Fy Trivallis i

10 cartref newydd ar gael cyn hir ym Mron y Dyffryn, y Ddraenen Wen

7 July 2025

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Trivallis wedi prynu safle fflatiau Bron y Dyffryn ar Heol Dynea, y Ddraenen Wen, a fydd yn cael ei drawsnewid yn 10 cartref dwy ystafell wely newydd maes o law.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Trivallis wedi prynu safle fflatiau Bron y Dyffryn ar Heol Dynea, y Ddraenen Wen, a fydd yn cael ei drawsnewid yn 10 cartref dwy ystafell wely newydd maes o law.

Mae’r datblygiad hwn yn rhan o Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i llunio i ysgafnhau’r pwysau ar lety dros dro drwy greu opsiynau tai mwy sefydlog, tymor hwy ledled Cymru.

Ar ôl eu cwblhau, bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu gan yr awdurdod lleol, a fydd â rheolaeth lawn dros y broses ddyrannu i sicrhau eu bod yn cael eu rhoi i unigolion a theuluoedd â’r angen mwyaf. Bydd Trivallis yn cefnogi’r awdurdod lleol gyda’r dyraniadau unwaith y bydd y cartrefi yn barod.

Meddai Jonathan Davies, Rheolwr Adfywio Asedau Trivallis:

“Diolch i gyllid y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, gallwn sicrhau bod eiddo fel hyn yn cael ei ddefnyddio eto, gan helpu i gynyddu argaeledd cartrefi mawr eu hangen yn ein cymunedau. Mae’n enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth a buddsoddi wneud gwahaniaeth go iawn.”

Dyma gam cyffrous ymlaen i ddarparu cartrefi diogel a chefnogi pobl i symud ymlaen o lety dros dro i leoedd lle gallan nhw ffynnu mewn gwirionedd.

Cadwch lygad am ddiweddariadau wrth i’r prosiect cyffrous hwn symud ymlaen.