Fy Trivallis i

Cynnydd Safle Pen-y-graig – yn ôl ar y trywydd iawn

14 April 2025

Rydyn ni yn ôl ar y safle ym Mhen-y-graig, ac yn hapus i rannu bod y gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo'n dda ar ein datblygiad o 27 o gartrefi cynaliadwy newydd ar hen safle'r ysgol iau.

Rydyn ni yn ôl ar y safle ym Mhen-y-graig, ac yn hapus i rannu bod y gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo’n dda ar ein datblygiad o 27 o gartrefi cynaliadwy newydd ar hen safle’r ysgol iau.

Er bod y prosiect wedi profi oedi cychwynnol, mae yna fomentwm nawr unwaith eto. Mewn partneriaeth â Cartrefi, rydyn ni’n darparu cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, tai 2 a 3 ystafell wely, a byngalos wedi’u haddasu, i gyd wedi’u cynllunio i fodloni safonau WDQR Llywodraeth Cymru.

  • Mae’r fframiau pren wedi’u gosod
  • Mae’r gwaith brics a gwaith mewnol yn mynd rhagddo
  • Y nod yw cwblhau yn gynnar yn 2026

Dyma ein datblygiad di-nwy cyntaf, gyda phob cartref wedi’i bweru gan bympiau gwres o’r aer ac wedi’i gyfarparu â phaneli solar ffotofoltaig – cam mawr tuag at fyw bywyd gwyrddach.

Diolch yn fawr iawn i Gyngor RhCT a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus drwy’r Grant Tai Cymdeithasol.

Gwyliwch ein fideo diweddaraf ar y safle i gael golwg ar y cynnydd: