Fy Trivallis i

Cam wrth gam: Sut mae’r Marauders yn newid y sgwrs ynghylch iechyd meddwl dynion

15 May 2025

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ymunodd Trivallis â’r grŵp Marauders Men’s Health ar un o’u teithiau cerdded wythnosol i…

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ymunodd Trivallis â’r grŵp Marauders Men’s Health ar un o’u teithiau cerdded wythnosol i ddarganfod sut y gall mynd am dro syml gael effaith bwerus ar les dynion yn y De.

Mae’n fore Mercher hyfryd yn y Bont-faen. Mae tua ugain o ddynion – ac ambell gi – wedi ymgynnull ar gyfer y Yellow Morgannwg Walk, taith chwe milltir drwy gefn gwlad lleol. Ond mae mwy i hyn nag ymarfer corff – mae’n ymwneud â chysylltiad.

“Rydyn ni’n griw gwych o ddynion,” meddai Jeremy Sims, Rheolwr Rhaglen y Marauders. “Rydyn ni’n cerdded, rydyn ni’n siarad ac rydyn ni’n gofalu am ein gilydd.”

Trivallis Housing Landlord Wales A group of people stands side by side on a wooden bridge over a small stream, surrounded by trees and greenery on a sunny day. A dog is visible in the bottom left corner near the fence.

Mae’r Marauders, a sefydlwyd i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol dynion, yn cynnal teithiau cerdded wythnosol a gweithgareddau cymdeithasol am ddim, gan gynnwys y Torfaen Walk ddydd Llun a chyfarfod hamddenol Brew with a View ddydd Iau.

“Mae mwy i’r peth na cherdded,” meddai Ed Jennings, sy’n aelod hirhoedlog. “Mae’n dy gael di allan o’r tŷ. Rydyn ni’n cael paned, rhôl facwn a sgwrs. Hyd yn oed os yw hi’n bwrw glaw, mae rhywun dal eisiau dod.”

Meddai Jeff, sy’n aelod newydd: “Fe wnaeth yr enw ‘Marauders’ ddal fy sylw i – fe wnaeth i mi feddwl am y Llychlynwyr! Ond mewn gwirionedd, grŵp o ddynion yw e sy’n cerdded, siarad a rhannu. Mae’n hwyl, ac mae’n falm i’r enaid.”

Mae Marauders Men’s Health yn ein hatgoffa ni y gall camau bach, syml – fel cerdded a siarad – gael effaith fawr. Wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, maen nhw’n cynnig esiampl wych o sut y gall grwpiau ar lawr gwlad ddechrau sgyrsiau a rhwydweithiau cymorth hollbwysig.

Ewch i’w tudalen Facebook am ragor o wybodaeth.