Fy Trivallis i

Ymdopi â chynnydd mewn prisiau ym mis Ebrill

11 April 2025

Dyma ddadansoddiad o'r hyn sy'n newid a rhai ffyrdd rhagweithiol o wneud i'ch arian weithio'n galetach.

Mae 1 Ebrill wedi dod â rhai newidiadau mewn prisiau a allai fod wedi dal eich sylw – cynnydd yn y dreth gyngor, biliau ynni, trethi dŵr, rhent, a mwy.

Er y gall hyn deimlo’n llethol iawn, y newyddion da yw bod yna gamau ymarferol y gallwch eu cymryd i gadw rheolaeth o’ch cyllid a dod o hyd i gynilion ychwanegol.

Dyma ddadansoddiad o’r hyn sy’n newid a rhai ffyrdd rhagweithiol o wneud i’ch arian weithio’n galetach.

Beth sy’n newid o 01 Ebrill

  • Y dreth gyngor – Mae’r rhan fwyaf o gynghorau wedi cynyddu’r dreth tua 5 y cant, sy’n golygu bil misol uwch.
  • Biliau ynni – Er bod y Cap Prisiau Ynni wedi newid, mae taliadau sefydlog wedi codi, sy’n golygu y gallech weld cynnydd yn eich biliau.
  • Trethi dŵr – Mae biliau’n cynyddu 6 y cant ar gyfartaledd, yn dibynnu ar eich darparwr.
  • Costau band eang a symudol – Mae llawer o ddarparwyr yn codi prisiau gan 7 i 9 y cant, felly efallai y byddwch chi’n sylwi ar fil uwch.

Sut i gadw rheolaeth ar y sefyllfa ac arbed arian

Tra bod y newidiadau hyn yn digwydd, mae yna ddigon o ffyrdd y gallwn ni weithredu a dod o hyd i arbedion.

Dyma rai meysydd allweddol i ganolbwyntio arnyn nhw:

Arbedion ynni a dŵr

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi ar y tariff gorau – Os nad ydych chi wedi’ch cloi i mewn i gontract, gallai newid darparwr arbed arian i chi.
  • Defnyddiwch lai heb sylwi – Gall diffodd offer wrth y plwg, golchi dillad ar 30 gradd, a chyfyngu ar eich defnydd o’r sychwr dillad leihau’ch biliau ynni.
  • Gwnewch gais am declynnau arbed dŵr – Mae llawer o gwmnïau dŵr yn cynnig teclynnau am ddim i leihau’r defnydd o ddŵr a lleihau biliau.

Y dreth gyngor, rhent a biliau’r cartref

  • Edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i dderbyn gostyngiadau – Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, os ydych chi ar incwm isel, neu os ydych chi mewn band treth gyngor penodol, efallai y gallwch chi leihau’ch bil.
  • Trafodwch gynllun talu – Os ydych chi’n teimlo na allwch ymdopi â’ch biliau, gall cysylltu â’ch cyngor neu ddarparwr gwasanaeth i drafod cynlluniau talu helpu i ysgafnhau’r pwysau.
  • Ymchwiliwch i opsiynau cymorth rhent – Os yw’ch rhent wedi cynyddu, edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth tai ar ffurf Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol. Gallwch hefyd siarad â’ch landlord am opsiynau talu.

Arbedion bwyd ac wrth siopa

  • Defnyddiwch gynlluniau teyrngarwch ac apiau arian yn ôl – Gall cardiau teyrngarwch archfarchnadoedd, apiau fel Too Good To Go, a safleoedd arian yn ôl leihau costau.
  • Cynlluniwch eich prydau – Gall creu rhestr a pharatoi prydau ymlaen llaw atal prynu pethau’n ddifeddwl a lleihau gwastraff.
  • Siopa clyfar – Gall prynu cynhyrchion brand yr archfarchnad ei hun a chymharu prisiau fesul uned ymestyn eich cyllideb ymhellach.

Costau band eang a symudol

  • Bargeiniwch gyda’ch darparwr – Os yw’ch contract yn dod i ben, ffoniwch a gofynnwch am well bargen. Mae llawer o gwmnïau yn cynnig gostyngiadau i’r rhai sy’n gofyn.
  • Chwiliwch am dariffau cymdeithasol – Os ydych chi ar fudd-daliadau, mae rhai darparwyr yn cynnig pecynnau band eang rhatach.
  • Cymerwch olwg ar sawl gwefan cymharu, gan nad ydyn nhw i gyd yn dangos yr un bargeinion – Efallai y gwelwch chi bris gwell yn rhywle arall.

Cael cymorth a chyngor

Mae yna lond gwlad o adnoddau ar gael i’ch helpu i lywio’r newidiadau hyn. Does dim rhaid i chi wneud y cyfan ar eich pen eich hun.

  • Angen ychydig o arweiniad? Mae ein Tîm Cynghori Ariannol yma yn Trivallis ar gael i  ddarparu cymorth cyfeillgar, cyfrinachol ac am ddim. Os oes angen help arnoch i gyllidebu, cyngor ar fudd-daliadau, neu awgrymiadau ar dorri costau, rydyn ni’n hapus i gael sgwrs.
  • Cymerwch olwg ar yr adnoddau sydd ar gael ar-lein – Mae gan wefannau fel MoneyHelper, Cyngor ar Bopeth, a Turn2Us offer a chyngor ar reoli cyllid.

Ydych chi’n dipyn o giamstar ar arbed arian? Beth am rannu’ch profiad a’ch syniadau gydag eraill? Gallwch rannu gyda ffrindiau, teulu, neu ar y cyfryngau cymdeithasol – gallai’ch cyngor fod yn help mawr i rywun arall efallai.

Ac i gloi…

Er y gall codiadau mewn prisiau fod yn rhwystredig, mae yna bob amser ffyrdd o gymryd rheolaeth a gwneud i’ch arian weithio’n galetach. Trwy archwilio opsiynau cymorth, rhannu cyngor, a gwneud newidiadau bach, gallwch gadw cam ar y blaen a chadw’ch cyllid ar y trywydd iawn.

Angen help? Cysylltwch â Thîm Cyngor Ariannol Trivallis heddiw.