn ni’n eu galw’n gartref.

 

Pam rydyn ni’n gwneud hyn

Credwn fod y syniadau gorau’n dechrau gyda sgwrs. Y nod yw gwrando, dysgu a gweithio gyda chi – ein tenantiaid a’n cymdogion – i wneud newidiadau cadarnhaol.

Pan fyddwn ni’n ymweld â’r digwyddiadau hyn, ein nod yw:

  • Cwrdd a chysylltu â thrigolion a grwpiau lleol
  • Dysgu am yr hyn rydych chi’n angerddol amdano, eich cryfderau a’ch syniadau
  • Clywed beth sy’n fwyaf pwysig i chi
  • Rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am dai, cyngor ariannol a gwasanaethau cymorth
  • Cefnogi camau gweithredu lleol a’ch helpu chi i ddweud eich dweud
  • Gweld y potensial am gynghorwyr tenantiaid ac arweinwyr cymunedol y dyfodol

 

Dewch i ddweud helo!

Mae ein stondinau gwib yn gyfeillgar, yn hwyl ac mae croeso i bawb. Bydd yna weithgareddau i bawb, adnoddau i helpu i sbarduno sgwrs a digon o le i gael clonc.

Bydd hi’n hawdd i chi’n gweld ni, diolch i’n baneri, ein fflagiau a thaflenni Trivallis.

Os byddwch chi’n ein gweld ni mewn digwyddiad yn eich ardal, cofiwch alw am sgwrs ac i gymryd rhan. P’un a ydych chi eisiau dweud eich dweud,, gofyn cwestiwn, rhoi cynnig ar weithgarwch neu ddim ond dweud helo – bydden ni wrth ein bodd yn eich gweld chi.

Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wneud ein cymunedau yn llefydd gwell fyth i fyw.

Gobeithio’ch gweld chi dros yr haf.